Cyfarfodydd

NDM6668 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 28/02/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ad-drefnu gweinidogol: adroddiad yr Ysgrifennydd Parhaol

NDM6668 Paul Davies (Preseli Penfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru i gyhoeddi, gyda'r golygiadau priodol er mwyn sicrhau bod y tystion yn parhau i fod yn anhysbys, yr adroddiad i'w hymchwiliad ynghylch a oes unrhyw dystiolaeth y cafodd gwybodaeth ei rhannu o flaen llaw heb ganiatâd - hynny yw, y datgelwyd gwybodaeth heb ganiatâd - gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr ad-drefnu gweinidogol diweddar.

 

ITV Cymru - Leak inquiry clears First Minister - 25 Ionawr 2018  (Saesneg yn unig)

 

Wales Online - Outside the headlines: Politics updates from Cardiff Bay, Westminster and our town halls - 25 Ionawr 2018 (Saesneg yn unig)

 

Cyd-gyflwynwyr

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.02

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6668 Paul Davies (Preseli Penfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru i gyhoeddi, gyda'r golygiadau priodol er mwyn sicrhau bod y tystion yn parhau i fod yn anhysbys, yr adroddiad i'w hymchwiliad ynghylch a oes unrhyw dystiolaeth y cafodd gwybodaeth ei rhannu o flaen llaw heb ganiatâd - hynny yw, y datgelwyd gwybodaeth heb ganiatâd - gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr ad-drefnu gweinidogol diweddar.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

26

0

51

Derbyniwyd y cynnig.