Cyfarfodydd

Gwariant ar staff asiantaeth gan GIG Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/05/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Gwariant ar staff asiantaeth gan GIG Cymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (25 Ebrill 2019)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Gwariant ar staff asiantaeth gan GIG Cymru: Gohebiaeth y Pwyllgor

PAC(5)-07-19 PTN2 – Llythyr oddi wrth Cadeirydd y Pwyllgor i Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon (7 Chwefror 2019)

PAC(5)-07-19 PTN3 – Llythyr oddi wrth Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i Gadeirydd y Pwyllgor (12 Chwefror 2019)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd yr aelodau'r ohebiaeth. Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, yn gofyn am ei farn am Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, ynghyd â'r gwariant ar staff asiantaeth a nodwyd yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2018-19 y Bwrdd Iechyd, a thrafod y mater eto yn nhymor yr hydref.

 


Cyfarfod: 04/02/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Gwariant ar staff asiantaeth gan GIG Cymru: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-03-19 Papur 6 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd yr Aelodau adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol a nododd y byddai'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn edrych ar gostau staff asiantaeth fel rhan o'r gwaith o graffu ar bob bwrdd iechyd dros y flwyddyn nesaf. Cytunodd yr Aelodau i gadw llygad ar y mater hwn.