Cyfarfodydd
Independent Advisors
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/03/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Penodi Cynghorwyr Annibynnol newydd ar gyfer y Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Ystyriodd
y Comisiynwyr gynigion ar gyfer recriwtio a dethol carfan newydd o Gynghorwyr Annibynnol
yn 2018 a 2019, wrth baratoi ar gyfer diwedd y trefniadau presennol.
Mae
Cynghorwyr Annibynnol y Comisiwn yn gweithredu mewn rôl anweithredol ac
anwleidyddol, gan roi cyngor a her adeiladol i Gomisiynwyr ac uwch reolwyr ar
sawl agwedd ar fusnes y Comisiwn. Mae tri Chynghorydd Annibynnol, ynghyd ag un
Comisiynydd yn aelodau o ACARAC ac mae Bwrdd Taliadau’r Comisiwn hefyd yn
cynnwys tri Chynghorydd.
Cytunodd
y Comisiynwyr ar y cynigion recriwtio, gyda’r broses recriwtio a dethol i gael
ei rheoli’n fewnol, a chan ddefnyddio asiantaeth chwilio weithredol i nodi
ymgeiswyr ar gyfer y cam rhestr hir.