Cyfarfodydd

Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro - Y Bumed Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/08/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod nesaf.

Cofnodion:

O dan Reol Sefydlog 17.22, cytunodd yr Aelodau i benodi Carwyn Jones AS yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod ar 24 Awst 2020, yn amodol ar gael ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AS.

 


Cyfarfod: 18/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Cynnig i ethol Cadeirydd Dros Dro a Llywydd Dros Dro dynodedig

NNDM7313 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 6.24D, yn ethol David Melding yn Gadeirydd Dros Dro o dan y telerau a bennir o dan Reol Sefydlog 6.24E.

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 6.24A, yn ethol David Melding yn Llywydd Dros Dro dynodedig 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.30

NNDM7313Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 6.24D, yn ethol David Melding yn Gadeirydd Dros Dro o dan y telerau a bennir o dan Reol Sefydlog 6.24E.

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 6.24A, yn ethol David Melding yn Llywydd Dros Dro dynodedig 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 16/03/2020 - Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd - Y Pumed Cynulliad (Eitem 4)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod ar 20 Ebrill 2020

Cofnodion:

4.1  Tynnwyd y cynnig yn ôl.


Cyfarfod: 26/02/2020 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

Etholwyd Helen Mary Jones yn Gadeirydd dros dro i gymryd yr awenau gan Bethan Sayed.

 


Cyfarfod: 06/01/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd Pwyllgor dros dro

Cofnodion:

Oherwydd bod Mick Antoniw, Cadeirydd y Pwyllgor wedi anfon ei ymddiheuriadau, gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer ethol Cadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. Enwebodd Carwyn Jones Dai Lloyd, a etholwyd yn briodol.

 


Cyfarfod: 14/11/2019 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

4.1 Etholwyd David Melding AC yn Gadeirydd Pwyllgor dros dro ar gyfer y cyfarfod; derbyniodd yr aelodau’r cynnig.

 

 


Cyfarfod: 11/11/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 18 Tachwedd 2019

Cofnodion:

4.1     Cytunodd yr Aelodau i benodi Huw Irranca-Davies yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod ar 18 Tachwedd 2019.

 


Cyfarfod: 24/10/2019 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd Pwyllgor dros dro

Cofnodion:

4.1 Enwebodd y Cadeirydd David Melding AC yn Gadeirydd Pwyllgor dros dro ar gyfer y cyfarfod ar 6 Tachwedd; derbyniodd yr aelodau’r cynnig.

 


Cyfarfod: 23/09/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i benodi Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

Oherwydd bod Mick Antoniw, Cadeirydd y Pwyllgor wedi anfon ei ymddiheuriadau, gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer ethol Cadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. Enwebodd Carwyn Jones Dai Lloyd, ac etholwyd ef.

 


Cyfarfod: 13/05/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

1.1 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, cafodd Alun Davies AC ei benodi'n Gadeirydd dros dro am gyfnod y cyfarfod.

 


Cyfarfod: 14/02/2019 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

1.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig


Cyfarfod: 31/01/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

5.1 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, penodwyd Helen Mary Jones AC yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod ar 6 Chwefror 2019.

 


Cyfarfod: 03/12/2018 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

1.1 Cafodd Jane Hutt ei hethol yn Gadeirydd dros dro.

 


Cyfarfod: 10/10/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

1.1 Penodwyd Siân Gwenllian AC fel Cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod.

 


Cyfarfod: 25/06/2018 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i benodi Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

1.1 Agorodd y Clerc y cyfarfod yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor, gan ddweud bod Jane Hutt wedi'i henwebu yn Gadeirydd Dros Dro. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad, felly cafodd Jane Hutt ei hethol yn briodol.