Cyfarfodydd

Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Dadl ar Gyfnod 4 y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

NDM7123 - Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo'r Bil Deddfwriaeth (Cymru).

Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.26

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7123 - Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo'r Bil Deddfwriaeth (Cymru).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 01/07/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol at y Cyfreithiwr Cyffredinol: Bil Deddfwriaeth (Cymru)

CLA(5)-21-19 – Papur 14 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 26 Mehefin 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol at y Cyfreithiwr Cyffredinol.

 


Cyfarfod: 27/06/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN2 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol ynghylch y Bil Deddfwriaeth (Cymru) - 18 Mehefin 2019

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Dadl ar Gyfnod 3 y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:

1. Diffiniadau yn Rhan 1 o’r Bil

13, 14

2. Rhaglen i wella hygyrchedd Cyfraith Cymru

1

3. Effaith darpariaethau Rhan 2 o’r Bil

3, 4, 8, 9

4. Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE

5, 6, 7, 10, 11, 12

Dogfennau Ategol

Bil Deddfwriaeth (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Rhestr o Welliannau wedi'u didoli
Grwpio Gwelliannau

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.45.

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, cafodd y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.

Derbyniwyd gwelliant 13, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

27

51

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd gwelliant 14, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 3, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 4, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 5, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 6, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 7, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 8, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 9, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 10, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 11, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 12, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.

 


Cyfarfod: 24/06/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Bil Deddfwriaeth (Cymru)

CLA(5)-20-19 – Papur 10 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 18 Mehefin 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.

 


Cyfarfod: 18/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Deddfwriaeth (Cymru) - TYNNWYD YN ÔL

NDM7070 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Deddfwriaeth (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) adrannau 1 - 6;

b) Atodlen 1;

c) adrannau 7 - 39;

d) Atodlen 2;

e) adrannau 40 - 44;

f) Teitl hir.

Dogfen Ategol

Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl.


Cyfarfod: 05/06/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 PTN4 - Ymateb y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i argymhellion y Pwyllgor Cyllid ynghylch y Bil Deddfwriaeth (Cymru) - 30 Mai 2019

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/05/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Bil Deddfwriaeth (Cymru)

CLA(5)-15-19 – Papur 14 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 3 Mai

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.

 


Cyfarfod: 13/05/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Ymateb dros dro Llywodraeth Cymru i adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar y gyfraith gynllunio yng Nghymru

CLA(5)-15-19 – Papur 20 – Datganiad Ysgrifenedig ac Ymateb Interim

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb dros dro Llywodraeth Cymru i adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar y gyfraith gynllunio yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 13/05/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Bil Deddfwriaeth (Cymru): trafodion Cyfnod 2

Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol

Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol, Llywodraeth Cymru 

Claire Fife, Cynghorwr Polisi i'r Cwnsler Cyffredinol, Llywodraeth Cymru

 

Ar 1 Ebrill 2019, cytunodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, o dan Reol Sefydlog 26.21, mai'r drefn ar gyfer trafod trafodion Cyfnod 2 fydd: Adrannau 1 i 5; Atodlen 1; Adrannau 6 i 39; Atodlen 2; Adrannau 40 i 43; Teitl hir

 

Mae dogfennau sy'n berthnasol i drafodion Cyfnod 2 ar gael ar dudalen y Bil.

 

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, gwaredodd y Pwyllgor y gwelliannau i'r Bil yn y drefn a ganlyn:

 

Tynnwyd gwelliant 18 (Dai Lloyd AC) yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 26.66(i).

Ni chynigiwyd gwelliant 19 (Dai Lloyd AC).

Gwelliant 12 (Suzy Davies AC)

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Suzy Davies AC

Mick Antoniw AC

 

Mandy Jones AC

Carwyn Jones AC

 

Dai Lloyd AC

Rhianon Passmore AC

 

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw yn negyddol (yn unol â Rheol Sefydlog 6.20 (ii)).  Gan hynny, gwrthodwyd gwelliant 12.

Derbyniwyd gwelliant 1 (Jeremy Miles AC) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

Derbyniwyd gwelliant 2 (Jeremy Miles AC) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

Derbyniwyd gwelliant 3 (Jeremy Miles AC) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

Ni chynigiwyd gwelliant 13 (Suzy Davies AC).

Gwelliant 14 (Suzy Davies AC)

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Suzy Davies AC

Mick Antoniw AC

 

Mandy Jones AC

Carwyn Jones AC

 

Dai Lloyd AC

Rhianon Passmore AC

 

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw yn negyddol (yn unol â Rheol Sefydlog 6.20 (ii)).  Gan hynny, gwrthodwyd gwelliant 14.

Gwelliant 15 (Suzy Davies AC)

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Suzy Davies AC

Mick Antoniw AC

 

Mandy Jones AC

Carwyn Jones AC

 

Dai Lloyd AC

Rhianon Passmore AC

 

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw yn negyddol (yn unol â Rheol Sefydlog 6.20 (ii)).  Gan hynny, gwrthodwyd gwelliant 15.

