Cyfarfodydd
NDM7195 Dadl Plaid Cymru - Strategaeth Cerbydau
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 20/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 20/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Strategaeth Cerbydau
NDM7195 Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi
argymhelliad Pwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad yn 2013 y dylai
Llywodraeth Cymru: 'Ddatblygu a chyhoeddi strategaeth cerbydau fel mater o
frys, nid dim ond i sicrhau bod penderfyniadau pwysig ynglŷn â
chydweddiad cerbydau ar gyfer trydaneiddio a deddfwriaeth hygyrchedd yn cael eu
cymryd mewn da bryd i osgoi’r costau uwch a’r tarfu sy’n deillio o oedi, ond
hefyd i gynyddu capasiti ac ansawdd trenau ar gyfer y tymor hir '.
2. Yn gresynu at
fethiant Llywodraeth Cymru:
(a) i gymryd camau
priodol i fynd i'r afael â'r materion y tynnwyd sylw atynt mor bell yn ôl â
2013 mewn perthynas â cherbydau;
(b) i gyrraedd y
dyddiad cau ar gyfer cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd
(PRM) mewn perthynas â'i gerbydau;
(c) i wneud cais
amserol i'r Adran Drafnidiaeth am y rhyddhad angenrheidiol i gadw trenau nad
ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd (PRM) mewn
gwasanaeth o fis Ionawr 2020.
3. Yn mynegi
pryder am yr aflonyddwch parhaus y mae llawer o deithwyr rheilffordd Trafnidiaeth
Cymru yn ei wynebu bob dydd.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd bod ganddi gynlluniau wrth gefn ar waith i
liniaru'r posibilrwydd o golli cyfran fawr o'i fflyd.
Y
Pwyllgor Menter a Busnes, Dyfodol Masnachfraint Cymru a'r Gororau, Rhagfyr 2013
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a rhoi
yn ei le:
1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £5 biliwn yn rhwydwaith
rheilffyrdd Cymru dros y 15 mlynedd nesaf, gan gynnwys dros £800 miliwn mewn
cerbydau.
2. Yn nodi’r heriau y mae’r diwydiant rheilffyrdd yn eu
hwynebu ar draws y DU o safbwynt cydymffurfiaeth â’r gofynion o ran teithwyr â
symudedd cyfyngedig sy’n effeithio ar fasnachfreintiau ar draws y DU.
3. Yn cydnabod mai un o’r prif resymau dros brinder
cerbydau yw’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi edrych i’r dyfodol wrth
gwtogi ei rhaglen drydaneiddio, gan effeithio ar Abertawe ac arwain at oedi o
safbwynt darpariaeth cerbydau.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw’r etholiad
cyffredinol yn amharu ar geisiadau am randdirymiadau o safbwynt teithwyr â
symudedd cyfyngedig er mwyn sicrhau capasiti ychwanegol ar y rhwydwaith am
gyfnod byr hyd 2020.
5. Yn nodi nad yw’r system gerbydau ar draws y DU yn
gweithio ac yn galw ar Lywodraeth y DU i gydweithio â’r gweinyddiaethau
datganoledig er mwyn datblygu model newydd.
Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mai mater i Lywodraeth Cymru oedd y cyfrifoldeb
dros ddarparu capasiti cerbydau ar gyfer gwasanaethau Cymru a gwasanaethau i
Gymru yn unig o dan y fasnachfraint reilffyrdd a weithredwyd gan Drenau Arriva
Cymru ers 2006.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.52
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7195 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
nodi argymhelliad Pwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad yn 2013 y
dylai Llywodraeth Cymru: 'Ddatblygu a chyhoeddi strategaeth cerbydau fel mater
o frys, nid dim ond i sicrhau bod penderfyniadau pwysig ynglŷn â
chydweddiad cerbydau ar gyfer trydaneiddio a deddfwriaeth hygyrchedd yn cael eu
cymryd mewn da bryd i osgoi’r costau uwch a’r tarfu sy’n deillio o oedi, ond
hefyd i gynyddu capasiti ac ansawdd trenau ar gyfer y tymor hir '.
