Cyfarfodydd

P-05-845 Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-845 Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Dai Lloyd AC fuddiant gan ei fod wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â’r deisebydd yn y gorffennol.

 

Yn absenoldeb tystiolaeth am wrthdaro buddiannau, a’r wybodaeth am y mesurau diogelwch presennol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

 

 


Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-845 Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Neil Hemington a Stephen Phipps. 

 

Cytunodd y Pwyllgor i ymateb yn ysgrifenedig i'r deisebydd i ofyn am ei ymateb i'r dystiolaeth a glywyd ac i nodi barn y Pwyllgor nad yw'n ymddangos bod llawer arall y gellid ei gyflawni ar hyn o bryd, oni bai bod gan y deisebydd unrhyw wybodaeth ychwanegol i'w rhannu.  

 


Cyfarfod: 19/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-845 Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach am y ddeiseb a chytunodd i gadw'r ddeiseb nes bod modd cynnal sesiwn dystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar sawl deiseb sy'n gysylltiedig â chynllunio.

 


Cyfarfod: 11/12/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-845 Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodrath Leol a Gwasaneathau Cyhoeddus, y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol a'r deisebydd, a chytunodd i:

  • ysgrifennu at yr Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn am ei fyfyrdodau ar y materion a godwyd yn y ddeiseb, ac i ofyn am arwydd o nifer y gohebiaethau a'r cwynion a gafwyd mewn perthynas â gwrthdaro buddiant yn y broses gynllunio;
  • ysgrifennu'n ôl i'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol i ofyn am syniad o nifer y gohebiaethau a'r cwynion y maent yn eu cael mewn perthynas â gwrthdaro buddiant yn y broses gynllunio, ac am eglurhad o p'un a yw swyddogion cynllunio yn gallu ymgymryd ag unrhyw waith preifat yn ardal eu hawdurdod lleol, er enghraifft, lle mae'r ardal honno wedi'i rhannu'n bwyllgorau ardal; a
  • gofyn am bapur briffio arall gan y Gwasanaeth Ymchwil ar y cyfyngiadau presennol ar swyddogion cynllunio i ymgymryd â gwaith preifat.

 

 


Cyfarfod: 23/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-845 Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at y canlynol:

 

  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn am ei farn am ymateb manwl y deisebydd ac, yn benodol, pa mor effeithiol y mae'r Cod presennol yn cael ei fonitro ac a fyddai'n ystyried adolygiad o'r Cod mewn perthynas â threfniadau ar gyfer swyddogion cynllunio lleol; a'r

·         Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol i ofyn am ei farn am y materion a godwyd yn y ddeiseb.