Cyfarfodydd
NDM6989 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 13/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 13/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 13/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyfoeth Naturiol Cymru
NDM6989 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi penderfyniad
Llywodraeth Cymru i uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru drwy ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2013.
2. Yn cydnabod gwaith
caled y staff rheng flaen yn y sefydliad ond yn deall eu hanfodlonrwydd a'u
diffyg hyder yn y penderfyniadau a wneir gan uwch reolwyr, fel y caiff ei
fynegi'n rheolaidd mewn arolygon staff ers sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru.
3. Yn gresynu at
fethiant systematig Cyfoeth Naturiol Cymru o ran pobl Cymru drwy nifer o
sgandalau proffil uchel, gan gynnwys:
a) diffygion difrifol
wrth ymdrin â chontractau pren, i'r graddau bod yr archwilwyr, Grant Thornton,
wedi dweud eu bod mor ddrwg eu bod yn "dwysáu'r amlygiad i'r risg o
dwyll";
b) 'cymhwyso' cyfrifon
y sefydliad gan Swyddfa Archwilio Cymru am dair blynedd yn olynol, sy'n awgrymu
bod ansicrwydd ynghylch a oedd y sefydliad wedi gweithredu o fewn y rheolau;
c) y dull anghyson y
mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain wrth benderfynu ymyrryd ar faterion o
ddiddordeb cyhoeddus megis saethu ar dir cyhoeddus a dympio mwd niwclear.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad/ymchwiliad annibynnol i fethiannau'r
sefydliad ac ymchwilio i gynigion amgen ar gyfer rheoli adnoddau naturiol
Cymru.
Grant Thornton - Natural Resources Wales - Governance of
Timber Sales - 3 February 2019 (Saesneg yn unig)
Cyfoeth Naturiol Cymru - Adroddiad Blynyddol a Cyfrifon
2015-16
Cyfoeth Naturiol Cymru - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
2016-17
Cyfoeth
Naturiol Cymru - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a
rhoi yn eu lle bwyntiau newydd:
Yn nodi casgliadau ac argymhellion
yr adroddiadau gan:
a) Ymchwiliad Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol i adroddiad blynyddol a chyfrifon
Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-2018 – Tachwedd 2018;
b) Grant Thornton –
Cyfoeth Naturiol Cymru - Llywodraethu’r
Gwaith o Werthu Pren – Chwefror 2019.
Yn croesawu penodi
prif weithredwr a chadeirydd dros dro newydd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru
a’u hymrwymiad i weithredu argymhellion y ddau adroddiad a gwella’r modd y
caiff Cyfoeth Naturiol Cymru ei reoli a’i lywodraethu.
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Cyfoeth Naturiol Cymru
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 – Tachwedd 2018
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant
2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ym mhwynt 3, dileu "Yn
gresynu at fethiant systematig Cyfoeth Naturiol Cymru o ran pobl Cymru drwy
nifer o sgandalau proffil uchel" a rhoi yn ei le "Yn gresynu at nifer
y methiannau proffil uchel yn Cyfoeth Naturiol Cymru".
Gwelliant
3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sefydlu adolygiad annibynnol er mwyn canfod a yw'n dal yn briodol i Gyfoeth
Naturiol Cymru barhau i reoli'r ystâd goedwig fasnachol yng Nghymru ac ystyried
unrhyw fodelau amgen posibl.
Gwelliant
4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru adnoddau priodol i gyflawni ei
holl ddyletswyddau yn ddigonol.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.13
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6989 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi penderfyniad
Llywodraeth Cymru i uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru drwy ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2013.
2. Yn cydnabod gwaith caled y
staff rheng flaen yn y sefydliad ond yn deall eu hanfodlonrwydd a'u diffyg
hyder yn y penderfyniadau a wneir gan uwch reolwyr, fel y caiff ei fynegi'n
rheolaidd mewn arolygon staff ers sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru.
3. Yn gresynu at fethiant
systematig Cyfoeth Naturiol Cymru o ran pobl Cymru drwy nifer o sgandalau
proffil uchel, gan gynnwys:
a) diffygion difrifol wrth
ymdrin â chontractau pren, i'r graddau bod yr archwilwyr, Grant Thornton, wedi
dweud eu bod mor ddrwg eu bod yn "dwysáu'r amlygiad i'r risg o
dwyll";
b) 'cymhwyso' cyfrifon y
sefydliad gan Swyddfa Archwilio Cymru am dair blynedd yn olynol, sy'n awgrymu
bod ansicrwydd ynghylch a oedd y sefydliad wedi gweithredu o fewn y rheolau;
c) y dull anghyson y mae
Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain wrth benderfynu ymyrryd ar faterion o
ddiddordeb cyhoeddus megis saethu ar dir cyhoeddus a dympio mwd niwclear.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gychwyn adolygiad/ymchwiliad annibynnol i fethiannau'r sefydliad ac ymchwilio
i gynigion amgen ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
34 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle bwyntiau newydd:
Yn nodi casgliadau ac argymhellion yr adroddiadau gan:
a) Ymchwiliad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad
Cenedlaethol i adroddiad blynyddol a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer
2017-2018 – Tachwedd 2018;
b) Grant Thornton – Cyfoeth Naturiol Cymru - Llywodraethu’r Gwaith o Werthu Pren –
Chwefror 2019.
Yn croesawu penodi prif weithredwr a chadeirydd dros dro
newydd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a’u hymrwymiad i weithredu argymhellion
y ddau adroddiad a gwella’r modd y caiff Cyfoeth Naturiol Cymru ei reoli a’i
lywodraethu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
21 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod Gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2
a 3 eu dad-ddethol.
Gwelliant
4 -
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru adnoddau
priodol i gyflawni ei holl ddyletswyddau yn ddigonol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
27 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6989 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi penderfyniad
Llywodraeth Cymru i uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru drwy ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2013.
2. Yn cydnabod gwaith caled y
staff rheng flaen yn y sefydliad ond yn deall eu hanfodlonrwydd a'u diffyg
hyder yn y penderfyniadau a wneir gan uwch reolwyr, fel y caiff ei fynegi'n
rheolaidd mewn arolygon staff ers sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru.
3. Yn nodi casgliadau ac argymhellion yr adroddiadau gan:
a) Ymchwiliad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad
Cenedlaethol i adroddiad blynyddol a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer
2017-2018 – Tachwedd 2018;
b) Grant Thornton – Cyfoeth Naturiol Cymru - Llywodraethu’r Gwaith o Werthu Pren –
Chwefror 2019.
4. Yn croesawu penodi prif weithredwr a chadeirydd dros
dro newydd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a’u hymrwymiad i weithredu
argymhellion y ddau adroddiad a gwella’r modd y caiff Cyfoeth Naturiol Cymru ei
reoli a’i lywodraethu.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
21 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.