Cyfarfodydd
Ffordd Liniaru yr M4
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 11/11/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 11/11/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 11/11/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
3 Ffordd liniaru'r M4: Trafod yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru
PAC(5)-28-19 Papur 1 – Llythyr oddi wrth Llywodraeth
Cymru (8 Hydref 2019)
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru ynghylch ffordd liniaru’r
M4 a chytunodd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor
Economi, Seilwaith a Sgiliau gyda barn y Pwyllgor i helpu i hwyluso unrhyw
waith y mae'r Pwyllgor yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol yn dilyn yr Adolygiad
Burns.
Cyfarfod: 15/07/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/07/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/07/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Ffordd liniaru'r M4: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
Cofnodion:
7.1
Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.
Cyfarfod: 15/07/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/07/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/07/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
4 Ffordd Liniaru'r M4: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
Papur
briffio
PAC(5)-20-19
Papur 2 – Llywodraeth Cymru
Andrew
Slade - Cyfarwyddwr
Cyffredinol, Grŵp
yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru
Simon Jones - Cyfarwyddwr, Seilwaith yr Economi, Llywodraeth Cymru
Andy Falleyn - Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflenwi Seilwaith, Llywodraeth Cymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/1)
- PAC(5)-20-19 P2 - Papur Llywodraeth Cymru ar yr M4, Eitem 4 PDF 805 KB
Cofnodion:
4.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i'r
costau yr aed iddynt ar Ffordd Liniaru'r M4.
4.2
Cytunodd Andrew Slade i ddarparu'r canlynol:
·
Cyfanswm y
gost net ar gyfer datblygiad yr M4 - gan restru fesul eitem gyfanswm costau’r
datblygiad ynghyd â’r costau dirwyn i ben ac unrhyw gostau cysylltiedig eraill,
namyn unrhyw elw a wnaed o werthu’r eiddo a gaffaelwyd, incwm arall neu gostau a adenillwyd.
·
Copïau o
Adroddiad Dewisiadau Amgen a awgrymwyd gan Wrthwynebwyr ar gyfer coridor yr M4
o amgylch Casnewydd (Mawrth 2017)
·
Dadansoddiad
o'r gwaith twnelu arfaethedig o dan Lefelau Gwent, sut y cafodd y costau hyn eu
meincnodi, a pha ganran oeddent o gostau cyffredinol y dewisiadau eraill
·
Yr
amserlen ar gyfer gwaredu'r eiddo sydd ym meddiant Llywodraeth Cymru