Cyfarfodydd
NDM6739 Dadl Plaid Cymru - Ariannu Ysgolion
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 13/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 13/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 13/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Ariannu Ysgolion
NDM6739 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod yr argyfwng ariannu mewn ysgolion yng Nghymru.
2.
Yn nodi ei effaith ar lwythi gwaith athrawon, morâl y staff ac argaeledd
adnoddau ysgol sydd, yn ei dro, yn cael effaith andwyol ar addysg plant.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
dwyn ynghyd randdeiliaid allweddol yn y system addysg i ystyried modelau ariannu
amgen ar gyfer ysgolion;
b)
sicrhau bod prosesau mor dryloyw â phosibl a lleihau biwrocratiaeth yn y broses
o ariannu ysgolion; ac
c)
sicrhau bod pob ysgol yn cael digon o arian i ddarparu addysg o ansawdd uchel
ar gyfer pob disgybl.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y canlynol i
gefnogi ysgolion a chodi safonau:
a) darparu £36 miliwn ychwanegol i leihau maint
dosbarthiadau babanod;
b) cefnogi’r broses o greu rheolwyr busnes ysgolion i
leihau llwyth gwaith diangen a chaniatáu i benaethiaid ganolbwyntio ar safonau
ysgolion;
c) gweithio gyda’r proffesiwn i leihau biwrocratiaeth yn
yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â hybu dysgu proffesiynol;
d) cynnig manteisio ar ddatganoli cyflogau ac amodau
athrawon fel cyfle i godi statws y proffesiwn addysgu; a
e) buddsoddi mwy na
£90 miliwn yn y Grant Datblygu Disgyblion i gefnogi dysgwyr mwyaf
difreintiedig Cymru.
[Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant
2 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru yn darparu tua £1.20
o gyllid i Gymru am bob £1 sy'n cael ei wario ar addysg yn Lloegr.
Gwelliant
3 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddwyn ynghyd randdeiliaid
allweddol yn y system addysg i ystyried:
a) y ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu; a
b) y ffyrdd y gellir symleiddio'r cyllidebau a ddyrennir
i awdurdodau lleol, consortia ac ysgolion er mwyn lleihau biwrocratiaeth a
defnyddio'r gyllideb addysgol gyffredinol yn fwy effeithiol.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.22
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6739 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr argyfwng
ariannu mewn ysgolion yng Nghymru.
2. Yn nodi ei effaith ar lwythi
gwaith athrawon, morâl y staff ac argaeledd adnoddau ysgol sydd, yn ei dro, yn
cael effaith andwyol ar addysg plant.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) dwyn ynghyd randdeiliaid
allweddol yn y system addysg i ystyried modelau ariannu amgen ar gyfer
ysgolion;
b) sicrhau bod prosesau mor
dryloyw â phosibl a lleihau biwrocratiaeth yn y broses o ariannu ysgolion; ac
c) sicrhau bod pob ysgol yn
cael digon o arian i ddarparu addysg o ansawdd uchel ar gyfer pob disgybl.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
43 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y canlynol i
gefnogi ysgolion a chodi safonau:
a) darparu £36 miliwn ychwanegol i leihau maint
dosbarthiadau babanod;
b) cefnogi’r broses o greu rheolwyr busnes ysgolion i
leihau llwyth gwaith diangen a chaniatáu i benaethiaid ganolbwyntio ar safonau
ysgolion;
c) gweithio gyda’r proffesiwn i leihau biwrocratiaeth yn
yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â hybu dysgu proffesiynol;
d) cynnig manteisio ar ddatganoli cyflogau ac amodau
athrawon fel cyfle i godi statws y proffesiwn addysgu; a
e) buddsoddi mwy na
£90 miliwn yn y Grant Datblygu Disgyblion i gefnogi dysgwyr mwyaf
difreintiedig Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
25 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru yn darparu tua £1.20
o gyllid i Gymru am bob £1 sy'n cael ei wario ar addysg yn Lloegr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei
ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y canlynol i
gefnogi ysgolion a chodi safonau:
a) darparu £36 miliwn ychwanegol i leihau maint
dosbarthiadau babanod;
b) cefnogi’r broses o greu rheolwyr busnes ysgolion i
leihau llwyth gwaith diangen a chaniatáu i benaethiaid ganolbwyntio ar safonau
ysgolion;
c) gweithio gyda’r proffesiwn i leihau biwrocratiaeth yn
yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â hybu dysgu proffesiynol;
d) cynnig manteisio ar ddatganoli cyflogau ac amodau
athrawon fel cyfle i godi statws y proffesiwn addysgu; a
e) buddsoddi mwy na £90 miliwn yn y Grant Datblygu
Disgyblion i gefnogi dysgwyr mwyaf difreintiedig Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
24 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.