Cyfarfodydd
Dadl: "Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru" ac "Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru"
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 27/11/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 27/11/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: "Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru" ac "Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru"
NDM6873 Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi’r
astudiaethau dichonoldeb ar “Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru –
Astudiaeth Ddichonoldeb” ac “Amgueddfa Chwaraeon i Gymru – Astudiaeth
Ddichonoldeb”.
2. Yn croesawu’r
dadansoddi a’r argymhellion yn y ddau adroddiad, ynghyd â’r cyfleoedd a’r
heriau sydd ynghlwm wrthynt.
3. Yn cydnabod bod
gofyn gwneud rhagor o waith cyn y gall penderfyniadau gael eu gwneud ynghylch
camau gweithredu yn y dyfodol.
Astudiaeth
Ddichonoldeb Amgueddfa Chwaraeron i Gymru
Astudiaeth
Ddichonoldeb Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwyntiau 2 a
3 a rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod gwerth
y dadansoddiad a ddarparwyd yn y ddau adroddiad fel sail ar gyfer ymgysylltu
cyhoeddus helaeth;
Yn croesawu'r
argymhellion ar gyfer paneli arbenigol i wella sut y caiff treftadaeth
chwaraeon a chelfyddydol Cymru ei chydnabod a'i diogelu.
Yn credu bod yn
rhaid i benderfyniadau ar weithredu yn y dyfodol adlewyrchu uchelgais i greu
rhywbeth ffres ac sy'n arwain y byd.
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu ar ôl
pwynt 2:
Yn croesawu’r
argymhelliad y dylid sefydlu Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol yn Wrecsam.
Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ôl pwynt 2:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymrwymo i weithredu argymhellion craidd yr adroddiad, 'Oriel
Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru – Astudiaeth Dichonoldeb', yn eu cyfanrwydd,
gan gynnwys adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes
i Gymru.
Gwelliant 4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ôl pwynt 3:
Yn croesawu’r
argymhelliad y dylid gweithio tuag at adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol
ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru.
Gwelliant 5 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ôl pwynt 3:
Yn galw ar i Lywodraeth
Cymru ymrwymo i weithredu argymhelliad canolog yr adroddiad, 'Amgueddfa
Chwaraeon i Gymru – Astudiaeth Ddichonoldeb', y dylid creu amgueddfa bêl-droed
genedlaethol yn Wrecsam
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.51
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6873 Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi’r astudiaethau dichonoldeb ar “Oriel Gelf Gyfoes
Genedlaethol i Gymru – Astudiaeth Ddichonoldeb” ac “Amgueddfa Chwaraeon i Gymru
– Astudiaeth Ddichonoldeb”.
2. Yn croesawu’r dadansoddi a’r argymhellion yn y ddau adroddiad, ynghyd
â’r cyfleoedd a’r heriau sydd ynghlwm wrthynt.
3. Yn cydnabod bod gofyn gwneud rhagor o waith cyn y gall penderfyniadau
gael eu gwneud ynghylch camau gweithredu yn y dyfodol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a
rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod gwerth y
dadansoddiad a ddarparwyd yn y ddau adroddiad fel sail ar gyfer ymgysylltu
cyhoeddus helaeth;
Yn croesawu'r
argymhellion ar gyfer paneli arbenigol i wella sut y caiff treftadaeth
chwaraeon a chelfyddydol Cymru ei chydnabod a'i diogelu.
Yn credu bod yn rhaid i
benderfyniadau ar weithredu yn y dyfodol adlewyrchu uchelgais i greu rhywbeth
ffres ac sy'n arwain y byd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
36 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu ar ôl pwynt 2:
Yn croesawu’r argymhelliad
y dylid sefydlu Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol yn Wrecsam.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 2:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymrwymo i weithredu argymhellion craidd yr adroddiad, 'Oriel Gelf
Gyfoes Genedlaethol i Gymru – Astudiaeth Dichonoldeb', yn eu cyfanrwydd, gan
gynnwys adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i
Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
10 |
28 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 3:
Yn croesawu’r
argymhelliad y dylid gweithio tuag at adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol
ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
10 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 3:
Yn galw ar i Lywodraeth
Cymru ymrwymo i weithredu argymhelliad canolog yr adroddiad, 'Amgueddfa Chwaraeon
i Gymru – Astudiaeth Ddichonoldeb', y dylid creu amgueddfa bêl-droed
genedlaethol yn Wrecsam
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
28 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6873 Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi’r astudiaethau dichonoldeb ar “Oriel Gelf Gyfoes
Genedlaethol i Gymru – Astudiaeth Ddichonoldeb” ac “Amgueddfa Chwaraeon i Gymru
– Astudiaeth Ddichonoldeb”.
2. Yn croesawu’r dadansoddi a’r argymhellion yn y ddau adroddiad, ynghyd
â’r cyfleoedd a’r heriau sydd ynghlwm wrthynt.
3. Yn cydnabod bod gofyn gwneud rhagor o waith cyn y gall penderfyniadau
gael eu gwneud ynghylch camau gweithredu yn y dyfodol.
4. Yn croesawu’r argymhelliad y dylid sefydlu Amgueddfa Bêl-droed
Genedlaethol yn Wrecsam.
5. Yn croesawu’r argymhelliad y dylid gweithio tuag at adeiladu pencadlys
cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
10 |
1 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.