Cyfarfodydd
NDM7129 Dadl: Tasglu'r Cymoedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 17/09/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 17/09/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Tasglu'r Cymoedd
NDM7129 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod
pwysigrwydd Y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De o ran cefnogi datblygu
economaidd ar draws y rhanbarth.
2. Yn nodi’r
diweddariad ar Y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De a gyhoeddwyd ar 18
Gorffennaf.
3. Yn croesawu’r
saith maes blaenoriaeth, sydd wedi eu diweddaru, ac ehangiad cwmpas y Tasglu i
gynnwys Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman.
4. Yn croesawu’r
cynllun grant cartrefi gwag a gaiff ei gyflwyno i bob awdurdod lleol yn ardal y
Tasglu yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Datganiad
Ysgrifenedig: Diweddariad ar y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 1 a
rhoi yn ei le:
Yn nodi mai'r
ffordd orau o wella bywydau a chymunedau'r rhai sy'n byw yn y Cymoedd yw drwy
ddarparu cyfleoedd cyflogaeth hirdymor o safon, grymuso pobl i gyflawni eu
potensial a chymryd perchenogaeth yn eu cymunedau eu hunain.
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwyntiau 2 a
3 a rhoi yn eu lle:
Yn gresynu nad oes
gan gynllun cyflawni 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' ddigon o uchelgais i helpu i
gefnogi cymunedau'r Cymoedd.
Tasglu'r Cymoedd: Yn cyflawni
newid yng Nghymoedd De Cymru
Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 4 a
rhoi yn ei le:
Yn nodi'r cynnydd o
40 y cant yn nifer y cartrefi gwag yng Nghymru ers 2009 a'r angen am atebion
cyllido a gorfodi i sicrhau bod y rhain yn cael eu defnyddio unwaith eto er
mwyn mynd i'r afael â'r problemau tai yn ardal y tasglu.
Gwelliant 4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddarparu gwybodaeth am y canlyniadau diriaethol disgwyliedig a
chyflwyno cynllun manwl sy'n amlinellu manteision y tasglu fesul cwm, a
chynnydd o ran cyflawni'r canlyniadau hynny.
Gwelliant 5 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Gweinidog
Cyllid a'r Trefnydd i lunio llinell gyllideb benodol ar gyfer tasglu'r Cymoedd
a fydd yn cael ei chynnwys yng nghyllideb Llywodraeth Cymru sydd ar fin
ymddangos.
Gwelliant 6 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am sefydlu
pwyllgor arbennig dros dro gyda chylch gwaith penodol i ddwyn y Gweinidog i
gyfrif am waith Tasglu'r Cymoedd ac i aelodaeth y pwyllgor gynnwys Aelodau'r
Cynulliad sy'n cynrychioli etholaethau'r cymoedd.
Gwelliant 7 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r
cyfleoedd i wella Ein Cymoedd, Ein Dyfodol o ganlyniad i gyhoeddiadau cyllido
gan Lywodraeth y DU a fydd yn darparu £600 miliwn yn ychwanegol yn 2019-2020 i
grant bloc Cymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.31
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7129 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod
pwysigrwydd Y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De o ran cefnogi datblygu
economaidd ar draws y rhanbarth.
2. Yn nodi’r
diweddariad ar Y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De a gyhoeddwyd ar 18
Gorffennaf.
3. Yn croesawu’r
saith maes blaenoriaeth, sydd wedi eu diweddaru, ac ehangiad cwmpas y Tasglu i
gynnwys Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman.
4. Yn croesawu’r
cynllun grant cartrefi gwag a gaiff ei gyflwyno i bob awdurdod lleol yn ardal y
Tasglu yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar y Tasglu Gweinidogol ar
gyfer Cymoedd y De
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 1 a
rhoi yn ei le:
Yn nodi mai'r
ffordd orau o wella bywydau a chymunedau'r rhai sy'n byw yn y Cymoedd yw drwy
ddarparu cyfleoedd cyflogaeth hirdymor o safon, grymuso pobl i gyflawni eu
potensial a chymryd perchenogaeth yn eu cymunedau eu hunain.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwyntiau 2 a
3 a rhoi yn eu lle:
Yn gresynu nad oes gan
gynllun cyflawni 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' ddigon o uchelgais i helpu i
gefnogi cymunedau'r Cymoedd.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
28 |
51 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 4 a
rhoi yn ei le:
Yn nodi'r cynnydd o
40 y cant yn nifer y cartrefi gwag yng Nghymru ers 2009 a'r angen am atebion
cyllido a gorfodi i sicrhau bod y rhain yn cael eu defnyddio unwaith eto er
mwyn mynd i'r afael â'r problemau tai yn ardal y tasglu.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
28 |
51 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth am y canlyniadau diriaethol disgwyliedig
a chyflwyno cynllun manwl sy'n amlinellu manteision y tasglu fesul cwm, a
chynnydd o ran cyflawni'r canlyniadau hynny.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
28 |
51 |
Gwrthodwyd
gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y
Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i lunio llinell gyllideb benodol ar gyfer
tasglu'r Cymoedd a fydd yn cael ei chynnwys yng nghyllideb Llywodraeth Cymru
sydd ar fin ymddangos.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
28 |
51 |
Gwrthodwyd
gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am sefydlu pwyllgor
arbennig dros dro gyda chylch gwaith penodol i ddwyn y Gweinidog i gyfrif am
waith Tasglu'r Cymoedd ac i aelodaeth y pwyllgor gynnwys Aelodau'r Cynulliad
sy'n cynrychioli etholaethau'r cymoedd.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
1 |
42 |
51 |
Gwrthodwyd
gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r
cyfleoedd i wella Ein Cymoedd, Ein Dyfodol o ganlyniad i gyhoeddiadau cyllido
gan Lywodraeth y DU a fydd yn darparu £600 miliwn yn ychwanegol yn 2019-2020 i
grant bloc Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
5 |
36 |
51 |
Gwrthodwyd
gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7129 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai'r
ffordd orau o wella bywydau a chymunedau'r rhai sy'n byw yn y Cymoedd yw drwy
ddarparu cyfleoedd cyflogaeth hirdymor o safon, grymuso pobl i gyflawni eu
potensial a chymryd perchenogaeth yn eu cymunedau eu hunain.
2. Yn nodi’r
diweddariad ar Y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De a gyhoeddwyd ar 18
Gorffennaf.
3. Yn croesawu’r
saith maes blaenoriaeth, sydd wedi eu diweddaru, ac ehangiad cwmpas y Tasglu i
gynnwys Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman.
4. Yn croesawu’r
cynllun grant cartrefi gwag a gaiff ei gyflwyno i bob awdurdod lleol yn ardal y
Tasglu yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar y Tasglu Gweinidogol ar
gyfer Cymoedd y De
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
7 |
16 |
51 |
Derbyniwyd y
cynnig fel y’i diwygiwyd.