Cyfarfodydd
NDM6966 Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Carchardai a Charcharorion
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 13/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 13/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 13/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Carchardai a Charcharorion
NDM6966
Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai carchardai
fod yn fannau diwygio ac adsefydlu, ac mai'r carchar yw'r gosb ar gyfer y rhai
a gaiff eu dyfarnu'n euog o drosedd.
2. Yn penderfynu na
ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai
carchardai fod yn lleoedd i ddiwygio ac adsefydlu.
2. Yn cefnogi’r
egwyddor o hawliau pleidleisio i garcharorion yn etholiadau Cymru, ond yn
disgwyl am adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant
2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu'r ffocws
gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a
lleihau aildroseddu.
Yn nodi bod y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a
Chymunedau yn cynnal ymchwiliad cyfredol i hawliau pleidleisio i garcharorion.
Gwelliant
3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 2, dileu 'na
ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru' a rhoi yn
ei le 'na ddylai hawliau pleidleisio cyfredol carcharorion gael eu hymestyn i
etholiadau Cymru yn y dyfodol'.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.47
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6966 Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai carchardai fod yn fannau diwygio ac adsefydlu, ac
mai'r carchar yw'r gosb ar gyfer y rhai a gaiff eu dyfarnu'n euog o drosedd.
2. Yn penderfynu na ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn
etholiadau Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
13 |
1 |
34 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gŵyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai carchardai
fod yn lleoedd i ddiwygio ac adsefydlu.
2. Yn cefnogi’r egwyddor
o hawliau pleidleisio i garcharorion yn etholiadau Cymru, ond yn disgwyl am
adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
15 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i
dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6966 Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai
carchardai fod yn lleoedd i ddiwygio ac adsefydlu.
2. Yn cefnogi’r egwyddor
o hawliau pleidleisio i garcharorion yn etholiadau Cymru, ond yn disgwyl am
adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
34 |
4 |
10 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.