Cyfarfodydd

P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil y ffaith bod y Gweinidog Addysg wedi dangos parodrwydd i ymyrryd o’r blaen mewn sefyllfaoedd lle mae pryderon nad yw awdurdodau lleol wedi dilyn y Cod Trefniadaeth Ysgolion, ac oherwydd ei bod yn ymddangos nad oes llawer o arwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno proses apelio yn erbyn cau ysgolion ar hyn o bryd. Roedd y Pwyllgor am ddiolch i’r deisebwyr am eu hymgysylltiad a dymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol.

 


Cyfarfod: 11/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Trafod y papur opsiynau: P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i ofyn am safbwyntiau amrywiaeth o sefydliadau ynghylch yr achos o blaid, a’r goblygiadau posibl, pe bai dull apelio ar gyfer cynigion i gau ysgolion yn cael ei gyflwyno, gan gynnwys:

  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru;
  • Grwpiau ymgyrchu, a 
  • Chynrychiolwyr o’r sector cyfreithiol

 


Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am bapur yn amlinellu'r gwaith craffu a roddwyd ar fater apeliadau yn erbyn cau ysgolion ar yr adeg y pasiwyd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ynghyd ag opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen ag ystyried rhinweddau mecanwaith apelio ymhellach.

 


Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i:

·         ysgrifennu at y deisebwyr ac eraill i roi gwybod iddynt mai'r cam gweithredu priodol yw iddynt godi eu pryderon yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog Addysg a gofyn iddi ystyried a oes cyfiawnhad iddi ymyrryd yn yr achos hwn, fel yr amlinellir yn ei llythyr; a 

·         ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn gofyn iddi am ymateb i'r cynnig y dylid cael ffordd uniongyrchol i lywodraethwyr ysgolion apelio penderfyniadau a wneir o dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion, a gofyn iddi ddarparu manylion ynghylch unrhyw ystyriaeth a roddwyd i'r broses apeliadau yn ystod yr adolygiad o'r Cod.

 


Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg er mwyn:

  • gofyn beth yw bwriad Llywodraeth Cymru mewn amgylchiadau pan na fydd awdurdodau lleol yn dilyn gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion; a
  • gofyn am eglurhad ynghylch pa bwerau sydd ganddi i ymyrryd mewn penderfyniadau ynghylch cau ysgolion, gan gynnwys pa bryd, ac o dan ba amgylchiadau, y mae'n gallu ymyrryd.

 

 

 


Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl ar y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn.