Cyfarfodydd
NDM6959 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Anghydraddoldeb Economaidd Rhanbarthol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 06/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 06/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Anghydraddoldeb Economaidd Rhanbarthol
NDM6959
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
1. Nodi bod anghydraddoldeb
economaidd rhanbarthol yn parhau'n amlwg ar draws Cymru, fel sy'n amlwg yn y
ffigurau GVA diweddaraf.
2. Yn gresynu bod
polisïau Llywodraeth Cymru wedi methu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau
economaidd rhwng rhanbarthau yng Nghymru.
3. Yn croesawu'r
cyfraniad y bydd y fargen dinas-ranbarth Caerdydd, bargen dinas-ranbarth Bae
Abertawe, bargen twf y Gogledd a bargen twf y Canolbarth yn eu gwneud i fynd
i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio'n
adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddarparu bargeinion twf yng Nghymru;
b) adolygu'r cynllun
gweithredu economaidd i gynnwys strategaeth i gynyddu cyflogau a ffyniant
economaidd ym mhob rhan o Gymru ac ymdrin ag anghydraddoldebau economaidd rhwng
y rhanbarthau; ac
(c) hyrwyddo polisi
datblygu rhanbarthol ar ôl Brexit sy'n cefnogi cymunedau difreintiedig ledled
Cymru, gan gynnwys y rhai hynny y tu allan i orllewin Cymru a'r Cymoedd.
Ffyniant
i bawb: cynllun gweithredu ar yr economi
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Rebecca Evans (Gŵyr)
Dileu popeth a rhoi’r
canlynol yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru yn:
1. Cydnabod pa mor
bwysig yw economïau rhanbarthol cryf a chydnerth ar draws pob rhan o Gymru er
mwyn sbarduno twf cynhwysol.
2. Nodi’r mesurau
traws-lywodraethol a nodir yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, gan gynnwys
penodi prif Swyddogion Rhanbarthol a thimau yn Llywodraeth Cymru i gefnogi
Datblygiad Economaidd Rhanbarthol ar draws Cymru.
3. Nodi’r rôl bwysig
sydd gan y Bargeinion Dinesig a’r Bargeinion Twf i’w chwarae o ran sbarduno twf
economaidd rhanbarthol pan fyddant yn cael eu cydgysylltu ag ymyriadau ehangach
megis seilwaith, trafnidiaeth a sgiliau.
4. Nodi’r cyhoeddiad
diweddar bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD)
yn helpu i ddatblygu polisi datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru ar sail
yr arferion gorau yn rhyngwladol.
5. Galw ar Lywodraeth
y DU i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb o ran cyllido seilwaith rhwng
cenhedloedd a rhanbarthau’r DU ac i wneud mwy i rannu cyfleoedd buddsoddi yn
deg ar draws y wlad.
6. Galw ar Lywodraeth
y DU i barchu’r setliad datganoli ac i sicrhau mai Llywodraeth Cymru fydd yn
gwneud y penderfyniadau strategol ar reoli a gweinyddu trefniadau cyllido yn
lle’r cyllid strwythurol, er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb economaidd
rhwng rhanbarthau.
7. Nodi’r ffaith bod
cyllidebau rhanbarthol dangosol yn cael eu datblygu ar gyfer buddsoddiad yn yr
Economi a Thrafnidiaeth ar draws Cymru.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant
2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwynt 2 a rhoi
yn ei le:
Yn nodi bod polisi
llymder Llywodraeth y DU, ar y cyd gyda chamreolaeth Llywodraeth Cymru, wedi
arwain at gynnydd mawr mewn anghydraddoldeb economaidd rhwng rhanbarthau Cymru.
Gwelliant
3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Yn is-bwynt (a) ym
mhwynt 4, ar ôl 'Llywodraeth y DU' ychwanegu 'ac awdurdodau lleol'.
Gwelliant
4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am fil
buddsoddiad rhanbarthol, gyda’r nod o sicrhau buddsoddiad ariannol teg dros
Gymru i gyd.
Gwelliant
5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith
bod bwrdd prosiect Arfor wedi cael ei gyfarfod cyntaf ac wedi cytuno ar raglen
amlinellol o weithgarwch am y ddwy flynedd nesaf.
Yn nodi’r ffaith bod
£2 filiwn wedi ei chlustnodi yn y gyllideb ar gyfer cymorth ysgrifenyddiaeth a
buddsoddi i Arfor yn ystod 2018-19 a 2019-20 fel blaenoriaeth Plaid Cymru yn y
cytundeb ar y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru.
Yn cadarnhau
pwysigrwydd manteisio ar y cyswllt anhepgor rhwng ffyniant economaidd a
ffyniant ieithyddol ar hyd y gorllewin Cymraeg.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.46
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6959 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
1. Nodi bod anghydraddoldeb economaidd
rhanbarthol yn parhau'n amlwg ar draws Cymru, fel sy'n amlwg yn y ffigurau GVA
diweddaraf.
2. Yn gresynu bod polisïau Llywodraeth Cymru wedi
methu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd rhwng rhanbarthau yng
Nghymru.
