Cyfarfodydd
NDM7034 Dadl Plaid Cymru - Hawliau Gweithwyr
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 01/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 01/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 01/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Hawliau Gweithwyr
NDM7034
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd
Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr a rôl undebau llafur wrth sicrhau hawliau
gweithwyr yng Nghymru.
2. Yn nodi bod Cymru
yn llusgo ar ôl gweddill y DU o ran lefelau cyflog teg, gyda llawer o bobl yng
Nghymru ar gyflogau sydd 30 y cant yn is na gweddill poblogaeth y DU.
3. Yn credu y dylid
diweddaru'r ddeddfwriaeth i:
a) cyflawni 'Gwaith
Teg' gan ddefnyddio dulliau polisi ac ariannu a chynyddu cwmpas cydfargeinio;
b) amddiffyn hawliau
gweithwyr drwy ddulliau gorfodi mwy effeithiol; ac
c) sefydlu
partneriaeth gymdeithasol a chydfargeinio yng ngwead bywyd gwaith Cymru.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o gontractau dim oriau ym mhob un o
wasanaethau datganoledig cyhoeddus Cymru a chadwyni cyflenwi cysylltiedig.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynnwys ymrwymiad i gyflwyno deddf partneriaeth gymdeithasol
ac amserlen sy'n gysylltiedig â rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth
bresennol.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl
Pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cymeradwyo gwaith
pob Llywodraeth Cymru ers 1999 i ddatblygu strwythurau partneriaeth
gymdeithasol effeithiol gydag undebau llafur a busnesau Cymru.
Yn nodi bod y dull
gweithredu hwn wedi helpu i sicrhau hawliau gwirioneddol i weithwyr Cymru drwy
Ddeddf yr Undebau Llafur (Cymru) a’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol sydd wedi
gwyrdroi deddfwriaeth Llywodraeth y DU.
Yn croesawu’r camau a
ddatblygwyd drwy bartneriaeth gymdeithasol gan Lywodraeth Cymru i ddileu
contractau dim oriau ecsbloetiol yng Nghymru a’r gwaith a wnaed drwy’r Cod
Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.
Yn cydnabod ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn genedl Gwaith Teg.
Yn nodi ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i ddatblygu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a’i chyflwyno yn
ystod tymor y Cynulliad hwn.
Yn galw ar Lywodraeth
y DU i sicrhau wrth i ni ymadael â’r UE ei bod yn ymrwymo i safonau deinamig
sy’n rhwymo mewn cyfraith ar gyfer diogelu a gorfodi gwaith teg ar draws y DU.
Deddf
yr Undebau Llafur (Cymru)
Gorchymyn
Cyflogau Amaethyddol
Cod
Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant
2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 4.
Gwelliant
3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 5 a rhoi
yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymgynghori ar ddatblygu deddf partneriaethau cymdeithasol.
Gwelliant
4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth y DU i ddiogelu hawliau gweithwyr ar ôl Brexit.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.52
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7034 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd
Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr a rôl undebau llafur wrth sicrhau hawliau gweithwyr
yng Nghymru.
2. Yn nodi bod Cymru yn
llusgo ar ôl gweddill y DU o ran lefelau cyflog teg, gyda llawer o bobl yng
Nghymru ar gyflogau sydd 30 y cant yn is na gweddill poblogaeth y DU.
3. Yn credu y dylid
diweddaru'r ddeddfwriaeth i:
a) cyflawni 'Gwaith Teg'
gan ddefnyddio dulliau polisi ac ariannu a chynyddu cwmpas cydfargeinio;
b) amddiffyn hawliau
gweithwyr drwy ddulliau gorfodi mwy effeithiol; ac
c) sefydlu partneriaeth
gymdeithasol a chydfargeinio yng ngwead bywyd gwaith Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wahardd y defnydd o gontractau dim oriau ym mhob un o wasanaethau
datganoledig cyhoeddus Cymru a chadwyni cyflenwi cysylltiedig.
5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gynnwys ymrwymiad i gyflwyno deddf partneriaeth gymdeithasol ac
amserlen sy'n gysylltiedig â rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth bresennol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
2 |
40 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl Pwynt
1 a rhoi yn ei le:
Yn cymeradwyo gwaith pob
Llywodraeth Cymru ers 1999 i ddatblygu strwythurau partneriaeth gymdeithasol effeithiol
gydag undebau llafur a busnesau Cymru.
Yn nodi bod y dull
gweithredu hwn wedi helpu i sicrhau hawliau gwirioneddol i weithwyr Cymru drwy
Ddeddf yr Undebau Llafur (Cymru) a’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol sydd wedi
gwyrdroi deddfwriaeth Llywodraeth y DU.
Yn croesawu’r camau a
ddatblygwyd drwy bartneriaeth gymdeithasol gan Lywodraeth Cymru i ddileu
contractau dim oriau ecsbloetiol yng Nghymru a’r gwaith a wnaed drwy’r Cod
Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.
Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth
Cymru i wneud Cymru yn genedl Gwaith Teg.
Yn nodi ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i ddatblygu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a’i chyflwyno yn
ystod tymor y Cynulliad hwn.
Yn galw ar Lywodraeth y
DU i sicrhau wrth i ni ymadael â’r UE ei bod yn ymrwymo i safonau deinamig sy’n
rhwymo mewn cyfraith ar gyfer diogelu a gorfodi gwaith teg ar draws y DU.
Deddf yr Undebau Llafur
(Cymru)
Gorchymyn Cyflogau
Amaethyddol
Cod Ymarfer ar Gyflogaeth
Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu
dad-ddethol]
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
24 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau
2 a 3 eu dad-ddethol.
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth y DU i ddiogelu hawliau gweithwyr ar ôl Brexit.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
14 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7034 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd
Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr a rôl undebau llafur wrth sicrhau hawliau gweithwyr
yng Nghymru.
2. Yn cymeradwyo gwaith
pob Llywodraeth Cymru ers 1999 i ddatblygu strwythurau partneriaeth
gymdeithasol effeithiol gydag undebau llafur a busnesau Cymru.
3. Yn nodi bod y dull
gweithredu hwn wedi helpu i sicrhau hawliau gwirioneddol i weithwyr Cymru drwy
Ddeddf yr Undebau Llafur (Cymru) a’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol sydd wedi
gwyrdroi deddfwriaeth Llywodraeth y DU.
4. Yn croesawu’r camau a
ddatblygwyd drwy bartneriaeth gymdeithasol gan Lywodraeth Cymru i ddileu
contractau dim oriau ecsbloetiol yng Nghymru a’r gwaith a wnaed drwy’r Cod
Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.
5. Yn cydnabod ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn genedl Gwaith Teg.
6. Yn nodi ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i ddatblygu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a’i chyflwyno yn
ystod tymor y Cynulliad hwn.
7. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i sicrhau wrth i ni ymadael â’r UE ei bod yn ymrwymo i safonau deinamig
sy’n rhwymo mewn cyfraith ar gyfer diogelu a gorfodi gwaith teg ar draws y DU.
8. Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth y DU i ddiogelu hawliau gweithwyr ar ôl Brexit.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
23 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.