Cyfarfodydd

NDM6906 Dadl: Adroddiad Holtham ar Dalu am Ofal Cymdeithasol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/09/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwaith y Grŵp Rhyng-Weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 08/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Dadl: Adroddiad Holtham ar Dalu am Ofal Cymdeithasol

NDM6906 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi:

a) y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy’n deillio o gyni a’r newid yn y boblogaeth;

b) yr adroddiad a gomisiynwyd oddi wrth yr Athro Gerald Holtham, ‘Talu am Ofal Cymdeithasol’; ac

c) bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp rhyngweinidogol ar ofal cymdeithasol, sy’n defnyddio adroddiad Holtham i lywio ei waith.

Talu am Ofal Cymdeithasol

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorlloewin Clwyd)

Dileu is-bwynt a) a rhoi yn ei le:

'y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy'n deillio o setliadau llywodraeth leol gwael a'r newid yn y boblogaeth;'

Gwelliant 2 – Darren Millar (Gorlloewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen am ffordd fwy integredig o ymdrin â'r ddarpariaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.33

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6906 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi:

a) y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy’n deillio o gyni a’r newid yn y boblogaeth;

b) yr adroddiad a gomisiynwyd oddi wrth yr Athro Gerald Holtham, ‘Talu am Ofal Cymdeithasol’; a

c) bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp rhyngweinidogol ar ofal cymdeithasol, sy’n defnyddio adroddiad Holtham i lywio ei waith.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu is-bwynt a) a rhoi yn ei le:

'y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy'n deillio o setliadau llywodraeth leol gwael a'r newid yn y boblogaeth;'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

1

30

51

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen am ffordd fwy integredig o ymdrin â'r ddarpariaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

1

0

51

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM6906 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi:

a) y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy’n deillio o gyni a’r newid yn y boblogaeth;

b) yr adroddiad a gomisiynwyd oddi wrth yr Athro Gerald Holtham, ‘Talu am Ofal Cymdeithasol’; a

c) bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp rhyngweinidogol ar ofal cymdeithasol, sy’n defnyddio adroddiad Holtham i lywio ei waith.

Yn cydnabod yr angen am ffordd fwy integredig o ymdrin â'r ddarpariaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

3

10

51

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.