3. Yn croesawu'r cyfraniad y bydd y fargen
dinas-ranbarth Caerdydd, bargen dinas-ranbarth Bae Abertawe, bargen twf y
Gogledd a bargen twf y Canolbarth yn eu gwneud i fynd i'r afael ag
anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i
ddarparu bargeinion twf yng Nghymru;
b) adolygu'r cynllun gweithredu economaidd i
gynnwys strategaeth i gynyddu cyflogau a ffyniant economaidd ym mhob rhan o
Gymru ac ymdrin ag anghydraddoldebau economaidd rhwng y rhanbarthau; ac
(c) hyrwyddo polisi datblygu rhanbarthol ar ôl
Brexit sy'n cefnogi cymunedau difreintiedig ledled Cymru, gan gynnwys y rhai
hynny y tu allan i orllewin Cymru a'r Cymoedd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
1 |
32 |
45 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Cydnabod pa mor bwysig yw economïau
rhanbarthol cryf a chydnerth ar draws pob rhan o Gymru er mwyn sbarduno twf
cynhwysol
2. Nodi’r mesurau traws-lywodraethol a nodir yn y
Cynllun Gweithredu ar yr Economi, gan gynnwys penodi prif Swyddogion
Rhanbarthol a thimau yn Llywodraeth Cymru i gefnogi Datblygiad Economaidd
Rhanbarthol ar draws Cymru.
3. Nodi’r rôl bwysig sydd gan y Bargeinion
Dinesig a’r Bargeinion Twf i’w chwarae o ran sbarduno twf economaidd
rhanbarthol pan fyddant yn cael eu cydgysylltu ag ymyriadau ehangach megis
seilwaith, trafnidiaeth a sgiliau.
4. Nodi’r cyhoeddiad diweddar bod y Sefydliad ar
gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn helpu i ddatblygu polisi
datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru ar sail yr arferion gorau yn
rhyngwladol.
5. Galw ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r
anghydraddoldeb o ran cyllido seilwaith rhwng cenhedloedd a rhanbarthau’r DU ac
i wneud mwy i rannu cyfleoedd buddsoddi yn deg ar draws y wlad.
6. Galw ar Lywodraeth y DU i barchu’r setliad
datganoli ac i sicrhau mai Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniadau
strategol ar reoli a gweinyddu trefniadau cyllido yn lle’r cyllid strwythurol,
er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb economaidd rhwng rhanbarthau.
7. Nodi’r ffaith bod cyllidebau rhanbarthol
dangosol yn cael eu datblygu ar gyfer buddsoddiad yn yr Economi a Thrafnidiaeth
ar draws Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
1 |
17 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan
fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol
Gwelliant 4 - Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am fil buddsoddiad rhanbarthol, gyda’r
nod o sicrhau buddsoddiad ariannol teg dros Gymru i gyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
10 |
30 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith bod bwrdd prosiect Arfor
wedi cael ei gyfarfod cyntaf ac wedi cytuno ar raglen amlinellol o weithgarwch
am y ddwy flynedd nesaf.
Yn nodi’r ffaith bod £2 filiwn wedi ei chlustnodi
yn y gyllideb ar gyfer cymorth ysgrifenyddiaeth a buddsoddi i Arfor yn ystod
2018-19 a 2019-20 fel blaenoriaeth Plaid Cymru yn y cytundeb ar y gyllideb gyda
Llywodraeth Cymru.
Yn cadarnhau pwysigrwydd manteisio ar y cyswllt
anhepgor rhwng ffyniant economaidd a ffyniant ieithyddol ar hyd y gorllewin
Cymraeg.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
13 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6959 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Cydnabod pa mor bwysig yw economïau
rhanbarthol cryf a chydnerth ar draws pob rhan o Gymru er mwyn sbarduno twf
cynhwysol
2. Nodi’r mesurau traws-lywodraethol a nodir yn y
Cynllun Gweithredu ar yr Economi, gan gynnwys penodi prif Swyddogion
Rhanbarthol a thimau yn Llywodraeth Cymru i gefnogi Datblygiad Economaidd
Rhanbarthol ar draws Cymru.
3. Nodi’r rôl bwysig sydd gan y Bargeinion
Dinesig a’r Bargeinion Twf i’w chwarae o ran sbarduno twf economaidd
rhanbarthol pan fyddant yn cael eu cydgysylltu ag ymyriadau ehangach megis
seilwaith, trafnidiaeth a sgiliau.
4. Nodi’r cyhoeddiad diweddar bod y Sefydliad ar
gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn helpu i ddatblygu polisi
datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru ar sail yr arferion gorau yn
rhyngwladol.
5. Galw ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r
anghydraddoldeb o ran cyllido seilwaith rhwng cenhedloedd a rhanbarthau’r DU ac
i wneud mwy i rannu cyfleoedd buddsoddi yn deg ar draws y wlad.
6. Galw ar Lywodraeth y DU i barchu’r setliad
datganoli ac i sicrhau mai Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniadau
strategol ar reoli a gweinyddu trefniadau cyllido yn lle’r cyllid strwythurol,
er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb economaidd rhwng rhanbarthau.
7. Nodi’r ffaith bod cyllidebau rhanbarthol
dangosol yn cael eu datblygu ar gyfer buddsoddiad yn yr Economi a Thrafnidiaeth
ar draws Cymru.
8. Yn croesawu’r ffaith bod bwrdd prosiect Arfor
wedi cael ei gyfarfod cyntaf ac wedi cytuno ar raglen amlinellol o weithgarwch
am y ddwy flynedd nesaf.
9. Yn nodi’r ffaith bod £2 filiwn wedi ei
chlustnodi yn y gyllideb ar gyfer cymorth ysgrifenyddiaeth a buddsoddi i Arfor
yn ystod 2018-19 a 2019-20 fel blaenoriaeth Plaid Cymru yn y cytundeb ar y
gyllideb gyda Llywodraeth Cymru.
10. Yn cadarnhau pwysigrwydd manteisio ar y
cyswllt anhepgor rhwng ffyniant economaidd a ffyniant ieithyddol ar hyd y
gorllewin Cymraeg.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
13 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.