Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Pysgodfeydd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/01/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - y Bil Pysgodfeydd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 6

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Atodol ar y Bil Pysgodfeydd at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd ar 24 Medi.

 

 


Cyfarfod: 08/05/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynglŷn â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Pysgodfeydd

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/05/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Pysgodfeydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i aros nes bod Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol pellach yn cael eu gosod cyn llunio unrhyw adroddiad atodol.

 


Cyfarfod: 03/04/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/04/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i’w adroddiad a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch nifer o faterion.


Cyfarfod: 01/04/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Pwyllgor. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pysgodfeydd y DU

CLA(5)-12-19 – Papur 34 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 27 Mawrth 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch Bil Pysgodfeydd y DU.

 


Cyfarfod: 06/03/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Brif Weinidog Cymru ynghylch craffu ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/02/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynghylch trafodaethau gyda’r Grŵp Llywio ar y Môr a Physgodfeydd mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/02/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Llythyr oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch y Bil Pysgodfeydd

CLA(5)-07-19 – Papur 39 – Llythyr oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch y Bil Pysgodfeydd.

 


Cyfarfod: 11/02/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 13)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pysgodfeydd y DU: Adroddiad Drafft

CLA(5)-06-19 – Papur 29 – Adroddiad Drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad.

 


Cyfarfod: 07/02/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynglŷn â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Pysgodfeydd y DU

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 07/02/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Pysgodfeydd y DU: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau.

 


Cyfarfod: 04/02/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pysgodfeydd y DU: Adroddiad Drafft

CLA(5)-05-19 – Papur 24 – Adroddiad drafft

CLA(5)-09-19 – Papur 25 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, 22 Ionawr 2019

CLA(5)-05-19 – Papur 26 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 29 Ionawr 2019

CLA(5)-05-19 - Papur 27 - Cofnod y Trafodion, 21 Ionawr 2019

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i ailystyried fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 24/01/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Pysgodfeydd y DU: trafod y dystiolaeth lafar

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.

 


Cyfarfod: 24/01/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Pysgodfeydd y DU: sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Robert Floyd, Pennaeth, Trefniadau Pontio’r UE – y Môr a Physgodfeydd

Graham Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Môr a Physgodfeydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar gynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â phryderon mewn perthynas â chymal 18 o Fil Pysgodfeydd y DU yn dilyn trafodaethau rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. 

 


Cyfarfod: 21/01/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Pysgodfeydd y DU: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

 


Cyfarfod: 21/01/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Bysgodfeydd y DU: Sesiwn dystiolaeth

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Tamsin Brown, Llywodraeth Cymru

Graham Rees, Llywodraeth Cymru

 

CLA(5)-03-19 – Papur briffio

CLA(5)-03-19 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

CLA(5)-03-19 – Papur briffio cyfreithiol

CLA(5)-03-19 – Papur 7 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynglŷn â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Pysgodfeydd, 14 Ionawr 2019

CLA(5)-03-19 – Papur 8 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar gyfer y Bil Pysgodfeydd, 8 Ionawr 2019

 

LCM-LD11847 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Pysgodfeydd

 

LCM-LD12027 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) y Bil Pysgodfeydd

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Hysbysodd y Gweinidog y Pwyllgor fod cyfarfod perthnasol arall yn digwydd yr wythnos hon a byddai'r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei hanfon i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

 


Cyfarfod: 21/01/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Papur i'w nodi 1 - Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Pysgodfeydd - 11 Ionawr 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 16/01/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Pysgodfeydd y DU: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4.

 


Cyfarfod: 16/01/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Pysgodfeydd y DU: sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau amgylcheddol

Debbie Crockard, Greener UK

Sarah Denman, Cyfreithiwr gyda UK Environment - ClientEarth

Emily Williams, Cyswllt Amgylchedd Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Debbie Crockard, Sarah Denman ac Emily Williams.

 


Cyfarfod: 16/01/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Pysgodfeydd y DU: sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr o’r diwydiant pysgota

Jim Evans, Cadeirydd – Cymdeithas Pysgotwyr Cymru

Jon Parker, CamNesa

Jeremy Percy, Cyfarwyddwr – Cymdeithas Newydd Pysgotwyr o dan Ddeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jim Evans, Jon Parker a Jeremy Percy.

 


Cyfarfod: 16/01/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Pysgodfeydd y DU: sesiwn dystiolaeth gydag academyddion

Yr Athro Richard Barnes, Deon Cyswllt ar gyfer Ymchwil – Prifysgol Hull

Griffin Carpenter, Uwch Ymchwilydd – New Economic Foundation

Dr Bryce Stewart, Arweinydd Rhaglen BSc / MEnv Gwyddorau Amgylcheddol – Prifysgol Caerefrog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Richard Barnes, Griffin Carpenter a Dr Bryce Stewart.

 


Cyfarfod: 16/01/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Pysgodfeydd

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/01/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynghylch Bil Pysgodfeydd y DU – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) y Bil Pysgodfeydd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 101

Cofnodion:

Cytunodd Rheolwyr Busnes y dylid cyfeirio'r memorandwm atodol hwn at y pwyllgorau sydd eisoes yn ystyried y memorandwm cyntaf (NHAMG, MADY a MCD), gyda'r un dyddiad cau, sef 12 Chwefror.  

 

 


Cyfarfod: 14/01/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Papur 3 i'w nodi - Gohebiaeth gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch Bil Pysgodfeydd y DU: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - 8 Ionawr 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 03/12/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Pysgodfeydd

CLA(5)-31-18 – Papur 33 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

CLA(5)-31-18 – Paper 33a – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y briff a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil a chytunodd i drefnu sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Ionawr.

 

 


Cyfarfod: 03/12/2018 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Brîff ar Fil Pysgodfeydd y DU

Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil

Lorna Scurlock, Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd yr Aelodau eu briffio ar Fil Pysgodfeydd y DU.