Cyfarfodydd
Gyllideb Atodol Cyntaf Llywodraeth Cymru 2018-19
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/09/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 19/09/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 19/09/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
2 PTN2 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2018-19 - 10 Awst 2018
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 10/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 10/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 10/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2018-19
NDM6748 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn
cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 19
Mehefin 2018.
Troednodyn:
Yn
unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol
Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
i.
y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth
Cymru;
ii.
yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y
flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
iii.
cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y
Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
iv.
cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan
yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y
cynnig;
v.
cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r
Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran
125(1)(c); a
vi.
manylion unrhyw ddiwygiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau
Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y’u nodir yn y protocol
y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r
wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
-
nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Dogfen Ategol
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.19
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod
Pleidleisio.
NDM6748 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn
cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 19
Mehefin 2018.
Troednodyn:
Yn
unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol
Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
i.
y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth
Cymru;
ii.
yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y
flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
iii.
cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y
Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
iv.
cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan
yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y
cynnig;
v.
cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r
Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c);
a
vi.
manylion unrhyw ddiwygiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau
Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y’u nodir yn y protocol
y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r
wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
-
nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
30 |
23 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 05/07/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 1)
- Gweddarllediad ar gyfer 05/07/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 05/07/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
1 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2018-19: Trafod yr adroddiad drafft
Papur 1 – Adroddiad drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (1/1)
Cofnodion:
1.1
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad ar ôl gwneud rhai mân newidiadau.
1.2
Roedd Mark Reckless AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon.
Cyfarfod: 27/06/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 27/06/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 27/06/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
3 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2018-19: sesiwn dystiolaeth
Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Matthew Denham Jones, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Rheoli Ariannol
Sharon Bounds, Pennaeth Rheoli Cyllidebau
Papur 1 - Cynnig y Gyllideb Atodol Gyntaf 2018-19
Dogfennau ategol:
- FIN(5)-16-18 P1 Cynnig y Gyllideb Atodol Gyntaf 2018-19, Eitem 3 PDF 784 KB
- Briff Ymchwil , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/2)
Cofnodion:
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyllid; Matthew
Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheoli Ariannol; a Sharon Bounds, Pennaeth
Rheoli Cyllidebau Llywodraeth Cymru ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru
2018-19.
Cyfarfod: 27/06/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 27/06/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 27/06/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2018-19: trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.