Cyfarfodydd

NDM6720 - Debate on a Member's Legislative Proposal – An electric vehicle charging planning Bill

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/05/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Bil cynllunio gwefru cerbydau trydan

NDM6720 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig am fil cynllunio gwefru cerbydau trydan.

2. Yn nodi mai diben y bil hwn fyddai:

a) gosod canllawiau cynllunio ar gyfer datblygiadau newydd, boed hwy yn adeiladau cyhoeddus neu yn dai;

b) sicrhau bod adeiladau newydd yn gorfod cynnwys pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan;

c) ei gwneud hi’n haws i bobl allu defnyddio cerbydau trydan er mwyn lleihau allyriadau carbon.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.13

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.