Cyfarfodydd

Plenary and other Assembly business at alternative locations

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/09/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Mynd â busnes y Cynulliad o Gaerdydd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr gynigion ar gyfer mynd â busnes y Cynulliad i leoliad y tu allan i Gaerdydd a chytunwyd y byddai'r Llywydd yn ysgrifennu at Gadeiryddion grwpiau ac arweinwyr pleidiau’n amlinellu'r achos ac yn ceisio eu barn am lefel y diddordeb yn y math hwn o waith ymgysylltu.  

 


Cyfarfod: 30/04/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Cynnal y Cyfarfod Llawn a busnes arall y Cynulliad mewn lleoliadau eraill

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 5