Cyfarfodydd
NDM7179 Dadl Plaid Cymru - Rotas Newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 11)
- Gweddarllediad ar gyfer 06/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 06/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Rotas Newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
NDM7179 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthwynebu penderfyniad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflwyno rotas newydd a fydd yn
ymestyn sifftiau staff nyrsio o fis Ionawr 2020.
2. Yn credu bod hwn yn
gam niweidiol ac yn gam yn ôl - yn enwedig ar adeg pan fo mwy nag un o bob deg
swydd nyrsio yn y Bwrdd Iechyd yn wag.
3. Yn nodi bod Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod o dan fesurau arbennig dros y pedair
blynedd diwethaf a'i fod felly o dan reolaeth uniongyrchol y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r penderfyniad a diogelu amodau gwaith nyrsys.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwerthfawrogi
gweithlu’r GIG a’n trefniadau gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ym Mwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.
2. Yn nodi bod BIPBC
yn parhau i ymgysylltu â’r staff nyrsio a’u hundebau llafur ynglŷn â
newidiadau i rotas nyrsio.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys fel pwynt
newydd ar ol pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu ymhellach
bod nifer y diwrnodau gwaith a gollir oherwydd straen a materion yn ymwneud ag
iechyd meddwl o fewn y bwrdd iechyd wedi cynyddu 20 y cant ers 2014.
Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 3, dileu
'dros y pedair blynedd diwethaf' a rhoi 'am dros bedair blynedd' yn ei le.
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys pwynt newydd
ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu bod y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi methu â rhwystro'r
penderfyniad hwn rhag cael ei wneud.
Gwelliant 5 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a
byrddau iechyd eraill ledled Cymru yn ceisio osgoi Deddf Lefelau Staff Nyrsio
(Cymru) 2016 drwy ailddosbarthu patrymau gwaith.
Deddf
Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.28
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7179 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthwynebu penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i
gyflwyno rotas newydd a fydd yn ymestyn sifftiau staff nyrsio o fis Ionawr
2020.
2. Yn credu bod hwn yn gam niweidiol ac yn gam yn ôl - yn enwedig ar adeg
pan fo mwy nag un o bob deg swydd nyrsio yn y Bwrdd Iechyd yn wag.
3. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod o dan
fesurau arbennig dros y pedair blynedd diwethaf a'i fod felly o dan reolaeth
uniongyrchol y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r penderfyniad a diogelu amodau
gwaith nyrsys.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
33 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwerthfawrogi
gweithlu’r GIG a’n trefniadau gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ym Mwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.
2. Yn nodi bod BIPBC yn
parhau i ymgysylltu â’r staff nyrsio a’u hundebau llafur ynglŷn â
newidiadau i rotas nyrsio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
20 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol
Gwelliant 5 - Caroline Jones (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a byrddau
iechyd eraill ledled Cymru yn ceisio osgoi Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru)
2016 drwy ailddosbarthu patrymau gwaith.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
26 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7179 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwerthfawrogi
gweithlu’r GIG a’n trefniadau gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ym Mwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.
2. Yn nodi bod BIPBC yn
parhau i ymgysylltu â’r staff nyrsio a’u hundebau llafur ynglŷn â
newidiadau i rotas nyrsio.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
6 |
14 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.