Cyfarfodydd
Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2019-20
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/09/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Ymateb i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - gwariant gyda chyflenwyr o Gymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Nododd y Comisiwn
wybodaeth sy’n cael ei darparu i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn ymateb i
gais bod y Comisiwn yn ysgrifennu, erbyn mis Medi 2021, i nodi pa ymgysylltiad
y mae wedi'i wneud â chyrff cyhoeddus eraill, a'r camau y mae'n bwriadu eu
cymryd i wella gwariant gyda chyflenwyr o Gymru o ganlyniad.
Cyfarfod: 08/02/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr ymateb
y Comisiwn i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a ddarparwyd ers y
cyfarfod diwethaf.
Cyfarfod: 07/12/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a gyhoeddwyd ar 26 Tachwedd, a
chytunwyd y dylai deiliad y portffolio gytuno ar yr ymateb y tu allan i’r
cyfarfod.
Cyfarfod: 02/11/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Llythyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dilyn y
sesiwn dystiolaeth yn ymwneud â chraffu ar gyllideb ar gyfer 2019-20, ym mis
Medi.
Cyfarfod: 27/01/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Cyllideb atodol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 13
- Cyfyngedig 14
- Cyfyngedig 15
Cofnodion:
Trafododd y
Comisiynwyr gynigion ar gyfer cyllideb atodol, oddeutu £0.35 miliwn, i'w
cynnwys yng nghynnig cyllideb Llywodraeth Cymru.
Dyma’r prif ffactorau
a lywiodd y gyllideb atodol hon:
• Tanwariant ar Benderfyniad y Bwrdd Taliadau
(lleihau'r dyraniad i dalu costau’r Penderfyniad £0.500 miliwn);
• Cyfrifiad cost canol blwyddyn cyllid
pensiwn y Safon Cyfrifyddu Rhyngwladol 19 (IAS19) (cynyddu cyllideb gostau’r
cyllid pensiwn £0.150 miliwn).
Nododd a chymeradwyodd
y Comisiynwyr y Memorandwm Esboniadol, a fydd yn gostwng Cyllideb 2019-20 £0.35
miliwn; a llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Cyfarfod: 23/05/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
5 Cyllideb Atodol Gyntaf Comisiwn y Cynulliad 2019-20
Papur 6 - Memorandwm Esboniadol, Cyllideb Atodol Gyntaf
Comisiwn y Cynulliad 2019-20
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
5.1 Nododd
y Pwyllgor y cyflwynwyd y fersiwn flaenorol a ystyriwyd ar 15 Mai 2019 mewn
camgymeriad a chytunodd ar y fersiwn gywir o Gyllideb Atodol Gyntaf Comisiwn y
Cynulliad 2019-20.
Cyfarfod: 15/05/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/05/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/05/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
5 Cyllideb Atodol Gyntaf Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20
Papur 10 -
Memorandwm Esboniadol, Cyllideb Atodol Gyntaf Comisiwn y Cynulliad 2019-20
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
5.1
Trafododd y Pwyllgor y cais gan Gomisiwn y Cynulliad ynghylch cyllideb atodol
cyntaf a'i nodi.
Cyfarfod: 01/04/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Cyllideb Atodol Comisiwn y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 26
- Cyfyngedig 27
- Cyfyngedig 28
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
Cyflwynwyd papur i'r
Comisiynwyr yn egluro sut y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau pensiwn y
cyflogwr, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2019, yn effeithio ar Gynllun Pensiwn y
Gwasanaeth Sifil.
Cadarnhaodd y papur fod
gwybodaeth wedi dod i law gan Swyddfa'r Cabinet yn nodi y bydd cyfraniadau
pensiwn y cyflogwr i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn codi o 21 y cant i
28 y cant ar gyfartaledd.
Nododd y Comisiynwyr y
datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd. Trafodwyd yr angen i baratoi cyllideb atodol
i ddiwallu'r angen hwn a chytunwyd ar y cam o gyflwyno Memorandwm Esboniadol a
fydd yn sicrhau cynnydd o £0.965 miliwn yn y gyllideb staffio (cyfraniadau
pensiwn).
Nododd y Comisiynwyr y
llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan gytuno ar ei gynnwys.
Bydd y Memorandwm
Esboniadol (Cyllideb Atodol) yn cael ei osod yn unol â'r Rheolau Sefydlog yn
ystod mis Mai/Mehefin 2019.
Cyfarfod: 05/11/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Ymateb i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb y Comisiwn ar gyfer 2019-20
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
- Cyfyngedig 33
- Cyfyngedig 34
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am hynt Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20
drwy'r broses graffu. Roedd y Pwyllgor Cyllid wedi adrodd a chytunodd y
Comisiynwyr ar ymateb y Comisiwn i'r argymhellion a godwyd yn adroddiad y
Pwyllgor Cyllid. Cytunodd y Comisiynwyr y bydd dogfen y gyllideb derfynol ar
gyfer 2019-20 yn cael ei gosod ar 7 Tachwedd 2018. Caiff ei thrafod yn y
Cyfarfod Llawn ar 14 Tachwedd.
Cyfarfod: 24/09/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Strategaeth y Gyllideb - Cyllideb y Comisiwn 2019-20
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
- Cyfyngedig 39
Cyfarfod: 09/07/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Strategaeth y Gyllideb - Cyllideb y Comisiwn 2019-20
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 42
- Cyfyngedig 43
- Cyfyngedig 44
- Cyfyngedig 45
Cofnodion:
Fel rhan o
ddatblygiad parhaus Cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2019-20, ystyriodd y
Comisiynwyr nifer o agweddau sy'n dod i'r amlwg o ran eu dull o gyllidebu, a
rhoddwyd cyfarwyddyd er mwyn i'r gwaith o baratoi'r gyllideb ddrafft barhau, yn
barod i'w hystyried ym mis Medi.
Roedd eu
hystyriaethau'n cynnwys:
• cytuno ar ymateb i'r llythyr ymgynghori
gan Gadeirydd y Bwrdd Taliadau at y Llywydd ar ail ymgynghoriad y Bwrdd ar
gynigion sy'n deillio o adolygiad o gymorth staffio i'r Aelodau;
• rhagolygon ar gyfer 2018-19;
• cyflwyno cyllideb ddrafft 2019-20, yng
ngoleuni'r argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid; a
• phrosiectau blaenoriaeth posibl ar gyfer
2019-20.
Cytunodd y
Comisiynwyr na ddylid cyhoeddi'r papur gwaith hwn. Caiff y gyllideb ddrafft ei gosod ar ôl
ystyriaeth derfynol y Comisiwn ym mis Medi.
Cyfarfod: 04/06/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Strategaeth y Gyllideb a Chyllideb y Comisiwn 2019-20
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 48
- Cyfyngedig 49
- Cyfyngedig 50
Cyfarfod: 30/04/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Strategaeth y Gyllideb a Chyllideb y Comisiwn 2019-20
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 53
- Cyfyngedig 54