Cyfarfodydd
NDM7214 Dadl Plaid Cymru - Brexit a Cytundeb au Masnach yn y Dyfodol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 04/12/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 04/12/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 04/12/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Brexit a Chytundeb au Masnach yn y Dyfodol
NDM7214 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod y DU ar fin gadael
yr UE ar 31 Ionawr 2020;
b) bod trafodaethau
masnach anffurfiol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau ynghylch bargen fasnach yn y
dyfodol wedi dechrau, ac mae hynny, yn ôl y sôn, yn cyfeirio at farchnadeiddio
patentau/prisio cyffuriau'r GIG;
c) bod cytuniadau
rhyngwladol y tu allan i gwmpas pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
d) bod adran 82 o
Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo
Gweinidogion Cymru i gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol at ddibenion gweithredu
unrhyw rwymedigaeth ryngwladol.
2. Yn credu:
a) mai'r ffordd orau o
wasanaethu dyfodol Cymru fyddai drwy barhau i fod yn aelod o'r UE ac y dylid
cynnal refferendwm rhwng aros ac opsiwn credadwy ar gyfer gadael;
b) na ddylai GIG Cymru
gael ei orfodi gan Lywodraeth y DU i agor ei farchnad ar gyfer mwy o
ddarpariaeth breifat, neu orfod derbyn cynydd mewn costau cyffuriau a osodir
arno o ganlyniad i unrhyw gytundeb rhyngwladol sy'n ymestyn patentau ac yn
cyfyngu ar y defnydd o gyffuriau generig;
c) byddai cytundeb
masnach yn y dyfodol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau a fyddai'n cynnwys
darpariaethau'n ymwneud â'r GIG yn drychineb i GIG Cymru;
d) bod y system gofal
iechyd yn yr Unol Daleithiau wedi methu â rheoleiddio'n briodol y modd y caiff
opioidau eu marchnata a'u rhagnodi, ac mae'n nodi bod yr amgylchedd
rheoleiddiol annigonol hwn wedi cyfrannu at dros 70,000 o farwolaethau yn yr
Unol Daleithiau oherwydd gorddos o opioid yn 2018, a dim ond un enghraifft yw
hyn o beryglon dadreoleiddio a allai ddilyn cytundeb masnach a ysgrifennwyd er
budd cwmnïau fferyllol yr Unol Daleithiau
e) na ddylai
Llywodraeth y DU allu cyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gymryd camau mewn meysydd
sydd wedi'u datganoli sydd â'r potensial i gael effaith andwyol ar wasanaethau
cyhoeddus Cymru.
3. Yn galw am:
a) i seneddau
datganoledig y DU gael feto ar faterion masnach sydd â'r potensial i effeithio
ar feysydd datganoledig;
b) i Aelodau Seneddol
o Gymru gefnogi Bil diogelu'r GIG sydd i'w gyflwyno yn San Steffan yn y tymor
newydd;
c) ddiddymu adran 82 o
Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Cymru
wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.
2. Yn credu y dylid
rhoi canlyniad refferenda ar waith bob amser.
3. Yn croesawu'r
cyfleoedd i Gymru a fydd yn codi o ganlyniad i gytundebau masnach rydd newydd
ar ôl ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r UE.
4. Yn cydnabod, o dan
y setliad datganoledig, mai mater i Lywodraeth y DU yw'r cyfrifoldeb dros
gytuniadau rhyngwladol.
5. Yn cydnabod y
sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â mynediad i'r farchnad
i'r GIG mewn cytundebau masnach yn y dyfodol.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gŵyr)
Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le:
Yn galw am:
a) i’r sefydliadau datganoledig
gael rôl ffurfiol mewn negodiadau ar gytundebau rhyngwladol pan fyddant yn
effeithio ar gymwyseddau datganoledig, a hynny i ddigwydd ar bob cam o’r
negodiadau a chyda chefnogaeth statudol.
b) confensiwn
cyfansoddiadol i’r DU gyfan i sicrhau bod y trefniadau cyfansoddiadol yn y
dyfodol yn adlewyrchu hyn ac i atal Llywodraeth y DU rhag diystyru’r Cynulliad
Cenedlaethol lle bo’n gweithredu o fewn cymhwysedd datganoledig.
Yn edrych ymlaen at
ethol Llywodraeth yn y DU sydd wedi ymrwymo’n llawn i ddiogelu’r GIG yng
Nghymru ac ar draws y DU.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.19
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7214 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod y DU ar fin gadael yr UE
ar 31 Ionawr 2020;
b) bod trafodaethau masnach
anffurfiol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau ynghylch bargen fasnach yn y dyfodol
wedi dechrau, ac mae hynny, yn ôl y sôn, yn cyfeirio at farchnadeiddio
patentau/prisio cyffuriau'r GIG;
c) bod cytuniadau rhyngwladol y
tu allan i gwmpas pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
d) bod adran 82 o Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo
Gweinidogion Cymru i gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol at ddibenion gweithredu
unrhyw rwymedigaeth ryngwladol.
2. Yn credu:
a) mai'r ffordd orau o wasanaethu
dyfodol Cymru fyddai drwy barhau i fod yn aelod o'r UE ac y dylid cynnal
refferendwm rhwng aros ac opsiwn credadwy ar gyfer gadael;
b) na ddylai GIG Cymru gael ei
orfodi gan Lywodraeth y DU i agor ei farchnad ar gyfer mwy o ddarpariaeth
breifat, neu orfod derbyn cynydd mewn costau cyffuriau a osodir arno o
ganlyniad i unrhyw gytundeb rhyngwladol sy'n ymestyn patentau ac yn cyfyngu ar
y defnydd o gyffuriau generig;
c) byddai cytundeb masnach yn y
dyfodol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau a fyddai'n cynnwys darpariaethau'n
ymwneud â'r GIG yn drychineb i GIG Cymru;
d) bod y system gofal iechyd yn
yr Unol Daleithiau wedi methu â rheoleiddio'n briodol y modd y caiff opioidau
eu marchnata a'u rhagnodi, ac mae'n nodi bod yr amgylchedd rheoleiddiol
annigonol hwn wedi cyfrannu at dros 70,000 o farwolaethau yn yr Unol Daleithiau
oherwydd gorddos o opioid yn 2018, a dim ond un enghraifft yw hyn o beryglon
dadreoleiddio a allai ddilyn cytundeb masnach a ysgrifennwyd er budd cwmnïau
fferyllol yr Unol Daleithiau
e) na ddylai Llywodraeth y DU
allu cyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gymryd camau mewn meysydd sydd wedi'u
datganoli sydd â'r potensial i gael effaith andwyol ar wasanaethau cyhoeddus
Cymru.
3. Yn galw am:
a) i seneddau datganoledig y DU
gael feto ar faterion masnach sydd â'r potensial i effeithio ar feysydd
datganoledig;
b) i Aelodau Seneddol o Gymru
gefnogi Bil diogelu'r GIG sydd i'w gyflwyno yn San Steffan yn y tymor newydd;
c) ddiddymu adran 82 o Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
7 |
0 |
37 |
44 |
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Cymru
wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.
2. Yn credu y dylid
rhoi canlyniad refferenda ar waith bob amser.
3. Yn croesawu'r
cyfleoedd i Gymru a fydd yn codi o ganlyniad i gytundebau masnach rydd newydd
ar ôl ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r UE.
4. Yn cydnabod, o dan
y setliad datganoledig, mai mater i Lywodraeth y DU yw'r cyfrifoldeb dros
gytuniadau rhyngwladol.
5. Yn cydnabod y
sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â mynediad i'r farchnad
i'r GIG mewn cytundebau masnach yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
33 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant
1.
