Cyfarfodydd
P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
5 P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 5 PDF 210 KB Gweld fel HTML (5/1) 8 KB
- 16.03.20 Gohebiaeth – Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Cadeirydd, Eitem 5 PDF 242 KB
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn
ystyried gohebiaeth bellach a chytunodd i gau'r ddeiseb yn dilyn cadarnhad y
bydd cynigion i gryfhau darpariaeth i ddisgwyl cyfleusterau newid babanod mewn
toiledau dynion a menywod yn cael eu cynnwys yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru,
sydd ar ddod, ar gyfleusterau newid mewn toiledau, ac estynnwyd llongyfarchion
i’r deisebydd ar yr ymgyrch.
Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 115 KB Gweld fel HTML (3/1) 8 KB
- 13.02.20 Gohebiaeth – Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 267 KB
- 02.03.20 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 131 KB Gweld fel HTML (3/3) 3 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i aros am wybodaeth bellach gan y
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol am y posibilrwydd o gynnwys cynigion i
gryfhau'r ddarpariaeth i ddisgwyl cyfleusterau newid babanod mewn toiledau
dynion a thoiledau menywod mewn ymgynghoriad sydd i ddod ar newidiadau i'r
Rheoliadau Adeiladu, cyn ystyried gweithredu pellach ar y ddeiseb.
Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 115 KB Gweld fel HTML (3/1) 8 KB
- 03.12.19 Gohebiaeth – Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 279 KB
- 08.01.20 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 165 KB Gweld fel HTML (3/3) 5 KB
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor i aros am ymateb i ohebiaeth ddiweddar y mae wedi’i hysgrifennu mewn
perthynas â chynyddu’r ddarpariaeth o doiledau lleoedd newid, cyn ystyried
ymhellach sut y gall polisïau cynllunio ymdrechu i wella’r ystod o gyfleusterau
toiledau sydd ar gael.
Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad mewn perthynas ag awgrym
bod arwyddion ar sail rhyw yn y Senedd.
Cyfarfod: 15/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 28 KB Gweld fel HTML (3/1) 8 KB
- 08.05.19 Gohebiaeth – Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 84 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Dirprwy
Weinidog a'r Prif Chwip i ofyn sut mae'r llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod
awdurdodau lleol yn cydymffurfio â'r canllawiau statudol ar ddarparu
cyfleusterau newid babanod os nad yw'n bwriadu craffu ar strategaethau toiledau
lleol.
Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 115 KB Gweld fel HTML (3/1) 8 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 3 PDF 68 KB Gweld fel HTML (3/2) 40 KB
- 12.03.19 Gohebiaeth – Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 282 KB
- 20.03.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 97 KB Gweld fel HTML (3/4) 6 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip er mwyn:
·
rhannu sylwadau'r deisebydd, a gofyn am eglurhad ynghylch
y cyfeiriad yn y safonau dylunio at beidio â rhoi cyfleusterau newid cewynnau
mewn toiledau ar gyfer 'y ddwy ryw';
·
gofyn pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu
ei wneud o'r strategaethau toiledau lleol a gynhyrchir gan awdurdodau lleol;
·
gofyn a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal unrhyw
drafodaethau â'r sector preifat, neu â chyrff cynrychioliadol, ynghylch darparu
cyfleusterau newid cewynnau mewn mannau sy'n agored i'r cyhoedd; a
·
gofyn am wybodaeth am gamau gweithredu perthnasol a
gymerwyd yn sgil ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn 2012, Goblygiadau
iechyd cyhoeddus o ddarpariaeth annigonol o doiledau cyhoeddus.