Gwelliant 16 (Suzy Davies AC)

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Suzy Davies AC

Mick Antoniw AC

 

 

Carwyn Jones AC

 

 

Mandy Jones AC

 

 

Dai Lloyd AC

 

 

Rhianon Passmore AC

 

Gwrthodwyd gwelliant 16.

Derbyniwyd gwelliant 4 (Jeremy Miles AC) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

Derbyniwyd gwelliant 5 (Jeremy Miles AC) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

Derbyniwyd gwelliant 9 (Jeremy Miles AC) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

Derbyniwyd gwelliant 10 (Jeremy Miles AC) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

Derbyniwyd gwelliant 6 (Jeremy Miles AC) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

Derbyniwyd gwelliant 7 (Jeremy Miles AC) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

Ni chynigiwyd gwelliant 17 (Suzy Davies AC).

Derbyniwyd gwelliant 11 (Jeremy Miles AC) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

Derbyniwyd gwelliant 8 (Jeremy Miles AC) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

 


Cyfarfod: 09/05/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN2 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit - Bil Deddfwriaeth (Cymru) - Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor - 3 Mai 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit mewn ymateb i'w lythyr.

 


Cyfarfod: 29/04/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Llythyr gan y Cyfreithiwr Cyffredinol at y Cwnsler Cyffredinol: Bil Deddfwriaeth (Cymru)

CLA(5)-13-19 – Paper 26 - Llythyr gan y Cyfreithiwr Cyffredinol at y Cwnsler Cyffredinol, 25 Ebrill 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

 


Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Deddfwriaeth (Cymru)

NDM7024 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Deddfwriaeth (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.03

NDM7024 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Deddfwriaeth (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

NDM7023 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Cymru).

Gosodwyd y Bil Deddfwriaeth (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 3 Rhagfyr 2018.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 26 Mawrth 2019.

Dogfen Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.26

NDM7023 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Cymru).

Gosodwyd y Bil Deddfwriaeth (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 3 Rhagfyr 2018.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 26 Mawrth 2019.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 01/04/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 13)

Bil Deddfwriaeth (Cymru): Trefn Ystyried Cyfnod 2

CLA(5)-12-19 – Papur 38 – Penderfyniad mewn egwyddor a thrafodion

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y drefn ystyried mewn egwyddor, cyn y ddadl Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

 


Cyfarfod: 18/03/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Bil Deddfwriaeth (Cymru)

CLA(5)-10-19 – Papur 95 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 8 Mawrth 2019 (+Atodiadau)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â’r Bil.

 


Cyfarfod: 18/03/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Bil Deddfwriaeth (Cymru): Adroddiad drafft

CLA(5)-10-19 – Papur 97 – Adroddiad Drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft a nododd y bydd yn cael ei gyhoeddi wythnos nesaf.

 


Cyfarfod: 11/03/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 12)

Bil Deddfwriaeth (Cymru): Adroddiad Drafft

CLA(5)-09-19 – Papur 36 – Adroddiad drafft

CLA(5)-09-19 – Papur 36 – Atodiad

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 07/03/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Bil Deddfwriaeth - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad.

 


Cyfarfod: 18/02/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

Bil Deddfwriaeth (Cymru) - ystyried y dystiolaeth a thrafod y materion allweddol sy'n codi wrth graffu ar y Bil

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a thrafododd y materion allweddol sydd i'w cynnwys yn ei adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 18/02/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Bil Deddfwriaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 6 - Cwnsler Cyffredinol

Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol

Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol, Llywodraeth Cymru

Dr James George, Cwnsler Deddfwriaethol, Llywodraeth Cymru

Claire Fife, Cynghorwr Polisi i'r Cwnsler Cyffredinol, Llywodraeth Cymru

 

Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

 

CLA(5)-07-19 – Papur 1 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol

CLA(5)-07-19 – Papur briffio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol. Cytunodd y Cwnsler Cyffredinol i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth a chadarnhad mewn perthynas ag adran 8 o'r Bil.

 


Cyfarfod: 18/02/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol at Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru ynglŷn â Bil Deddfwriaeth (Cymru)

CLA(5)-07-19 – Papur 38 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol at Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru ynglŷn â Bil Deddfwriaeth (Cymru)

 


Cyfarfod: 12/02/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Amserlen ar gyfer y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 76

Cofnodion:

Amserlen ar gyfer y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad Cyfnod 1 tan ddydd Mawrth 26 Mawrth 2019.

 

Mynegodd Rhun ap Iorwerth bryder mai'r rheswm dros yr oedi oedd bod cyfrifoldebau'r Cwnsler Cyffredinol fel Gweinidog Brexit wedi effeithio ar ei argaeledd.

