Cyfarfodydd

P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth, a chytunodd i gau’r ddeiseb yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn adolygu ei chanllawiau ar bresenoldeb mewn ysgolion ac mae’n bwriadu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn y dyfodol, a’r ymrwymiad a wnaed gan y Gweinidog Addysg bod cyflwyno’r posibilrwydd o gofnodi absenoldebau fel rhai sy’n gysylltiedig â chyflwr iechyd cronig yn cael ei ystyried fel rhan o’r gwaith hwnnw.

 


Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o wybodaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn am ddiweddariad ar yr adolygiad o bolisi presenoldeb ysgolion a syniad o ran amseriadau ar gyfer y camau nesaf, gan gynnwys cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.

 

 


Cyfarfod: 11/12/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i gadw golwg ar y ddeiseb hyd nes y cyhoeddir y fframwaith diwygiedig ar bresenoldeb mewn ysgolion y flwyddyn nesaf, cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am:

 

  • ei hymateb i'r awgrym gan y deisebydd y dylai cofrestrau presenoldeb gynnwys gofod i nodi absenoldebau o ganlyniad i gyflyrrau iechyd cronig; a'r
  • wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ynghylch yr adolygiad o ganllawiau presenoldeb.

 


Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         aros am safbwyntiau'r deisebydd ar yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg;

·         ystyried camau pellach, gan gynnwys ysgrifennu at Estyn, ar ôl cael safbwyntiau'r deisebydd.