Cyfarfodydd
NDM6909 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Tai
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 09/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 09/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 09/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Tai
NDM6909
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw
nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru yn ddigonol i ateb y galw.
2. Yn gresynu:
a) bod mwy na 27,000 o
gartrefi gwag yng Nghymru ar hyn o bryd; a
b) bod prisiau tai ar
gyfartaledd yng Nghymru fwy neu lai dros 6 gwaith yr enillion cyfartalog
oherwydd prinder cartrefi.
3. Yn nodi papur gwyn
Ceidwadwyr Cymru, 'Cartrefu Cenedl', sy'n cyflwyno strategaeth gynhwysfawr i
fynd i'r afael ag argyfwng tai Cymru a darparu tai addas i bawb.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) cydnabod yr angen i
adeiladu o leiaf 100,000 o gartrefi rhwng 2021 a 2031; a
b) rhoi mwy o
hyblygrwydd i gymdeithasau tai fel y gallant ddatblygu amrywiaeth o
ddeiliadaethau i ateb y galw am dai fforddiadwy.
Ceidwadwyr
Cymru - Cartrefu Cenedl
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Rebecca
Evans (Gŵyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod:
a) y buddsoddiad mwyaf
erioed mewn tai gan Lywodraeth Cymru.
b) bod angen asesiad
newydd o’r angen a’r galw am dai, yn seiliedig ar y data diweddaraf a’r
amcanestyniadau aelwydydd diweddaraf.
2. Yn croesawu:
a) ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y
Llywodraeth hon, sydd ar y trywydd iawn ac a fydd yn cael ei gyflawni mewn
partneriaeth â’r sector tai.
b) cyflwyno treth
trafodiadau tir yng Nghymru a’r trothwy cychwynnol o £180,000 ar gyfer y prif
gyfraddau preswyl, sy’n golygu nad yw’r rhan fwyaf o brynwyr tai, a mwyafrif y
prynwyr tro cyntaf, yn talu treth o gwbl pan fyddant yn prynu cartref.
3. Yn cydnabod
ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i dai cymdeithasol, sydd wedi parhau’n
flaenoriaeth sylfaenol, gan gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed a diogelu ein
stoc bresennol o dai cymdeithasol, yn wahanol i Loegr.
4. Yn nodi’r
hyblygrwydd sydd ar gael i gymdeithasau tai er mwyn iddynt allu datblygu ystod
o ddeiliadaethau i fodloni’r galw am dai fforddiadwy.
[Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol]
Gwelliant
2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 1, ar ôl
‘sy'n cael eu hadeiladu’, mewnosoder ‘yn y sector tai cymdeithasol’.
Gwelliant
3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 2, dileu
is-bwynt (b) a rhoi yn ei le:
bod cyflogau isel,
cyflogaeth ansicr a rhenti uchel yn rhwystrau sylweddol i berchnogaeth
cartrefi.
Gwelliant
4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a
rhoi yn eu lle:
Yn nodi bod
digartrefedd wedi cynyddu’n sylweddol, a bod hyn wedi costio llawer mwy i
wasanaethau cyhoeddus nag y byddai wedi ei gostio i atal digartrefedd.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) cefnogi cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol
i gynyddu’r stoc tai cymdeithasol drwy wneud y gorau o’u gallu i gael mynediad
at gyllid at y diben hwn, gan gynnwys drwy bwerau benthyca Llywodraeth Cymru;
b) gweithredu
argymhellion adroddaid Crisis, ‘Everybody In: How to end homelessness in Great
Britain’;
c) sicrhau bod
cynlluniau datblygu lleol yn cynnwys gofyniad i fuddsoddi mewn gwasanaethau
cymdeithasol er mwyn sicrhau y gall datblygiadau newydd ddod yn gymunedau
cynaliadwy; a
d) sicrhau bod
cynlluniau datblygu lleol yn cynnwys cyfran sylweddol fwy o dai cymdeithasol.
Everybody
In: How to end homelessness in Great Britain (Saesneg yn unig)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.59
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6909 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw nifer y
cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru yn ddigonol i ateb y galw.
2. Yn gresynu:
a) bod mwy na 27,000 o gartrefi
gwag yng Nghymru ar hyn o bryd; a
b) bod prisiau tai ar
gyfartaledd yng Nghymru fwy neu lai dros 6 gwaith yr enillion cyfartalog
oherwydd prinder cartrefi.
3. Yn nodi papur gwyn
Ceidwadwyr Cymru, 'Cartrefu Cenedl', sy'n cyflwyno strategaeth gynhwysfawr i
fynd i'r afael ag argyfwng tai Cymru a darparu tai addas i bawb.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) cydnabod yr angen i adeiladu
o leiaf 100,000 o gartrefi rhwng 2021 a 2031; a
b) rhoi mwy o hyblygrwydd i
gymdeithasau tai fel y gallant ddatblygu amrywiaeth o ddeiliadaethau i ateb y
galw am dai fforddiadwy.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
1 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gŵyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod:
a) y buddsoddiad mwyaf erioed mewn tai gan Lywodraeth
Cymru.
b) bod angen asesiad newydd o’r angen a’r galw am dai, yn
seiliedig ar y data diweddaraf a’r amcanestyniadau aelwydydd diweddaraf.
2. Yn croesawu:
a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai
fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon, sydd ar y trywydd iawn ac a fydd
yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â’r sector tai.
b) cyflwyno treth trafodiadau tir yng Nghymru a’r trothwy
cychwynnol o £180,000 ar gyfer y prif gyfraddau preswyl, sy’n golygu nad yw’r
rhan fwyaf o brynwyr tai, a mwyafrif y prynwyr tro cyntaf, yn talu treth o gwbl
pan fyddant yn prynu cartref.
3. Yn cydnabod ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i dai
cymdeithasol, sydd wedi parhau’n flaenoriaeth sylfaenol, gan gefnogi’r bobl
fwyaf agored i niwed a diogelu ein stoc bresennol o dai cymdeithasol, yn
wahanol i Loegr.
4. Yn nodi’r hyblygrwydd sydd ar gael i gymdeithasau tai
er mwyn iddynt allu datblygu ystod o ddeiliadaethau i fodloni’r galw am dai
fforddiadwy.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu
dad-ddethol]]
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
30 |
3 |
21 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2,3 a 4 eu dad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6909 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod:
a) y buddsoddiad mwyaf erioed mewn tai gan Lywodraeth
Cymru.
b) bod angen asesiad newydd o’r angen a’r galw am dai, yn
seiliedig ar y data diweddaraf a’r amcanestyniadau aelwydydd diweddaraf.
2. Yn croesawu:
a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai
fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon, sydd ar y trywydd iawn ac a fydd
yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â’r sector tai.
b) cyflwyno treth trafodiadau tir yng Nghymru a’r trothwy
cychwynnol o £180,000 ar gyfer y prif gyfraddau preswyl, sy’n golygu nad yw’r rhan
fwyaf o brynwyr tai, a mwyafrif y prynwyr tro cyntaf, yn talu treth o gwbl pan
fyddant yn prynu cartref.
3. Yn cydnabod ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i dai
cymdeithasol, sydd wedi parhau’n flaenoriaeth sylfaenol, gan gefnogi’r bobl
fwyaf agored i niwed a diogelu ein stoc bresennol o dai cymdeithasol, yn
wahanol i Loegr.
4. Yn nodi’r hyblygrwydd sydd ar gael i gymdeithasau tai
er mwyn iddynt allu datblygu ystod o ddeiliadaethau i fodloni’r galw am dai
fforddiadwy.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
30 |
3 |
21 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.