Cyfarfodydd
NDM7137 Dadl Plaid Cymru - Cyfiawnder Hinsawdd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 18/09/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 10)
- Gweddarllediad ar gyfer 18/09/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 18/09/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Cyfiawnder Hinsawdd
NDM7137 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r alwad
gan Greta Thunberg ac ymgyrchwyr ieuenctid o Fridays for Future, i oedolion
ymuno â myfyrwyr a phobl ifanc sydd ar streic ar 20 Medi 2019 i fynnu
cyfiawnder hinsawdd.
2. Yn cymeradwyo'r rôl
y mae myfyrwyr a phobl ifanc wedi'i chwarae yng Nghymru ac ar draws y byd o ran
dod ag argyfwng yr hinsawdd i sylw llunwyr polisi a'r cyhoedd.
3. Yn cefnogi'r
streiciau a'r gwrthdystiadau a drefnwyd gan bobl ifanc ac oedolion ar 20 Medi
2019.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Yn cymeradwyo'r rôl y
mae pobl ifanc wedi'i chwarae o ran llywio'r agenda newid yn yr hinsawdd, fodd
bynnag, yn credu nad streic a phobl
ifanc yn colli ysgol yw'r ateb.
Yn cydnabod y pryder
cyhoeddus eang ynghylch cynhesu byd-eang a bod cyfyngu ar y newid yn yr
hinsawdd yn gofyn am ymdrech a chydweithrediad rhyngwladol, ac yn nodi'r camau canlynol a gymerwyd i fynd i'r afael â phryderon o'r
fath:
a) y rôl flaengar y
mae Llywodraeth y DU wedi'i chwarae o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd
a symud i dwf glân;
b) bod y DU wedi
lleihau allyriadau dros 40 y cant ers 1990 tra'n tyfu'r economi gan fwy na dwy
ran o dair, sef y perfformiad gorau fesul person nag unrhyw genedl arall yn y
G7;
c) bod Llywodraeth y
DU wedi gosod targed sero net â rhwymedigaeth
gyfreithiol i roi terfyn ar gyfraniad y DU i gynhesu byd-eang yn gyfan gwbl
erbyn 2050.
Yn nodi datganiad
argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru ond yn gresynu at fethiant y llywodraeth i
gyflwyno cyfres gynhwysfawr o fesurau sy'n addas ar gyfer argyfwng o'r fath.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 1 a rhoi
yn ei le:
Yn cefnogi galwad
mudiad Fridays for Future ar gyfer holl wleidyddion ac arweinwyr busnes i
wrando ar bobl ifanc oherwydd bod angen eu penderfynoldeb, eu syniadau a’u
hymdrechion ar frys i sicrhau Cymru carbon isel.
Gwelliant 3 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le:
Yn croesawu’r ymrwymiad
gan Lywodraeth Cymru i roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed erbyn
etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2021, gan roi llais cryfach i’r bobl
ifanc hynny ynghylch sut y mae Cymru’n wynebu’r her newid hinsawdd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7137 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r alwad gan
Greta Thunberg ac ymgyrchwyr ieuenctid o Fridays for Future, i oedolion ymuno â
myfyrwyr a phobl ifanc sydd ar streic ar 20 Medi 2019 i fynnu cyfiawnder
hinsawdd.
2. Yn cymeradwyo'r rôl y mae
myfyrwyr a phobl ifanc wedi'i chwarae yng Nghymru ac ar draws y byd o ran dod
ag argyfwng yr hinsawdd i sylw llunwyr polisi a'r cyhoedd.
3. Yn cefnogi'r streiciau a'r
gwrthdystiadau a drefnwyd gan bobl ifanc ac oedolion ar 20 Medi 2019.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
39 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn cymeradwyo'r rôl y mae pobl ifanc wedi'i chwarae o ran
llywio'r agenda newid yn yr hinsawdd, fodd bynnag, yn credu nad streic a phobl
ifanc yn colli ysgol yw'r ateb.
Yn cydnabod y pryder cyhoeddus eang ynghylch cynhesu
byd-eang a bod cyfyngu ar y newid yn yr hinsawdd yn gofyn am ymdrech a
chydweithrediad rhyngwladol, ac yn nodi'r camau canlynol a gymerwyd i fynd i'r
afael â phryderon o'r fath:
a) y rôl flaengar y mae Llywodraeth y DU wedi'i chwarae o
ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a symud i dwf glân;
b) bod y DU wedi lleihau allyriadau dros 40 y cant ers
1990 tra'n tyfu'r economi gan fwy na dwy ran o dair, sef y perfformiad gorau
fesul person nag unrhyw genedl arall yn y G7;
c) bod Llywodraeth y DU wedi gosod targed sero net â
rhwymedigaeth gyfreithiol i roi terfyn ar gyfraniad y DU i gynhesu byd-eang yn
gyfan gwbl erbyn 2050.
Yn nodi datganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru ond
yn gresynu at fethiant y llywodraeth i gyflwyno cyfres gynhwysfawr o fesurau
sy'n addas ar gyfer argyfwng o'r fath.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
1 |
34 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cefnogi galwad mudiad Fridays for Future ar gyfer holl
wleidyddion ac arweinwyr busnes i wrando ar bobl ifanc oherwydd bod angen eu
penderfynoldeb, eu syniadau a’u hymdrechion ar frys i sicrhau Cymru carbon
isel.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
8 |
13 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant
2.
Gwelliant 3 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu’r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi’r
bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed erbyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol
Cymru yn 2021, gan roi llais cryfach i’r bobl ifanc hynny ynghylch sut y mae
Cymru’n wynebu’r her newid hinsawdd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
3 |
15 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant
3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7137 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn cefnogi galwad mudiad
Fridays for Future ar gyfer holl wleidyddion ac arweinwyr busnes i wrando ar
bobl ifanc oherwydd bod angen eu penderfynoldeb, eu syniadau a’u hymdrechion ar
frys i sicrhau Cymru carbon isel.
2. Yn cymeradwyo'r rôl y mae
myfyrwyr a phobl ifanc wedi'i chwarae yng Nghymru ac ar draws y byd o ran dod
ag argyfwng yr hinsawdd i sylw llunwyr polisi a'r cyhoedd.
3. Yn
croesawu’r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac
17 oed erbyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2021, gan roi llais
cryfach i’r bobl ifanc hynny ynghylch sut y mae Cymru’n wynebu’r her newid
hinsawdd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
15 |
6 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd.