Cyfarfodydd

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2020-21

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/05/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Cyllideb Atodol Gyntaf Comisiwn y Senedd 2020-21

Papur ategol:

Papur 3 - Cyllideb Atodol Gyntaf Comisiwn y Senedd 2020-21

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor gais Gomisiwn y Senedd ynghylch ei Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2020-21, a nododd y cais hwnnw.

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gomisiwn y Senedd i ofyn am wybodaeth ynghylch goblygiadau ariannol COVID-19 ar ei gyllideb.

 


Cyfarfod: 27/11/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Llythyr gan Suzy Davies AC mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar graffu ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/10/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 2 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau.

 


Cyfarfod: 03/10/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 03/10/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Sesiwn dystiolaeth: Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2020-21

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Suzy Davies AC, Comisiynydd ar gyfer y Gyllideb a Llywodraethu, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Papur 1 - Cyllideb ddrafft Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2020-21

Briff ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21 gan Suzy Davies AC, Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu, Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr Cyllid.