2. Yn
gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru:
(a) i gymryd camau
priodol i fynd i'r afael â'r materion y tynnwyd sylw atynt mor bell yn ôl â
2013 mewn perthynas â cherbydau;
(b) i gyrraedd y
dyddiad cau ar gyfer cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd
(PRM) mewn perthynas â'i gerbydau;
(c) i wneud
cais amserol i'r Adran Drafnidiaeth am y rhyddhad angenrheidiol i gadw trenau
nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd (PRM) mewn
gwasanaeth o fis Ionawr 2020.
3. Yn
mynegi pryder am yr aflonyddwch parhaus y mae llawer o deithwyr rheilffordd
Trafnidiaeth Cymru yn ei wynebu bob dydd.
4. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd bod ganddi gynlluniau wrth gefn ar
waith i liniaru'r posibilrwydd o golli cyfran fawr o'i fflyd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
36 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a rhoi
yn ei le:
1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £5 biliwn yn rhwydwaith
rheilffyrdd Cymru dros y 15 mlynedd nesaf, gan gynnwys dros £800 miliwn mewn
cerbydau.
2. Yn nodi’r heriau y mae’r diwydiant rheilffyrdd yn eu
hwynebu ar draws y DU o safbwynt cydymffurfiaeth â’r gofynion o ran teithwyr â
symudedd cyfyngedig sy’n effeithio ar fasnachfreintiau ar draws y DU.
3. Yn cydnabod mai un o’r prif resymau dros brinder
cerbydau yw’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi edrych i’r dyfodol wrth
gwtogi ei rhaglen drydaneiddio, gan effeithio ar Abertawe ac arwain at oedi o
safbwynt darpariaeth cerbydau.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw’r etholiad
cyffredinol yn amharu ar geisiadau am randdirymiadau o safbwynt teithwyr â
symudedd cyfyngedig er mwyn sicrhau capasiti ychwanegol ar y rhwydwaith am
gyfnod byr hyd 2020.
5. Yn nodi nad yw’r system gerbydau ar draws y DU yn gweithio
ac yn galw ar Lywodraeth y DU i gydweithio â’r gweinyddiaethau datganoledig er
mwyn datblygu model newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
0 |
16 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant
1.
Gwelliant
2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mai mater i Lywodraeth Cymru oedd y cyfrifoldeb
dros ddarparu capasiti cerbydau ar gyfer gwasanaethau Cymru a gwasanaethau i
Gymru yn unig o dan y fasnachfraint reilffyrdd a weithredwyd gan Drenau Arriva
Cymru ers 2006.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
4 |
27 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant
2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7195 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £5 biliwn yn rhwydwaith
rheilffyrdd Cymru dros y 15 mlynedd nesaf, gan gynnwys dros £800 miliwn mewn
cerbydau.
2. Yn nodi’r heriau y mae’r diwydiant rheilffyrdd yn eu
hwynebu ar draws y DU o safbwynt cydymffurfiaeth â’r gofynion o ran teithwyr â
symudedd cyfyngedig sy’n effeithio ar fasnachfreintiau ar draws y DU.
3. Yn cydnabod mai un o’r prif resymau dros brinder
cerbydau yw’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi edrych i’r dyfodol wrth
gwtogi ei rhaglen drydaneiddio, gan effeithio ar Abertawe ac arwain at oedi o
safbwynt darpariaeth cerbydau.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw’r etholiad
cyffredinol yn amharu ar geisiadau am randdirymiadau o safbwynt teithwyr â
symudedd cyfyngedig er mwyn sicrhau capasiti ychwanegol ar y rhwydwaith am
gyfnod byr hyd 2020.
5. Yn nodi nad yw’r system gerbydau ar draws y DU yn
gweithio ac yn galw ar Lywodraeth y DU i gydweithio â’r gweinyddiaethau
datganoledig er mwyn datblygu model newydd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
0 |
16 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd.