Cyfarfodydd

NDM6892 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Perfformiad Llwyodraeth Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/12/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Perfformiad Llwyodraeth Cymru

NDM6892 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu ers mis Rhagfyr 2009:

a) fod amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn y GIG yng Nghymru wedi cynyddu;

b) fod perfformiad yn erbyn y targedau 4 a 12 awr yn adrannau brys Cymru wedi dirywio;

c) nad yw’r targedau trin canser yng Nghymru erioed wedi cael eu cyrraedd;

d) fod nifer y gwelyau mewn ysbytai yng Nghymru wedi gostwng;

e) fod perfformiad TGAU wedi dirywio yng Nghymru gyda chyrhaeddiad graddau A * - C ar gyfer haf 2018 ar y lefel waethaf ers 2005;

f) fod sgoriau OECD PISA Cymru yn waeth mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth a bod y canlyniadau diweddaraf yn waeth nag yn 2009, gan roi sgoriau Cymru yn hanner gwaelod sgoriau byd-eang yr OECD ac ar waelod sgoriau'r DU;

g) fod nifer fawr o ysgolion yng Nghymru wedi'u cau'n barhaol;

h) fod incwm gwario gros aelwydydd fel canran o gyfartaledd y DU wedi gostwng;

i) fod gan Gymru gyfradd twf cyflog gyfartalog gwaethaf gwledydd y DU;

 j) fod ardrethi busnes yng Nghymru wedi dod yn llai cystadleuol na rhannau eraill o'r DU; a

 k) fod nifer y cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu yn flynyddol yng Nghymru wedi gostwng.

 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei methiannau, gan roi’r gorau i’w pholisïau sy’n methu, a chyflawni'r newid cadarnhaol sydd ei angen ar Gymru.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth ar ôl Cymru a rhoi yn ei le:

1.    Yn cydnabod:

a)    Bod bron i naw o bob 10 o bobl yn cael eu trin o fewn yr amser targed o 26 wythnos

b)    Bod y buddsoddiad yn GIG Cymru ar lefel na welwyd o’r blaen

c)    Bod mwy o bobl nag erioed yn goroesi canser yng Nghymru ac yn cael eu trin o fewn yr amser targed

d)    Bod cyfran y disgyblion a gafodd y graddau TGAU uchaf, A* i A, wedi cynyddu i 18.5% yn 2018

e)    Bod 8.7% o ddisgyblion wedi cael A* yn eu harholiadau Safon Uwch yn 2018 – y canlyniadau gorau yng Nghymru ers cyflwyno’r radd yn 2010

f)     Bod incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) yn 2016 yn £15,835 i bob person, sy’n cyfateb i 81.5% o GDHI y DU, cynnydd ers 2015

g)    Bod enillion wythnosol gros cyflogeion sy’n gweithio’n amser llawn yng Nghymru yn 2018 wedi cynyddu 2.1% ers 2017

h)    Bod 1.5m o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru yn ystod y tri mis hyd at fis Medi 2018, cynnydd o 4.2%  o’i gymharu â’r un cyfnod flwyddyn ynghynt – y cynnydd mwyaf yn unrhyw un o wledydd neu ranbarthau’r DU

i)     Bod tri chwarter busnesau bach Cymru yn cael cymorth â’u biliau ardrethi ac nad yw eu hanner yn talu unrhyw ardrethi annomestig o gwbl

j)     Y bydd 20,000 o dai fforddiadwy newydd yn cael eu hadeiladu drwy gyllid Llywodraeth Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Yn diolch i’r Prif Weinidog am ei arweiniad a’i waith yn ystod ei naw mlynedd yn y swydd.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.26

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6892 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu ers mis Rhagfyr 2009:

a) fod amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn y GIG yng Nghymru wedi cynyddu;

b) fod perfformiad yn erbyn y targedau 4 a 12 awr yn adrannau brys Cymru wedi dirywio;

c) nad yw’r targedau trin canser yng Nghymru erioed wedi cael eu cyrraedd;

d) fod nifer y gwelyau mewn ysbytai yng Nghymru wedi gostwng;

e) fod perfformiad TGAU wedi dirywio yng Nghymru gyda chyrhaeddiad graddau A * - C ar gyfer haf 2018 ar y lefel waethaf ers 2005;

f) fod sgoriau OECD PISA Cymru yn waeth mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth a bod y canlyniadau diweddaraf yn waeth nag yn 2009, gan roi sgoriau Cymru yn hanner gwaelod sgoriau byd-eang yr OECD ac ar waelod sgoriau'r DU;

g) fod nifer fawr o ysgolion yng Nghymru wedi'u cau'n barhaol;

h) fod incwm gwario gros aelwydydd fel canran o gyfartaledd y DU wedi gostwng;

i) fod gan Gymru gyfradd twf cyflog gyfartalog gwaethaf gwledydd y DU;

 j) fod ardrethi busnes yng Nghymru wedi dod yn llai cystadleuol na rhannau eraill o'r DU; a

 k) fod nifer y cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu yn flynyddol yng Nghymru wedi gostwng.

 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei methiannau, gan roi’r gorau i’w pholisïau sy’n methu, a chyflawni'r newid cadarnhaol sydd ei angen ar Gymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

5

25

42

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth ar ôl Cymru a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod:

a) Bod bron i naw o bob 10 o bobl yn cael eu trin o fewn yr amser targed o 26 wythnos

b) Bod y buddsoddiad yn GIG Cymru ar lefel na welwyd o’r blaen

c) Bod mwy o bobl nag erioed yn goroesi canser yng Nghymru ac yn cael eu trin o fewn yr amser targed

d) Bod cyfran y disgyblion a gafodd y graddau TGAU uchaf, A* i A, wedi cynyddu i 18.5% yn 2018

e) Bod 8.7% o ddisgyblion wedi cael A* yn eu harholiadau Safon Uwch yn 2018 – y canlyniadau gorau yng Nghymru ers cyflwyno’r radd yn 2010

f)  Bod incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) yn 2016 yn £15,835 i bob person, sy’n cyfateb i 81.5% o GDHI y DU, cynnydd ers 2015

g) Bod enillion wythnosol gros cyflogeion sy’n gweithio’n amser llawn yng Nghymru yn 2018 wedi cynyddu 2.1% ers 2017

h) Bod 1.5m o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru yn ystod y tri mis hyd at fis Medi 2018, cynnydd o 4.2%  o’i gymharu â’r un cyfnod flwyddyn ynghynt – y cynnydd mwyaf yn unrhyw un o wledydd neu ranbarthau’r DU

i) Bod tri chwarter busnesau bach Cymru yn cael cymorth â’u biliau ardrethi ac nad yw eu hanner yn talu unrhyw ardrethi annomestig o gwbl

j) Y bydd 20,000 o dai fforddiadwy newydd yn cael eu hadeiladu drwy gyllid Llywodraeth Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

2. Yn diolch i’r Prif Weinidog am ei arweiniad a’i waith yn ystod ei naw mlynedd yn y swydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

5

12

42

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.