Cyfarfodydd
NDM7178 Dadl Plaid Cymru - Mynediad at Wasanaethau Iechyd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 10)
- Gweddarllediad ar gyfer 06/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 06/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Mynediad at Wasanaethau Iechyd
NDM7178 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder ynghylch
y diffyg mynediad at wasanaethau meddygol sylfaenol, gan gynnwys meddygon teulu
a deintyddiaeth y GIG, mewn sawl rhan o Gymru.
2. Yn galw am
recriwtio a chadw staff meddygol ychwanegol i sicrhau mynediad priodol at
wasanaethau iechyd ledled Cymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r camau
gweithredu cadarnhaol sydd ar y gweill drwy Fodel Gofal Sylfaenol Cymru i wella
mynediad pobl, ddydd a nos, at y gweithiwr proffesiynol a’r gwasanaeth cywir ar
gyfer eu hanghenion penodol.
2. Yn nodi’r gwelliant
amlwg yn lefelau recriwtio meddygon i’r rhaglen hyfforddiant arbenigol ar gyfer
meddygon teulu eleni.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu bod dros
119,000 o gleifion yng Nghymru o dan ofal practisau meddygon teulu mewn perygl
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofal sylfaenol yn cael ei
ariannu'n ddigonol drwy dderbyn o leiaf 10 y cant o gyllideb gyfan y GIG.
Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi pryderon
parhaus Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru ynghylch cynaliadwyedd gwasanaethau
gofal sylfaenol yn y dyfodol a chyhoeddi map gwres diweddaraf practisau
meddygon teulu Cymru.
Cymdeithas
Feddygol Prydain - map gwres practisau meddygon teulu Cymru Ebrill 2019
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 2, ar ôl
'ychwanegol' rhoi 'a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill'.
Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad bon a brig o'r gwaith o gynllunio gweithlu
yn y GIG yng Nghymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.54
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7178 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder ynghylch y diffyg mynediad at wasanaethau meddygol
sylfaenol, gan gynnwys meddygon teulu a deintyddiaeth y GIG, mewn sawl rhan o
Gymru.
2. Yn galw am recriwtio a chadw staff meddygol ychwanegol i sicrhau
mynediad priodol at wasanaethau iechyd ledled Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
32 |
45 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r camau
gweithredu cadarnhaol sydd ar y gweill drwy Fodel Gofal Sylfaenol Cymru i wella
mynediad pobl, ddydd a nos, at y gweithiwr proffesiynol a’r gwasanaeth cywir ar
gyfer eu hanghenion penodol.
2. Yn nodi’r gwelliant
amlwg yn lefelau recriwtio meddygon i’r rhaglen hyfforddiant arbenigol ar gyfer
meddygon teulu eleni.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
21 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol
Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad bon a brig o'r gwaith o gynllunio gweithlu
yn y GIG yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
26 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7178 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r camau
gweithredu cadarnhaol sydd ar y gweill drwy Fodel Gofal Sylfaenol Cymru i wella
mynediad pobl, ddydd a nos, at y gweithiwr proffesiynol a’r gwasanaeth cywir ar
gyfer eu hanghenion penodol.
2. Yn nodi’r gwelliant
amlwg yn lefelau recriwtio meddygon i’r rhaglen hyfforddiant arbenigol ar gyfer
meddygon teulu eleni.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
20 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.