Cyfarfodydd

NDM7138 Dadl Plaid Cymru - Tâl ac amodau gweithwyr y GIG

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/09/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

Dadl Plaid Cymru - Tâl ac amodau gweithwyr y GIG

NDM7138 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at gynigion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymestyn sifftiau nyrsio heb dâl ar gyfer dros 4,000 o nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd.

2. Yn ofni colli ewyllys da ymysg staff sydd eisoes yn gweithio drwy eu cyfnodau egwyl neu sydd ar alwad ar eu wardiau neu eu hunedau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu tâl ac amodau gweithwyr rheng flaen o fewn y GIG drwy sicrhau bod y cynnig atchweliadol hwn yn cael ei ddiddymu.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn gwerthfawrogi gweithlu’r GIG a’n trefniadau gwaith partneriaeth gymdeithasol.

Yn disgwyl i holl gyrff y GIG weithio, ymgysylltu ac ymgynghori gyda’u staff, eu hundebau llafur a chyrff cynrychiadol eraill ar newidiadau gweithredol sy’n effeithio ar staff.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol]

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu ymhellach bod nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd o ganlyniad i straen a phroblemau'n ymwneud ag iechyd meddwl o fewn y bwrdd iechyd wedi cynyddu 20 y cant ers 2014.

Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn mynegi pryder na fydd y cynnig hwn o gymorth i forâl y staff ac y bydd yn gosod disgwyliadau ychwanegol ar nyrsys a gweithwyr gofal iechyd i aberthu eu cyfnodau egwyl cytundebol.

Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ym mhwynt 3, dileu 'drwy sicrhau' a rhoi yn ei le:

'ac i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ymyrryd er mwyn sicrhau'

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.25

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7138 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at gynigion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymestyn sifftiau nyrsio heb dâl ar gyfer dros 4,000 o nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd.

2. Yn ofni colli ewyllys da ymysg staff sydd eisoes yn gweithio drwy eu cyfnodau egwyl neu sydd ar alwad ar eu wardiau neu eu hunedau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu tâl ac amodau gweithwyr rheng flaen o fewn y GIG drwy sicrhau bod y cynnig atchweliadol hwn yn cael ei ddiddymu.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

35

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn gwerthfawrogi gweithlu’r GIG a’n trefniadau gwaith partneriaeth gymdeithasol.

Yn disgwyl i holl gyrff y GIG weithio, ymgysylltu ac ymgynghori gyda’u staff, eu hundebau llafur a chyrff cynrychiadol eraill ar newidiadau gweithredol sy’n effeithio ar staff.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

21

48

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7138 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gwerthfawrogi gweithlu’r GIG a’n trefniadau gwaith partneriaeth gymdeithasol.

2. Yn disgwyl i holl gyrff y GIG weithio, ymgysylltu ac ymgynghori gyda’u staff, eu hundebau llafur a chyrff cynrychiadol eraill ar newidiadau gweithredol sy’n effeithio ar staff.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

3

11

47

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.