Cyfarfodydd
NDM6999 Dadl Plaid Cymru - Y Cwrdaidd yn Nhwrci
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 20/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 20/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Y Cwrdiaid yn Nhwrci
NDM6999
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi, er bod
materion tramor yn fater a gedwir i Lywodraeth a Senedd y DU ar hyn o bryd, mae
adran 62 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu: "“The Welsh
Ministers, the First Minister and the Counsel General may make appropriate
representations about any matter affecting Wales”.
2. Yn cydnabod y
gymuned Cwrdaidd sylweddol yng Nghymru.
3. Yn nodi bod
preswylydd o Gymru - İmam Sis, dyn Cwraidd ifanc - ar streic newyn
amhenodol, ddigyfaddawd o 17 Rhagfyr 2018, a ddechreuwyd i brotestio yn erbyn
ynysu'r arweinydd Cwrdaidd Abdullah Öcalan sydd wedi'i garcharu gan Dwrci ers
1999 o dan amodau sydd, yn ôl pob deall, yn mynd yn groes i rwymedigaethau
cyfreithiol gwladwriaeth Twrci mewn perthynas â hawliau dynol.
4. Yn nodi bod
streiciau newyn yn digwydd ledled Ewrop a'r byd, gan gynnwys gan Leyla Güven,
aelod etholedig o Senedd Twrci.
5. Yn nodi bod Twrci
yn un o lofnodwyr sawl cytuniad hawliau dynol rhyngwladol, gan gynnwys y
Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel aelod o Gyngor Ewrop.
6. Yn mynegi ei bryder
ynghylch y rhesymau dros y streiciau newyn.
7. Yn cydnabod mai nod
y streiciau newyn yn y pen draw yw gweld ateb heddychlon, gwleidyddol i'r
cwestiwn Cwrdaidd yn Nhwrci.
8. Yn cadarnhau
pwysigrwydd cynnal rhwymedigaethau hawliau dynol yn Nhwrci.
9. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru, ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i ysgrifennu at y
Pwyllgor i Atal Artaith a Thriniaeth Annynol neu Ddiraddiol neu Gosb yn galw ar
y Pwyllgor i ymweld â Charchar Imrali i asesu amodau Abdullah Öcalan.
Deddf
Llywodraeth Cymru 2006
(Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 3, dileu 'ynysu'r
arweinydd Cwrdaidd' a rhoi yn ei le 'ynysu arweinydd Cwrdaidd y PKK (Plaid
Gweithwyr Cwrdistan)'.
Gwelliant
2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod y PKK yn
sefydliad terfysgol a waharddwyd yn y DU, yr Undeb Ewropeaidd, ac Unol
Daleithiau America.
Yn condemnio pob
gweithred derfysgol a gyflawnir gan y PKK ac yn cydnabod y dioddefwyr a'r sifiliaid
a laddwyd ac a gafodd eu dal yn eu hymosodiadau.
Yn cydnabod hawl Twrci
i amddiffyn ei hun rhag ymosodiadau terfysgol gan y PKK.
Gwelliant
3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 7 a rhoi
yn ei le:
Yn cydnabod mai nod o
streicwyr newyn yw galluogi Abdullah Öcalan i gael gafael ar gynrychiolaeth
gyfreithiol a chysylltu â'i deulu.
Gwelliant
4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 8 ac ailrifo'n unol â hynny:
Yn nodi fod
Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth y DU a Llysgennad EM â Thwrci wedi pwysleisio
wrth Lywodraeth Twrci yr angen i barchu hawliau dynol, osgoi anafu sifiliaid a
dychwelyd at y broses heddwch.
Gwelliant
5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yy galw ar y PKK i
roi'r gorau i derfysgaeth fel modd o hybu ei amcanion a dychwelyd at y broses
heddwch.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.20
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6999 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi, er bod materion tramor yn fater a gedwir i Lywodraeth a
Senedd y DU ar hyn o bryd, mae adran 62 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn
darparu: "“The Welsh Ministers, the First Minister and the Counsel General
may make appropriate representations about any matter affecting Wales”.
2. Yn cydnabod y gymuned Cwrdaidd sylweddol yng Nghymru.
3. Yn nodi bod preswylydd o Gymru - İmam Sis, dyn Cwraidd ifanc - ar
streic newyn amhenodol, ddigyfaddawd o 17 Rhagfyr 2018, a ddechreuwyd i
brotestio yn erbyn ynysu'r arweinydd Cwrdaidd Abdullah Öcalan sydd wedi'i
garcharu gan Dwrci ers 1999 o dan amodau sydd, yn ôl pob deall, yn mynd yn
groes i rwymedigaethau cyfreithiol gwladwriaeth Twrci mewn perthynas â hawliau
dynol.
4. Yn nodi bod streiciau newyn yn digwydd ledled Ewrop a'r byd, gan
gynnwys gan Leyla Güven, aelod etholedig o Senedd Twrci.
5. Yn nodi bod Twrci yn un o lofnodwyr sawl cytuniad hawliau dynol
rhyngwladol, gan gynnwys y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel aelod o
Gyngor Ewrop.
6. Yn mynegi ei bryder ynghylch y rhesymau dros y streiciau newyn.
7. Yn cydnabod mai nod y streiciau newyn yn y pen draw yw gweld ateb
heddychlon, gwleidyddol i'r cwestiwn Cwrdaidd yn Nhwrci.
8. Yn cadarnhau pwysigrwydd cynnal rhwymedigaethau hawliau dynol yn
Nhwrci.
9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i
ysgrifennu at y Pwyllgor i Atal Artaith a Thriniaeth Annynol neu Ddiraddiol neu
Gosb yn galw ar y Pwyllgor i ymweld â Charchar Imrali i asesu amodau Abdullah
Öcalan.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
14 |
11 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.