Cyfarfodydd
P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
4 P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 46 KB Gweld fel HTML (4/1) 25 KB
- Gohebiaeth - y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd i'r Cadeirydd, 13 Hydref 2021, Eitem 4 PDF 303 KB
- Gohebiaeth gan y Deisebydd, 10 Tachwedd 2021 [Saesneg yn unig], Eitem 4 PDF 538 KB Gweld fel HTML (4/3) 22 KB
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei
Chynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26 yn fuan. Yn ogystal, cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog unwaith eto, ac am y tro olaf, i wneud
cais bod sylw yn cael ei roi i’r galwadau am gynllun i helpu pobl i gael hawl i
ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes. Wrth wneud hynny, cytunodd y
Pwyllgor y byddai’n cau’r ddeiseb ac yn diolch i’r deisebydd am godi’r mater
hwn.
Cyfarfod: 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
3 P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes.
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 46 KB Gweld fel HTML (3/1) 14 KB
- Gohebiaeth gan y deisebydd, 23 Awst 2021 [Saesneg yn unig], Eitem 3 PDF 542 KB Gweld fel HTML (3/2) 16 KB
- Gohebiaeth gan y deisebydd, 23 Awst 2021 - Atodiad [Saesneg yn unig], Eitem 3 PDF 207 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd
i ysgrifennu at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru i ddarganfod a
yw'r Llywodraeth yn bwriadu bwrw ymlaen â'r gwaith hwn.
Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 46 KB Gweld fel HTML (3/1) 14 KB
- 04.03.21 Gohebiaeth – Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 250 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor ddiweddariad gan y Gweinidog ac awydd y deisebydd i ddarparu
gwybodaeth bellach yn y dyfodol, a chytunodd i drosglwyddo’r ddeiseb i'w
hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol yn nhymor nesaf y Senedd.
Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 46 KB Gweld fel HTML (3/1) 14 KB
- 20.07.20 Gohebiaeth – Coleg Brenhinol y Milfeddygon at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 130 KB
- 19.01.21 Gohebiaeth – y Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 3 PDF 622 KB Gweld fel HTML (3/3) 22 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ofyn am ddiweddariad pellach
gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar unrhyw drafodaethau
ynghylch y materion hyn a gynhaliwyd gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a
Chymdeithas Milfeddygon Prydain.
Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
5 P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 5 PDF 46 KB Gweld fel HTML (5/1) 14 KB
- 07.04.20 Gohebiaeth – Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd, Eitem 5 PDF 261 KB
- 16.06.20 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 5 PDF 528 KB Gweld fel HTML (5/3) 16 KB
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn
ystyried gwybodaeth ychwanegol a chytunwyd ar y camau a ganlyn:
·
aros am ddiweddariad pellach gan Weinidog
yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig unwaith y bydd hi wedi gallu cynnal
trafodaethau pellach gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a Chymdeithas
Filfeddygol Prydain; ac
·
ysgrifennu at Goleg Brenhinol y Milfeddygon
i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb, ac yn sylwadau dilynol
y deisebydd.
Cyfarfod: 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 44 KB Gweld fel HTML (3/1) 14 KB
- 16.12.19 Gohebiaeth - Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 87 KB
- 16.01.20 Gohebiaeth - Cymdeithas Milfeddygon Prydain at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 134 KB Gweld fel HTML (3/3) 3 KB
- 17.02.20 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 254 KB Gweld fel HTML (3/4) 17 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at
Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn:
·
sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb
i’r argymhellion yn y llythyr gan Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru; ac
·
i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y
gwaith sy'n cael ei wneud gan Rwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru ar ddarpariaeth
filfeddygol, cymorth a chyngor.
Cyfarfod: 15/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
2 P-05-895 Etifeddiaeth Rosa - Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 28 KB Gweld fel HTML (2/1) 14 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2 PDF 51 KB Gweld fel HTML (2/2) 40 KB
- 03.09.19 Gohebiaeth – Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd, Eitem 2 PDF 53 KB
- 07.10.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 184 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu i ofyn am ragor o
dystiolaeth gan Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru a Chymdeithas
Filfeddygol Prydain ynghylch y mater dan sylw yn y ddeiseb.