Cyfarfodydd
NDM6896 Dadl: Diwrnod Rhyngwladol ar Hawliau Dynol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/12/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
- Gweddarllediad ar gyfer 12/12/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 12/12/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol
NDM6896
Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod Diwrnod
Rhyngwladol Hawliau Dynol ddydd Llun 10 Rhagfyr 2018.
2. Yn nodi ei bod yn
70 mlynedd ers mabwysiadu’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol.
Datganiad
Cyffredinol o Hawliau Dynol (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y twf
mewn mudiadau gwleidyddol sy'n gwrthod egwyddorion y Datganiad Cyffredinol o
Hawliau Dynol, a galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei gwaith i fynd i'r
afael ag eithafiaeth yn cynnwys mesurau rhagweithiol i atal eithafiaeth asgell
dde.
Gwelliant
2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod
Llywodraeth y DU yn cydnabod bod yr holl hawliau a nodir yn natganiad y
Cenhedloedd Unedig o hawliau dynol yn un mor bwysig â'i gilydd.
Yn croesawu'r camau y
mae Llywodraeth y DU wedi'u cymryd o ran rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â
chaethwasiaeth fodern, amddiffyn rhyddid crefydd neu gred, rhoi terfyn ar anghydraddoldeb
a gwahaniaethu, a hyrwyddo democratiaeth.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 14.07
NDM6896 Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol ddydd
Llun 10 Rhagfyr 2018.
2. Yn nodi ei bod yn 70 mlynedd ers mabwysiadu’r
Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Derbyniwyd
gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi'u
cymryd o ran rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern,
amddiffyn rhyddid crefydd neu gred, rhoi terfyn ar anghydraddoldeb a
gwahaniaethu, a hyrwyddo democratiaeth.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant sy’n
weddill o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
9 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6896 Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod Diwrnod
Rhyngwladol Hawliau Dynol ddydd Llun 10 Rhagfyr 2018.
2. Yn nodi ei bod yn 70 mlynedd
ers mabwysiadu’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol.
3. Yn gresynu at y twf mewn
mudiadau gwleidyddol sy'n gwrthod egwyddorion y Datganiad Cyffredinol o Hawliau
Dynol, a galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei gwaith i fynd i'r afael ag
eithafiaeth yn cynnwys mesurau rhagweithiol i atal eithafiaeth asgell dde.
4. Yn nodi bod Llywodraeth y DU
yn cydnabod bod yr holl hawliau a nodir yn natganiad y Cenhedloedd Unedig o
hawliau dynol yn un mor bwysig â'i gilydd.
5.Yn croesawu'r camau y mae
Llywodraeth y DU wedi'u cymryd o ran rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â
chaethwasiaeth fodern, amddiffyn rhyddid crefydd neu gred, rhoi terfyn ar
anghydraddoldeb a gwahaniaethu, a hyrwyddo democratiaeth.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
2 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.