Cyfarfodydd

P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Gweinidog Addysg a'r deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yn dilyn y camau a gymerwyd i atgoffa penaethiaid, cyrff llywodraethu ac eraill am yr angen i sicrhau bod asesiadau risg dosbarth Dylunio a Thechnoleg yn cael eu diweddaru drwy'r cylchlythyr Dysg. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor yn dymuno diolch i'r deisebydd am godi'r mater hwn.

 


Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i gwestiynu pa mor effeithiol y bydd yr erthygl yng nghylchlythyr Dysg wrth atgoffa arweinwyr ysgolion i ailystyried asesiadau risg yn ymwneud â dosbarthiadau Dylunio a Thechnoleg, a gofyn pam na ellir cynhyrchu canllawiau mewn perthynas â'r pwnc hwn.

 


Cyfarfod: 19/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i aros am ddiweddariad pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet, a barn y deisebydd, cyn ystyried a oes angen unrhyw gamau pellach ynglŷn â'r ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 01/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghyd â sylwadau eraill gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn:

·         a fydd ei hymrwymiad i atgoffa Penaethiaid, ac eraill, o'u dyletswyddau yn y maes hwn ar ffurf nodyn cyngor yn ôl cais y deisebydd; ac

·         iddi roi copi ohono i'r Pwyllgor pan fydd wedi'i lunio.

 


Cyfarfod: 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu nôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i rannu'r wybodaeth bellach a ddarparwyd gan y deisebydd a gofyn:

 

    • am ei barn yng ngoleuni'r ffaith ei bod yn ymddangos bod cyfyngiad yn ei le mewn rhai rhannau eraill o'r DU;
    • a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried adolygu addasrwydd y canllawiau presennol ac i ba raddau y mae ysgolion yng Nghymru yn eu dilyn; ac
    • a fydd yn ystyried opsiynau heblaw am ddeddfwriaeth ar gyfer gwireddu nodau'r ddeiseb.