Cyfarfodydd

P-05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) a phob Awdurdod Lleol arall

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/02/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) a phob Awdurdod Lleol arall

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail mai ychydig o gamau pellach y gellid eu cymryd ar hyn o bryd, yn wyneb y ffaith bod y Cynulliad wedi cytuno ar Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20 ar 15 Ionawr 2019 a bod y Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau pwnc eraill wedi craffu arni.

 


Cyfarfod: 15/11/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a phob Awdurdod Lleol arall

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a phob Awdurdod Lleol arall


Cyfarfod: 15/11/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN1 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau – P-05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a phob Awdurdod Lleol arall – 6 Tachwedd 2018

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/11/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr at y Cadeirydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau: Deiseb P05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a phob Awdurdod Lleol arall

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/11/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - P-05-840 Cyllid Teg ar gyfer Sir Castell-nedd Port Talbot

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) a phob Awdurdod Lleol arall

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n Gynghorydd ar Gyngor Caerdydd ar hyn o bryd.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno ar y camau a ganlyn:

  • Rhannu manylion y ddeiseb â Chadeiryddion Pwyllgorau eraill, lle y bo'n briodol, cyn eu sesiynau craffu ar y gyllideb;
  • Ysgrifennu at bob awdurdod lleol a CLlLC i ofyn am eu barn am broses cyllideb Llywodraeth Cymru a'r heriau presennol i awdurdodau lleol;
  • Ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y canlynol;
    • gofyn iddo roi rhagor o fanylion am ddyraniadau cyllideb llywodraeth leol drafft ar ôl i'r cynlluniau gwariant gael eu cyhoeddi ar 23 Hydref; a

o   cheisio eglurhad ar sut y bydd y £30 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a nodir yn y gyllideb ddrafft yn cael ei ddyrannu a'i ddarparu.