Cyfarfodydd

NDM7215 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Lefelau Staff Nyrsio

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/12/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Lefelau Staff Nyrsio

NDM7215 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Cynnydd a Her: Gweithredu Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016.

2. Yn nodi bod mwy o nyrsys yn gadael y GIG nag sy'n ymuno.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y bydd GIG Cymru yn cynyddu'r cyfleoedd i weithio'n hyblyg fel rhan o strategaeth genedlaethol ar gyfer cadw nyrsys.

Cynnydd a Her: Gweithredu Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

Cyd-gyflwynwyr
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David Rees (Aberafan)

Cefnogwyr
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.57

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7215 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Cynnydd a Her: Gweithredu Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016.

2. Yn nodi bod mwy o nyrsys yn gadael y GIG nag sy'n ymuno.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y bydd GIG Cymru yn cynyddu'r cyfleoedd i weithio'n hyblyg fel rhan o strategaeth genedlaethol ar gyfer cadw nyrsys.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

14

0

44

Derbyniwyd y cynnig.