Cyfarfodydd
NDM6731 Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Cyllid Prifysgolion
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 06/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 06/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Cyllid Prifysgolion
NDM6731
Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu adolygiad arfaethedig
Llywodraeth y DU o gyllid prifysgolion a gyhoeddwyd ar 19 Chwefror 2018.
2. Yn nodi'r adroddiadau gan y
Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu: 'Over-qualification and skills
mismatch in the graduate labour market' a 'The graduate employment gap:
expectations versus reality'.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU
a Llywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda'i gilydd i
ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer cyllid myfyrwyr yn y dyfodol;
b) diddymu ffioedd dysgu ar
gyfer myfyrwyr STEM, meddygol a nyrsio; ac
c) ehangu cwmpas Cyngor
Cyllido Addysg Uwch Cymru i adolygu cyrsiau gradd ar gyfer enillion
disgwyliedig, a chyhoeddi'r adolygiadau hyn i bob darpar fyfyriw.
Chartered
Institute of Personnel and Development - Over-qualification and skills mismatch
in the graduate labour market (Saesneg yn unig)
Chartered
Institute of Personnel and Development - The graduate employment gap:
expectations versus reality (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Julie James
(Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adolygiad Llywodraeth Cymru o gyllid addysg
uwch a gafodd ei arwain gan yr Athro Syr Ian Diamond a’i gyhoeddi ar 27 Medi
2016.
2. Yn nodi i Adolygiad Diamond ganfu mai costau byw oedd
y prif rwystr i’r rhai hynny a oedd yn gwneud penderfyniad ynghylch mynd i’r
brifysgol.
3. Yn croesawu’r pecyn newydd ar gyllid i fyfyrwyr ar
gyfer 2018/19 a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu:
a) y bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth cynhaliaeth sy’n
gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol – y cymorth mwyaf hael yn y DU;
b) y gall pob myfyriwr cymwys hawlio isafswm grant o
£1,000 na fydd yn rhaid iddynt ei dalu yn ôl; ac
c) mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn Ewrop i gyflwyno cymorth
cynaliaeth sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol i israddedigion amser
llawn a rhan-amser. Caiff ei gynnig i fyfyrwyr ôl-raddedig yn 2019.
Adolygiad
Annibynnol o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru
[Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant
2 – Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu bod Cymru yn profi draen dawn, gyda mwy o
raddedigion prifysgol yn gadael Cymru nag yn ymgartrefu yn y wlad.
Yn cydnabod llwyddiant sefydliadau addysg bellach Cymru o
ran cefnogi cadw talent yn economi Cymru.
Yn gresynu at y diffyg rhaglenni prentisiaethau lefel 6+
sydd ar gael yng Nghymru i wella sgiliau'r gweithlu.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) darparu mwy o gymhellion i raddedigion prifysgol
ymgartrefu yng Nghymru unwaith y byddant wedi gorffen eu graddau;
b) annog mwy o ymgysylltu rhwng sefydliadau addysg uwch
ac addysg bellach i hyrwyddo cadw talent; ac
c) hyrwyddo argaeledd mwy o raglenni prentisiaethau lefel
6+ yng Nghymru.
Gwelliant
3 – Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
d) gweithredu argymhellion adolygiad Diamond ar gyfer
Llywodraeth Cymru i annog myfyrwyr i aros yng Nghymru i astudio neu ddychwelyd
i Gymru ar ôl graddio.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.42
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6731 Caroline Jones (Gorllewin
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu adolygiad arfaethedig Llywodraeth y DU o gyllid
prifysgolion a gyhoeddwyd ar 19 Chwefror 2018.
2. Yn nodi'r adroddiadau gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu:
'Over-qualification and skills mismatch in the graduate labour market' a 'The
graduate employment gap: expectations versus reality'.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer cyllid
myfyrwyr yn y dyfodol;
b) diddymu ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr STEM, meddygol a nyrsio; ac
c) ehangu cwmpas Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i adolygu cyrsiau gradd
ar gyfer enillion disgwyliedig, ac chyhoeddi'r adolygiadau hyn i bob darpar
fyfyriwr.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
6 |
0 |
46 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin
Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru.
1. Yn nodi adolygiad
Llywodraeth Cymru o gyllid addysg uwch a gafodd ei arwain gan yr Athro Syr Ian
Diamond a’i gyhoeddi ar 27 Medi 2016.
2. Yn nodi i Adolygiad
Diamond ganfu mai costau byw oedd y prif rwystr i’r rhai hynny a oedd yn gwneud
penderfyniad ynghylch mynd i’r brifysgol
3. Yn croesawu’r pecyn
newydd ar gyllid i fyfyrwyr ar gyfer 2018/19 a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru,
sy’n golygu:
a) y bydd myfyrwyr yn
derbyn cymorth cynhaliaeth sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol – y
cymorth mwyaf hael yn y DU;
b) y gall pob myfyriwr
cymwys hawlio isafswm grant o £1,000 na fydd yn rhaid iddynt ei dalu yn ôl; ac
c) mai Cymru yw’r wlad
gyntaf yn Ewrop i gyflwyno cymorth cynaliaeth sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw
Cenedlaethol i israddedigion amser llawn a rhan-amser. Caiff ei gynnig i
fyfyrwyr ôl-raddedig yn 2019.
[Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 a 3 eu dad-ddethol]
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
25 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod
gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6731 Caroline Jones (Gorllewin
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adolygiad Llywodraeth
Cymru o gyllid addysg uwch a gafodd ei arwain gan yr Athro Syr Ian Diamond a’i
gyhoeddi ar 27 Medi 2016.
2. Yn nodi i Adolygiad
Diamond ganfu mai costau byw oedd y prif rwystr i’r rhai hynny a oedd yn gwneud
penderfyniad ynghylch mynd i’r brifysgol
3. Yn croesawu’r pecyn
newydd ar gyllid i fyfyrwyr ar gyfer 2018/19 a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru,
sy’n golygu:
a) y bydd myfyrwyr yn
derbyn cymorth cynhaliaeth sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol – y
cymorth mwyaf hael yn y DU;
b) y gall pob myfyriwr
cymwys hawlio isafswm grant o £1,000 na fydd yn rhaid iddynt ei dalu yn ôl; ac
c) mai Cymru yw’r wlad
gyntaf yn Ewrop i gyflwyno cymorth cynaliaeth sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw
Cenedlaethol i israddedigion amser llawn a rhan-amser. Caiff ei gynnig i
fyfyrwyr ôl-raddedig yn 2019.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
16 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.