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gŵyr)
Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le:
Yn galw am:
a) i’r sefydliadau
datganoledig gael rôl ffurfiol mewn negodiadau ar gytundebau rhyngwladol pan
fyddant yn effeithio ar gymwyseddau datganoledig, a hynny i ddigwydd ar bob cam
o’r negodiadau a chyda chefnogaeth statudol.
b) confensiwn
cyfansoddiadol i’r DU gyfan i sicrhau bod y trefniadau cyfansoddiadol yn y
dyfodol yn adlewyrchu hyn ac i atal Llywodraeth y DU rhag diystyru’r Cynulliad
Cenedlaethol lle bo’n gweithredu o fewn cymhwysedd datganoledig.
Yn edrych ymlaen at
ethol Llywodraeth yn y DU sydd wedi ymrwymo’n llawn i ddiogelu’r GIG yng
Nghymru ac ar draws y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
3 |
15 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant
2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7214 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod y DU ar fin gadael yr UE
ar 31 Ionawr 2020;
b) bod trafodaethau masnach
anffurfiol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau ynghylch bargen fasnach yn y dyfodol
wedi dechrau, ac mae hynny, yn ôl y sôn, yn cyfeirio at farchnadeiddio
patentau/prisio cyffuriau'r GIG;
c) bod cytuniadau rhyngwladol y
tu allan i gwmpas pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
d) bod adran 82 o Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo
Gweinidogion Cymru i gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol at ddibenion gweithredu
unrhyw rwymedigaeth ryngwladol.
2. Yn credu:
a) mai'r ffordd orau o wasanaethu
dyfodol Cymru fyddai drwy barhau i fod yn aelod o'r UE ac y dylid cynnal
refferendwm rhwng aros ac opsiwn credadwy ar gyfer gadael;
b) na ddylai GIG Cymru gael ei
orfodi gan Lywodraeth y DU i agor ei farchnad ar gyfer mwy o ddarpariaeth
breifat, neu orfod derbyn cynydd mewn costau cyffuriau a osodir arno o
ganlyniad i unrhyw gytundeb rhyngwladol sy'n ymestyn patentau ac yn cyfyngu ar
y defnydd o gyffuriau generig;
c) byddai cytundeb masnach yn y
dyfodol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau a fyddai'n cynnwys darpariaethau'n
ymwneud â'r GIG yn drychineb i GIG Cymru;
d) bod y system gofal iechyd yn
yr Unol Daleithiau wedi methu â rheoleiddio'n briodol y modd y caiff opioidau
eu marchnata a'u rhagnodi, ac mae'n nodi bod yr amgylchedd rheoleiddiol
annigonol hwn wedi cyfrannu at dros 70,000 o farwolaethau yn yr Unol Daleithiau
oherwydd gorddos o opioid yn 2018, a dim ond un enghraifft yw hyn o beryglon
dadreoleiddio a allai ddilyn cytundeb masnach a ysgrifennwyd er budd cwmnïau
fferyllol yr Unol Daleithiau
e) na ddylai Llywodraeth y DU
allu cyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gymryd camau mewn meysydd sydd wedi'u
datganoli sydd â'r potensial i gael effaith andwyol ar wasanaethau cyhoeddus
Cymru.
3. Yn galw am:
a) i’r sefydliadau
datganoledig gael rôl ffurfiol mewn negodiadau ar gytundebau rhyngwladol pan
fyddant yn effeithio ar gymwyseddau datganoledig, a hynny i ddigwydd ar bob cam
o’r negodiadau a chyda chefnogaeth statudol.
b) confensiwn
cyfansoddiadol i’r DU gyfan i sicrhau bod y trefniadau cyfansoddiadol yn y
dyfodol yn adlewyrchu hyn ac i atal Llywodraeth y DU rhag diystyru’r Cynulliad
Cenedlaethol lle bo’n gweithredu o fewn cymhwysedd datganoledig.
4. Yn edrych ymlaen at
ethol Llywodraeth yn y DU sydd wedi ymrwymo’n llawn i ddiogelu’r GIG yng
Nghymru ac ar draws y DU.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
7 |
11 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.