Cyfarfodydd

Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/06/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi barn y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 08/06/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru;

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-13-20 Papur 1 – Llywodraeth Cymru

 

Andrew Slade – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Sioned Evans – Cyfarwyddwr Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru

Duncan Hamer – Dirprwy Gyfarwyddwr Busnes, Llywodraeth Cymru

Emma Watkins – Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Economaidd, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd Andrew Slade, Sioned Evans, Duncan Hamer ac Emma Watkins eu holi gan yr Aelodau fel rhan o'u hymchwiliad i Gymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau a chanolbwyntiwyd yn benodol ar effaith economaidd Covid-19.

3.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor am nifer o bwyntiau gweithredu.

3.3 Dywedodd y Cadeirydd wrth y tystion y byddai'n ysgrifennu atynt gan ofyn y cwestiynau na chafodd eu gofyn yn ystod y cyfarfod.

 


Cyfarfod: 06/01/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Trafod y llythyr drafft

PAC(5)-01-20 Papur 3 – Llythyr drafft

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunwyd ar y llythyr drafft.

 


Cyfarfod: 11/11/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau Llythyr gan Lywodraeth Cymru (31 Hydref 2019)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/09/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Gohebiaeth y Pwyllgor

PAC(5)-21-19 PTN 13 Llythyr gan Fanc Datblygu Cymru (31 Gorffennaf 2019)

PAC(5)-21-19 PTN 14 – Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru (31 Gorffennaf 2019)

PAC(5)-21-19 PTN 14a – Swm, math a diben cymorth ariannol Llywodraeth Cymru (p’un a oedd yn uniongyrchol neu drwy Cyllid Cymru neu’r Banc Datblygu), yr oedd unrhyw un o’r cwmnïau a enwyd yn y sesiwn (yng Nghofnod y Trafodion 289-291) wedi’i gael cyn iddynt fynd i ddwylo’r gweinyddwyr a chadarnhad o unrhyw ddyledion a oedd yn weddill (G M Jones, Cuddy Group, Jistcourt, GRH Food Company)

PAC(5)-21-19 PTN 14b – Cronfa Gwyddorau Bywyd Cymru, a rôl Banc Datblygu Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach ar nifer o faterion. Ar ôl ei dderbyn, bydd y Pwyllgor yn paratoi ei adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 24/06/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru i Fusnesau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law

 


Cyfarfod: 24/06/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru i Fusnesau: Sesiwn Dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio

PAC(5)-17-19 Papur 1 – Llywodraeth Cymru

 

Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Sioned Evans, Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru

Duncan Hamer, Dirprwy Gyfarwyddwr, Busnes, Llywodraeth Cymru

Jonathon Hopkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Masnach a Chaffael, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol; Sioned Evans, Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau a Duncan Hamer, Dirprwy Gyfarwyddwr, Busnes o Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i Gymorth Ariannol Llywodraeth Cymru i Fusnesau.

2.1 Cytunodd Andrew Slade i anfon rhagor o wybodaeth am nifer o bwyntiau a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

 


Cyfarfod: 17/06/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 17/06/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach

PAC(5)-16-19 Papur 1 – Ffederasiwn Busnesau Bach

 

Ben Cottam – Pennaeth Materion Allanol, Ffederasiwn Busnesau Bach

John Hurst – FBB Aelod, B2B IT Services

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Ben Cottam, Pennaeth Materion Allanol Ffederasiwn Busnesau Bach, a John Hurst o B2B IT Services, aelod o Ffederasiwn Busnesau Bach, fel rhan o'r ymchwiliad i Gymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnes.

 


Cyfarfod: 17/06/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Sesiwn dystiolaeth gyda Banc Datblygu Cymru

Papur briffio

 

Giles Thorley – Prif Weithredwr, Banc Datblygu Cymru

Mike Owen – Cyfarwyddwr Buddsoddi Grŵp, Banc Datblygu Cymru

Rhian Elston – Cyfarwyddwr Buddsoddi, Banc Datblygu Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Giles Thorley, Prif Weithredwr, Mike Owen, Cyfarwyddwr Buddsoddi Grŵp, a Rhian Elston, Cyfarwyddwr Buddsoddi Banc Datblygu Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i Gymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnes .

2.2 Cytunodd Giles Thorley i anfon manylion am nifer yr unedau tai a adeiladwyd hyd yn hyn o ganlyniad i gefnogaeth Banc Datblygu Cymru.

 


Cyfarfod: 13/05/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 13/05/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-12-19 Papur 5 – Chwarae Teg

 

Cerys Furlong – Chwarae Teg

Robert Lloyd Griffiths - Sefydliad y Cyfarwyddwyr

Dylan Jones-Evans – Prifysgol De Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cynhaliodd yr Aelodau sesiwn gwybodaeth gefndirol yng nghwmni Cerys Furlong o Chwarae Teg, Robert Lloyd Griffiths o Sefydliad y Cyfarwyddwyr a Dylan Jones-Evans o Brifysgol De Cymru cyn yr ymchwiliad ffurfiol i gymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau.

 


Cyfarfod: 14/01/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-01-19 Papur 5 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, gan gytuno i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn.