Cyfarfodydd
Cyllideb Comisiwn y Senedd 2020-21
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 04/05/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyllideb Atodol 2020-21
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr gynnig y dylid gosod
Cyllideb Atodol, i leihau cyllideb 2020-21 y Comisiwn o £61.411 miliwn i
£59.575 miliwn.
Diben hynny oedd adlewyrchu'r cyhoeddiad gan
Drysorlys Ei Mawrhydi bod gweithredu Safon Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS)
16 – Prydlesi i gael ei ohirio am 12 mis tan 1 Ebrill 2021. Nid yw hyn yn newid
gofyniad arian parod 2020-21 y Comisiwn o £56.075 miliwn.
Cytunodd y Comisiynwyr
i gyflwyno Memorandwm Esboniadol (Atodiad un), i adlewyrchu'r cyhoeddiad gan
Drysorlys Ei Mawrhydi, a nodwyd y newid yn yr amserlen graffu sy'n gysylltiedig
ag amserlen cyllideb Llywodraeth Cymru.
Byddai'r Memorandwm
Esboniadol yn cael ei osod yn y ffordd arferol.
Cyfarfod: 04/11/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2020-21 - Ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
- Cyfyngedig 8
- Cyfyngedig 9
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am hynt Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21
drwy'r broses graffu. Derbyniwyd addasiadau a wnaed i ddarparu gwybodaeth
gliriach am gostau’n ymwneud â'r Comisiynydd Safonau. Cytunwyd hefyd y dylid
gwneud addasiad pellach i adlewyrchu amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion
(ASHE) a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac a
ddefnyddir yn y Penderfyniad.
Nododd y Comisiynwyr
yr amserlen ar gyfer gwaith yn ymwneud â’r gyllideb yn ystod mis Tachwedd 2019,
a chytunwyd ar eu hymateb i'r argymhellion a godwyd yn Adroddiad y Pwyllgor
Cyllid a'u Cyllideb Derfynol ar gyfer 2020-21, cyhyd ag y caiff yr addasiad
uchod ei adlewyrchu yn y ddau.
Cyfarfod: 23/09/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyllideb Ddrafft y Comisiwn 20-21
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 13
- Cyfyngedig 14
- Cyfyngedig 15
- Cyfyngedig 16
Cofnodion:
Trafododd y
Comisiynwyr eu cyllideb ddrafft arfaethedig ar gyfer 2020-21 ymhellach wrth
baratoi ar gyfer ei gosod ar 1 Hydref fan bellaf.
Gwnaethant drafod
newidiadau yn y gyllideb weithredol a chyffredinol ynghyd â blaenoriaethau
arian prosiect. Gwnaethant nodi hefyd y diwygiadau sy'n ofynnol i gyfrif am y
Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 16 newydd – Prydlesi a llythyr a
anfonwyd gan y Gweinidog Cyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Trafododd y Comisiynwyr
Gyllideb Ddrafft 2020-21, a’i chymeradwyo, yn amodol ar rai mân addasiadau i’r
naratif.
Cyfarfod: 10/06/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Strategaeth Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2020-21
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 19
- Cyfyngedig 20
- Cyfyngedig 21
- Cyfyngedig 22
Cofnodion:
Parhaodd y Comisiynwyr i
ystyried eu cynigion ar gyfer strategaeth
y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21.
Y ddau brif faes a
drafodwyd oedd gofyniad cyffredinol y gyllideb ar gyfer 2020-21; gan gynnwys
effaith cyllideb atodol gyntaf 2019-20 ar gostau pensiwn; a blaenoriaethau
buddsoddi newydd y Comisiwn ar gyfer 2020-21. Trafodwyd nifer o themâu gan
gynnwys archifo, y wefan a gweithgareddau ymgysylltu.
Caiff cynigion ar gyfer y
gyllideb eu gosod, yn unol â’r Rheolau Sefydlog, ym mis Medi.
Cyfarfod: 28/01/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Strategaeth y Gyllideb a Chyllideb y Comisiwn 2020-21
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 25
- Cyfyngedig 26
- Cyfyngedig 27
Cofnodion:
Dechreuodd y Comisiynwyr
drafodaethau cychwynnol ynghylch eu dull gweithredu ar gyfer strategaeth y
gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21.
Trafododd y Comisiynwyr
gynigion ar gyfer strategaeth y gyllideb a gofyniad y gyllideb gyffredinol ar
gyfer 2020-21 a'r ddwy flynedd ganlynol. Yn benodol, roedd y drafodaeth hon yn
canolbwyntio ar flaenoriaethau'r Comisiwn ar gyfer blwyddyn olaf y Cynulliad
hwn. Nododd y Comisiynwyr y byddai angen trafodaeth bellach ar y cynnydd yng
Nghyfraniadau Pensiwn y Cyflogwr i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil pan fydd
rhagor o wybodaeth ar gael.
Cytunwyd hefyd ar ymateb
i gais y Pwyllgor Cyllid am farn ar ganllawiau cyllidebol.
Bydd cyllideb '20 -21 y
Comisiwn yn cael ei gosod yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog ym mis Medi.