Cyfarfodydd

CLA53 - Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/12/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)

Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011

NDM4866 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2011.

 

Dogfennau ategol:

Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011

Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011 – Memorandwm EsboniadolSaesneg yn unig

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 21/11/2011 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.2)

3.2 CLA53 - Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011

Y weithdrefn gadarnhaol. Ni nodwyd y dyddiad y’i gwnaed. Ni nodwyd y dyddiad y’i gosodwyd. Yn dod i rym ar 1 Ebrill 2012

 

Dogfennau ategol: