Cyfarfodydd

P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil y camau sy’n cael eu cymryd ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad neu gyfyngiadau ar eitemau plastig defnydd sengl, a chydnabod yr amserlenni sy’n gysylltiedig â chyflwyno gwaharddiad o’r fath.

 


Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am wybodaeth bellach am yr ymrwymiadau y gwnaeth yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 16 Hydref mewn perthynas â chyflwyno gwaharddiad neu gyfyngiad ar eitemau plastig untro penodol yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-750 a P-05-803, a chytunodd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriadau perthnasol a gynhelir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y cyd, cyn ystyried a ddylai gymryd camau pellach ar y deisebau.

 


Cyfarfod: 18/10/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch nifer o ddeisebau ar wahardd eitemau plastig untro.

 


Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • aros am ymateb gan y deisebwyr i'r ohebiaeth a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd; ac
  • ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i rannu manylion am y deisebau presennol ar y pwnc hwn yng nghyd-destun ymchwiliad y Pwyllgor i lygredd microblastigau yn afonydd Cymru.