Cyfarfodydd
NDM6889 - Dadl: Dadl ar y Cytundeb Ymadael â'r UE a'r Datganiad Gwleidyddol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 04/12/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 04/12/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 04/12/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl ar y Cytundeb Ymadael â'r UE a'r Datganiad Gwleidyddol
NDM6889 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r
Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn
y dyfodol y cytunwyd arnynt gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU, ond yn
siomedig nad yw Cymru na’r Alban yn cael eu crybwyll yn unrhyw un o’r
dogfennau.
2. Yn nodi’n
benodol y trefniadau ar gyfer diogelu hawliau dinasyddion ac ar gyfer cyfnod
pontio y mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau’n gyson drosto ac a fyddai’n osgoi’r
canlyniad trychinebus lle na cheir cytundeb ym mis Mawrth 2019.
3. Yn nodi y bydd
gan y Cynulliad gyfle arall i drafod y Cytundeb Ymadael wrth iddo ystyried a
fydd yn rhoi ei gydsyniad deddfwriaethol ai peidio i Fil y Cytundeb Ymadael y
mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei gyflwyno.
4. Yn credu nad
yw’r berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y Datganiad Gwleidyddol yn
bodloni’r model ar gyfer y berthynas rhwng y DU / EU yn y dyfodol a nodir yn
Diogelu Dyfodol Cymru, sydd wedi cael ei gefnogi’n gyson gan y Cynulliad ac nad
yw’n rhoi sicrwydd cadarn mewn perthynas â hawliau gweithwyr, hawliau dynol a
deddfwriaeth yn ymwneud â chydraddoldeb yn y dyfodol.
5. Yn nodi bod
llinellau coch Llywodraeth y DU wedi cyfyngu ar gwmpas y cytundeb dros dro y
cytunwyd arno â’r UE ac yn credu y dylai Llywodraeth y DU ganolbwyntio’n
hytrach ar ddiogelu perthynas hirdymor sy’n darparu fel bod modd cymryd rhan yn
y farchnad sengl ac mewn undeb tollau, gan geisio ymestyn Erthygl 50 os bydd
angen.
6. Yn credu y dylai
Llywodraeth y DU ddatgan yn awr ei bwriad i negodi ar y sail honno ac os yw’n
methu â gwneud hynny, dylid naill ai cynnal Etholiad Cyffredinol neu bleidlais
gyhoeddus i benderfynu ar y telerau ar gyfer ymadawiad y DU, neu a ydy’n dymuno
aros.
Y
Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol (Saesneg yn unig)
Diogelu Dyfodol Cymru
Dogfen Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi
yn ei le:
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod
pobl wedi pleidleisio drwy fwyafrif ar 23 Mehefin 2016 heb unrhyw amwysedd, neu
gyfyngiad, i adael yr UE, ac yn credu y dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth
Cymru anrhydeddu ysbryd a llythyren y penderfyniad hwnnw.
2. Yn credu bod
Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi rhwystro dymuniadau y 17.4 miliwn o
bobl a bleidleisiodd i ymadael.
3. Yn credu bod
cytundeb ymadael drafft Llywodraeth y DU yn ildiad, sy'n negyddu canlyniad y
refferendwm yn sylweddol, gan gadw'r DU yn undeb tollau'r UE am gyfnod
amhenodol ac, i bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu o unrhyw
lais ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r UE.
4. Yn galw ar y DU
a Llywodraeth Cymru i gofleidio adfer sofraniaeth genedlaethol Prydain y tu
allan i'r UE a'r cyfleoedd byd-eang i fasnachu â gweddill y byd.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwyntiau 1-5
a rhoi yn eu lle:
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gwrthod y
cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol am y berthynas rhwng y DU a'r UE yn
y dyfodol a gytunwyd gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU.
Yn credu nad yw'r
berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y datganiad gwleidyddol yn mynd
mor bell â’r model ar gyfer perthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol a nodwyd
yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, sy'n darparu gwarantau cadarn mewn perthynas â
hawliau gweithwyr, hawliau dynol, deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau
dinasyddion.
Yn nodi bod
dadansoddiad economaidd hirdymor Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd economi'r
DU yn gwaethygu 3.9 y cant dros 15 mlynedd o dan y cytundeb ymadael a’r
datganiad gwleidyddol presennol.
Yn galw ar Lywodraeth
y DU i geisio aelodaeth y DU o’r farchnad sengl Ewropeaidd a'r undeb tollau.
Yn galw am estyniad
i’r broses ar gyfer erthygl 50.
Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwynt 6 a
rhoi yn ei le:
Yn galw am
bleidlais y bobl ar y cytundeb terfynol rhwng y DU a'r UE, gan gynnwys opsiwn
i'r DU barhau i fod yn aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6889 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r Cytundeb
Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol
y cytunwyd arnynt gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU, ond yn siomedig
nad yw Cymru na’r Alban yn cael eu crybwyll yn unrhyw un o’r dogfennau.
2. Yn nodi’n benodol y
trefniadau ar gyfer diogelu hawliau dinasyddion ac ar gyfer cyfnod pontio y mae
Llywodraeth Cymru wedi dadlau’n gyson drosto ac a fyddai’n osgoi’r canlyniad
trychinebus lle na cheir cytundeb ym mis Mawrth 2019.
3. Yn nodi y bydd gan y
Cynulliad gyfle arall i drafod y Cytundeb Ymadael wrth iddo ystyried a fydd yn
rhoi ei gydsyniad deddfwriaethol ai peidio i Fil y Cytundeb Ymadael y mae
Llywodraeth y DU yn bwriadu ei gyflwyno.
4. Yn credu nad yw’r
berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y Datganiad Gwleidyddol yn
bodloni’r model ar gyfer y berthynas rhwng y DU / EU yn y dyfodol a nodir yn
Diogelu Dyfodol Cymru, sydd wedi cael ei gefnogi’n gyson gan y Cynulliad ac nad
yw’n rhoi sicrwydd cadarn mewn perthynas â hawliau gweithwyr, hawliau dynol a
deddfwriaeth yn ymwneud â chydraddoldeb yn y dyfodol.
5. Yn nodi bod llinellau
coch Llywodraeth y DU wedi cyfyngu ar gwmpas y cytundeb dros dro y cytunwyd
arno â’r UE ac yn credu y dylai Llywodraeth y DU ganolbwyntio’n hytrach ar
ddiogelu perthynas hirdymor sy’n darparu fel bod modd cymryd rhan yn y farchnad
sengl ac mewn undeb tollau, gan geisio ymestyn Erthygl 50 os bydd angen.
6. Yn credu y dylai
Llywodraeth y DU ddatgan yn awr ei bwriad i negodi ar y sail honno ac os yw’n
methu â gwneud hynny, dylid naill ai cynnal Etholiad Cyffredinol neu bleidlais
gyhoeddus i benderfynu ar y telerau ar gyfer ymadawiad y DU, neu a ydy’n dymuno
aros.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod pobl
wedi pleidleisio drwy fwyafrif ar 23 Mehefin 2016 heb unrhyw amwysedd, neu
gyfyngiad, i adael yr UE, ac yn credu y dylai y Llywodraeth y DU a Llywodraeth
Cymru anrhydeddu ysbryd a llythyren y penderfyniad hwnnw.
2. Yn credu bod
Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi rhwystro dymuniadau y 17.4 miliwn o
bobl a bleidleisiodd i ymadael.
3. Yn credu bod cytundeb
ymadael drafft Llywodraeth y DU yn ildiad, sy'n negyddu canlyniad y refferendwm
yn sylweddol, gan gadw'r DU yn undeb tollau'r UE am gyfnod amhenodol ac, i bob
pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu o unrhyw lais ffurfiol neu
bleidlais ym mhenderfyniadau'r UE.
4. Yn galw ar y DU a
Llywodraeth Cymru i gofleidio adfer sofraniaeth genedlaethol Prydain y tu allan
i'r UE a'r cyfleoedd byd-eang i fasnachu â gweddill y byd.
[Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
1 |
44 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwyntiau 1-5 a
rhoi yn eu lle:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn gwrthod y cytundeb
ymadael a'r datganiad gwleidyddol am y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol
a gytunwyd gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU.
Yn credu nad yw'r
berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y datganiad gwleidyddol yn mynd
mor bell â’r model ar gyfer perthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol a nodwyd
yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, sy'n darparu gwarantau cadarn mewn perthynas â
hawliau gweithwyr, hawliau dynol, deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau
dinasyddion.
Yn nodi bod dadansoddiad
economaidd hirdymor Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd economi'r DU yn
gwaethygu 3.9 y cant dros 15 mlynedd o dan y cytundeb ymadael a’r datganiad
gwleidyddol presennol.
Yn galw ar Lywodraeth y
DU i geisio aelodaeth y DU o’r farchnad sengl Ewropeaidd a'r undeb tollau.
Yn galw am estyniad i’r
broses ar gyfer erthygl 50.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
16 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwynt 6 a rhoi yn
ei le:
Yn galw am bleidlais y
bobl ar y cytundeb terfynol rhwng y DU a'r UE, gan gynnwys opsiwn i'r DU barhau
i fod yn aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
39 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6889 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthod y cytundeb
ymadael a'r datganiad gwleidyddol am y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol
a gytunwyd gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU.
2. Yn credu nad yw'r
berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y datganiad gwleidyddol yn mynd
mor bell â’r model ar gyfer perthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol a nodwyd
yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, sy'n darparu gwarantau cadarn mewn perthynas â
hawliau gweithwyr, hawliau dynol, deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau
dinasyddion.
3. Yn nodi bod
dadansoddiad economaidd hirdymor Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd economi'r
DU yn gwaethygu 3.9 y cant dros 15 mlynedd o dan y cytundeb ymadael a’r
datganiad gwleidyddol presennol.
4. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i geisio aelodaeth y DU o’r farchnad sengl Ewropeaidd a'r undeb tollau.
5. Yn galw am estyniad
i’r broses ar gyfer erthygl 50.
6. Yn credu y dylai
Llywodraeth y DU ddatgan yn awr ei bwriad i negodi ar y sail honno ac os yw’n
methu â gwneud hynny, dylid naill ai cynnal Etholiad Cyffredinol neu bleidlais
gyhoeddus i benderfynu ar y telerau ar gyfer ymadawiad y DU, neu a ydy’n dymuno
aros.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
16 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.