Cyfarfodydd

Cynigion i newid Rheolau Sefydlog

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/03/2013 - Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol (Rheolau Sefydlog 29.2A a 29.6)

Cofnodion:

Cytunodd y rheolwyr busnes mewn egwyddor i Reol Sefydlog 29.2A newydd a Rheol Sefydlog 29.6 diwygiedig.


Cyfarfod: 18/03/2013 - Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Biliau Perthnasol (Rheolau Sefydlog 29.1, 29.2 a 30)

Cofnodion:

Dywedodd y Gweinidog dros Fusnes y Llywodraeth wrth y pwyllgor fod y Llywodraeth wedi methu dod i gytundeb â Swyddfa Cymru ynghylch diwygio Nodyn Canllaw Datganoli 9 yn unol â’r newiadau arfaethedig hyd yma. Oherwydd hynny, ni allai’r Llywodraeth dderbyn yr holl welliannau ar hyn o bryd a gofynnodd am fwy o amser i drafod â Swyddfa Cymru.

 

Cytunodd y rheolwyr busnes i ystyried ymhellach y diwygiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 29.1, 29.2 a 30 mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Busnes yn y dyfodol.


Cyfarfod: 18/03/2013 - Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Diwygiadau i Reolau Sefydlog 21 a 27: Cyflwyno Adroddiadau ar Offerynnau Statudol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y rheolwyr busnes mewn egwyddor i’r diwygiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 21 a 27.


Cyfarfod: 18/03/2013 - Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Cyfeirio at Bwyllgor (Rheolau Sefydlog 29.4 a 29.5)

Cofnodion:

Cytunodd y rheolwyr busnes mewn egwyddor i’r diwygiadau i Reol Sefydlog 29.4 ac i ddileu Rheol Sefydlog 29.5.


Cyfarfod: 18/03/2013 - Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Gwybodaeth mewn Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (Rheol Sefydlog 29.3)

Cofnodion:

Cytunodd y rheolwyr busnes mewn egwyddor i’r diwygiadau i Reol Sefydlog 29.3.


Cyfarfod: 18/03/2013 - Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Diwygiadau i Reolau Sefydlog 29 a 30: Cydsyniad mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/03/2013 - Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Diwygiadau i Reolau Sefydlog 26 a 26A: Y Cyfnod Ailystyried

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y rheolwyr busnes mewn egwyddor i’r diwygiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 26 a 26A.