Cyfarfodydd

P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny.

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 24/02/2021 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr at y Cadeirydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 24/02/2021 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ofyn a yw wedi ymgymryd ag unrhyw waith ynghylch gweithredu canllawiau NICE yn ystod y Senedd hon, neu a fyddai hwn yn faes y byddai'n ystyried ei argymell i bwyllgor olynol yn y Chweched Senedd. Yn dilyn hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 


Cyfarfod: 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn:

·         sut mae Llywodraeth Cymru’n ystyried argymhellion a gynhyrchwyd yn ddiweddar yn natganiad safbwynt Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar Anhwylderau Personoliaeth (Saesneg yn unig), a

·         pha gamau y gall y Gweinidog eu cymryd yn erbyn byrddau iechyd y dangosir nad ydynt yn “ystyried canllawiau clinigol NICE yn llawn.”

 


Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 PP-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am ymateb Llywodraeth Cymru i'w hadroddiad ar ddeiseb P-05-736 Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Mwy Hygyrch, yn enwedig yr argymhellion ynghylch mynediad at therapïau seicolegol, cyn ystyried a yw'n gallu cymryd camau pellach ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-812 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ymddiriedolaethau i weithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am ei farn ynghylch y ddeiseb.

  • sut y caiff yr arian ychwanegol ar gyfer therapïau seicolegol ei wario;
  • cynnwys cynllun gweithredu'r Pwyllgor Cenedlaethol ar Reoli Therapïau Seicolegol;
  • nifer y therapyddion sydd ar gael ar hyn o bryd, y gost fesul person o ddarparu triniaeth - gan gynnwys ar gyfer lleoliadau y tu allan i'r ardal - ac unrhyw ddadansoddiad sy'n ymwneud ag effeithiolrwydd triniaeth ar gyfer anhwylder personoliaeth ffiniol.

 

 


Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-812 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ymddiriedolaethau i weithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebydd a chytunwyd  ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch datblygu gwasanaethau therapi seicolegol, gan gynnwys y cyllid a roddwyd i fyrddau iechyd, ers ei lythyr blaenorol ym mis Mehefin 2018.

 


Cyfarfod: 11/12/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor grynodeb o'r ymatebion a gafwyd gan fyrddau iechyd yng Nghymru yn ymwneud â manylion am y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd i bobl ag anhwylder personoliaeth ffiniol yn eu hardaloedd.  Cytunodd yr Aelodau i ofyn am farn y deisebydd ar y gyfres lawn o ymatebion a ddarparwyd gan y byrddau iechyd ac, yn sgil y rhain, gofyn iddo amlinellu unrhyw ffyrdd penodol, yn ei farn ef, y gellir gwella'r gwasanaethau neu'r gefnogaeth a ddarperir ar gyfer Anhwylder Personoliaeth Ffiniol.

 


Cyfarfod: 09/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-812 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ymddiriedolaethau i weithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan fyrddau iechyd lleol a'r deisebydd a chytunodd i:

  • fynd ar drywydd ymateb nad oedd wedi ei gael gan un bwrdd iechyd; a
  • gofyn i Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad am ddadansoddiad o'r ymatebion a ddaeth i law a chymhariaeth â chynnwys canllawiau NICE.

 

 


Cyfarfod: 03/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at fyrddau iechyd lleol i ofyn:

·         am fanylion am y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd gydag anhwylder personoliaeth ffiniol yn eu hardaloedd;

·         a yw gwasanaethau arbenigol ar gael fel yr awgrymwyd gan ganllawiau NICE.

 


Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ymateb i'r awgrym nad yw nifer o fyrddau iechyd yng Nghymru yn dilyn canllawiau NICE ar gyfer trin anhwylder personoliaeth ffiniol, ac y gall pobl sydd â'r diagnosis hwn wynebu gwaharddiad rhag gwasanaethau therapi seicolegol cyfredol; ac
  • ystyried ysgrifennu at Fyrddau Iechyd Lleol yn y dyfodol, yn dibynnu ar yr ymateb a geir.