Cyfarfodydd

NDM6961 Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau

NDM6961 - Rebecca Evans (Gwŷr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r cynnydd sy'n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, fel yr amlygir yn Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg Llywodraeth Cymru (Tachwedd 2018).

Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg 2018

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau a marwolaethau sy'n benodol gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i'r angen am adsefydlu  defnyddwyr cyffuriau ac alcohol ar sail preswyl haen 4 yng Nghymru. 

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig

Yn nodi adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ‘Adolygiad o wasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru’ ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r anghysonderau rhwng ystadegau swyddogol ar amseroedd aros, a phrofiadau amrywiol y bobl y tynnir sylw atynt yn yr adroddiad hwn.

Adolygiad o Wasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r aros hir am wasanaethau cwnsela a gwasanaethau atal ail bwl o salwch, y cyfeirir atynt yn adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Yn credu bod creu trosedd o gamddefnyddio rhai sylweddau yn ychwanegu at y niwed a gaiff ei achosi gan ddefnydd o’r fath, yn gwaethygu’r stigma, ac yn atal pobl sy'n gaeth rhag gwella’n llwyr, ac yn credu, yn hytrach, y dylid ystyried mai mater iechyd yw camddefnyddio sylweddau, ac mai lleihau niwed yw'r brif amcan.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.57

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6961 - Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r cynnydd sy'n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, fel yr amlygir yn Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg Llywodraeth Cymru (Tachwedd 2018).

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau a marwolaethau sy'n benodol gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i'r angen am adsefydlu  defnyddwyr cyffuriau ac alcohol ar sail preswyl haen 4 yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

27

47

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig

Yn nodi adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ‘Adolygiad o wasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru’ ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r anghysonderau rhwng ystadegau swyddogol ar amseroedd aros, a phrofiadau amrywiol y bobl y tynnir sylw atynt yn yr adroddiad hwn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

27

47

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r aros hir am wasanaethau cwnsela a gwasanaethau atal ail bwl o salwch, y cyfeirir atynt yn adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

27

47

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod creu trosedd o gamddefnyddio rhai sylweddau yn ychwanegu at y niwed a gaiff ei achosi gan ddefnydd o’r fath, yn gwaethygu’r stigma, ac yn atal pobl sy'n gaeth rhag gwella’n llwyr, ac yn credu, yn hytrach, y dylid ystyried mai mater iechyd yw camddefnyddio sylweddau, ac mai lleihau niwed yw'r brif amcan.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

12

0

47

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM6961 - Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r cynnydd sy'n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, fel yr amlygir yn Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg Llywodraeth Cymru (Tachwedd 2018).

Yn credu bod creu trosedd o gamddefnyddio rhai sylweddau yn ychwanegu at y niwed a gaiff ei achosi gan ddefnydd o’r fath, yn gwaethygu’r stigma, ac yn atal pobl sy'n gaeth rhag gwella’n llwyr, ac yn credu, yn hytrach, y dylid ystyried mai mater iechyd yw camddefnyddio sylweddau, ac mai lleihau niwed yw'r brif amcan.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

2

9

47

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.