 

 


Cyfarfod: 11/02/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

10 Bil Deddfwriaeth (Cymru): Ymatebion i'r ymgynghoriad

CLA(5)-06-19 – Papur 28Ymatebion i’r ymgynghoriad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad.

 


Cyfarfod: 28/01/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

Bil Deddfwriaeth (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 28/01/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Bil Deddfwriaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 5

I'w gadarnhau, Cyngor ar Bopeth Cymru

Yr Athro Richard Owen, Clinig y Gyfraith Abertawe

 

CLA(5)-04-19 – Papur 2 – Tystiolaeth ysgrifenedig gan Glinig y Gyfraith Abertawe

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rob Sherrington a Callum Higgins o Gyngor ar Bopeth Cymru; a'r Athro Richard Owen a Tahmid Miah o Glinig y Gyfraith Abertawe.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio am 10 munud

 

 


Cyfarfod: 28/01/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Bil Deddfwriaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 4

Kay Powell, Cymdeithas y Cyfreithwyr

Osian Roberts, Cymdeithas y Cyfreithwyr

Trevor Coxon, Cymdeithas y Cyfreithwyr

 

CLA(5)-04-19 – Papur briffio

CLA(5)-04-19 – Papur 1 – Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gymdeithas y Cyfreithwyr       

CLA(5)-04-19 – Papur 1 Atodiad 2

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Kay Powell, Osian Roberts a Trevor Coxon o Gymdeithas y Cyfreithwyr.

 


Cyfarfod: 17/01/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Goblygiadau ariannol Bil Deddfwriaeth (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.


Cyfarfod: 17/01/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Goblygiadau ariannol Bil Deddfwriaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol

Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol, Llywodraeth Cymru

Claire Fife, Cynghorwr Polisi i'r Cwnsler Cyffredinol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol: 

Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Memorandwm esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol; Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol, Llywodraeth Cymru; a Claire Fife, Cynghorydd Polisi i'r Cwnsler Cyffredinol, Llywodraeth Cymru.


Cyfarfod: 14/01/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 13)

Trafod y dystiolaeth: Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 14/01/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Bil Deddfwriaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 2

Syr Nicholas Green, Cadeirydd, Comisiwn y Gyfraith

Mr Nicholas Paines QC, Comisiwn y Gyfraith

Mr Henni Ouahes, Comisiwn y Gyfraith

Dr Charles Mynors, Comisiwn y Gyfraith

 

 

CLA(5)-2-19 - Papur briffio

CLA(5)-2-19 - Papur 1 – Ymateb Comisiwn y Gyfraith i'r ymgynghoriad ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Bil Deddfwriaeth drafft

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Syr Nicholas Green, Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith; Nicholas Paines CF; Henni Ouahes a Dr Charles Mynors, Comisiwn y Gyfraith.       

 


Cyfarfod: 14/01/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Bil Deddfwriaeth (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 3

Dr Catrin Fflur Huws

Yr Athro Thomas Watkin

 

CLA(5)-02-19 – Papur briffio

CLA(5)-02-19 – Papur 2 - Tystiolaeth ysgrifenedig gan yr Athro Thomas Watkin ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Thomas Watkin a’r Dr Catrin Fflur Huws. 

 


Cyfarfod: 14/01/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

10 Bil Deddfwriaeth (Cymru): Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol

CLA(5)-02-19 – Papur 74Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 10 Ionawr 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.

 


Cyfarfod: 10/12/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

Trafod y dystiolaeth: Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Cwnsler Cyffredinol.

 


Cyfarfod: 10/12/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Bil Deddfwriaeth (Cymru): Tystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth 1

Jeremy Miles AC, Cwnsler Cyffredinol

Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol, Llywodraeth Cymru 

Dr James George, Cwnsler Deddfwriaethol, Llywodraeth Cymru

Claire Fife, Cynghorwr Polisi i'r Cwnsler Cyffredinol, Llywodraeth Cymru

 

Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Tacsonomeg Drafft ar gyfer Codau Cyfraith Cymru

 

CLA(5)-32-18 – Papur briffio

CLA(5)-32-18 – Crynodeb gan y Gwasanaeth Ymchwil

CLA(5)-32-18 – Papur 56 - Gohebiaeth â Ysgrifennydd Gwladol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol. Cytunodd y Cwnsler Cyffredinol i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth am ei gynigion ar gyfer dehongli deddfwriaeth ddwyieithog. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol gyda rhagor o gwestiynau.

 


Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Amserlen ar gyfer ystyried y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 126

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor ar 13 Tachwedd i gyfeirio'r Bil Deddfwriaeth (Cymru) at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei ystyried yng Nghyfnod 1. Cytunwyd mai'r terfyn amser ar gyfer adroddiad y Pwyllgor ar y Bil yng Nghyfnod 1 fyddai 22 Mawrth 2019, a'r terfyn amser ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 24 Mai 2019.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd y gallai'r Pwyllgor fod yn hyblyg o ran pryd y bydd yn cyfarfod yn ystod cyfnod ystyried y Bil.