Cyfarfodydd
P-05-879 Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-879 Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb yn sgil y gwaith craffu a wnaed ar y materion hyn drwy
ymchwiliad Cadernid Meddwl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y
flaenoriaeth gynyddol a roddir i iechyd meddwl yn y cwricwlwm newydd, a'r
diffyg ymateb gan y deisebydd yn ddiweddar. Roedd y Pwyllgor am ddiolch i’r
deisebwyr am eu hymgysylltiad a dymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol.
Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-879 Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 28 KB Gweld fel HTML (3/1) 14 KB
- 24.06.19 Gohebiaeth – Gweinidog dros Addysg at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 467 KB
- 08.07.19 Goebiaeth - Prifysgol Metropolitan Caerdydd at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 194 KB
- 10.09.19 Gohebiaeth - Yr Athrofa Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 882 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am farn y deisebydd am y
wybodaeth bellach sydd wedi dod i law.
Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
2 P-05-879 Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 45 KB Gweld fel HTML (2/1) 14 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2 PDF 137 KB Gweld fel HTML (2/2) 295 KB
- 18.04.19 Gohebiaeth – Gweinidog dros Addysg at y Cadeirydd, Eitem 2 PDF 284 KB
- 14.05.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 65 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at y canlynol:
·
y Gweinidog
Addysg i drafod y pwyntiau ychwanegol a godwyd gan y deisebydd a gofyn:
o
am
wybodaeth bellach o ran sut y dylai disgyblion allu cael mynediad at
wasanaethau cwnsela mewn ysgolion;
o
sut mae
iechyd meddwl a lles disgyblion yn cael ei gynnwys mewn hyfforddiant athrawon a
datblygiad proffesiynol parhaus; ac
o
i gael
rhagor o wybodaeth am sut y caiff addysg iechyd meddwl ei chynnwys yn y
cwricwlwm ABCh cyfredol;
·
y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w hysbysu ynghylch y ddeiseb hon yng nghyd-destun
eu gwaith craffu parhaus ar les emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc a'r
cwricwlwm newydd;
·
Prifysgolion
Cymru sy'n darparu hyfforddiant athrawon i ofyn beth sydd wedi'i gynnwys yn eu
rhaglenni hyfforddi sy'n ymwneud ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc.