Cyfarfodydd
NDM7221 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adfywio Cymunedol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 08/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 08/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 08/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adfywio Cymunedol
NDM7221 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at
fethiant rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â
thlodi yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
2. Yn cydnabod yr
angen i gyflawni, yn ymarferol, dull cydgynhyrchiol o adfywio cymunedol, gyda
chyfraniad y gymuned at gyd-gynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol.
3. Yn cydnabod yr
heriau penodol y mae trefi glan môr a threfi marchnad yn eu hwynebu gyda
chyfraddau uwch o siopau gwag a lefelau uwch o amddifadedd nag mewn rhannau
eraill o Gymru.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfeydd trefi glan môr a threfi marchnad i
gefnogi'r gwaith o adfywio mewn cymunedau ledled Cymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu’r cyfan a rhoi
yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r
buddsoddiad o £800m i adfywio cymunedau a chanol trefi rhwng 2014 a 2022.
2. Yn nodi’r cymorth
sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i fusnesau lleol mewn trefi ledled
Cymru, gan gynnwys pecyn cynhwysfawr o ryddhad ardrethi annomestig, i roi sylw
i eiddo gwag ar y stryd fawr.
3. Yn cydnabod rôl
bwysig Ardaloedd Gwella Busnes wrth helpu busnesau a chymunedau i gydweithio i
ddarparu atebion ar lawr gwlad a helpu i adfywio eu hardaloedd lleol.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at bolisïau
budd-daliadau Llywodraeth y DU, yn enwedig Credyd Cynhwysol, sydd wedi cynyddu
tlodi fel y nodwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn Adroddiad y Rapporteur Arbennig
ar dlodi eithafol a hawliau dynol.
Yn cydnabod effeithiau
niweidiol llymder ar adfywio cymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi
mentrau cymunedol i wrthdroi ei effeithiau.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyd-ddatblygu'r gwaith o adfywio'r stryd fawr a pholisi trafnidiaeth
leol fel ffordd o wella adfywio cymunedol.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.52
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7221 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at fethiant
rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi yng
nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
2. Yn cydnabod yr angen i
gyflawni, yn ymarferol, dull cydgynhyrchiol o adfywio cymunedol, gyda
chyfraniad y gymuned at gyd-gynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol.
3. Yn cydnabod yr heriau
penodol y mae trefi glan môr a threfi marchnad yn eu hwynebu gyda chyfraddau
uwch o siopau gwag a lefelau uwch o amddifadedd nag mewn rhannau eraill o
Gymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sefydlu cronfeydd trefi glan môr a threfi marchnad i gefnogi'r gwaith o
adfywio mewn cymunedau ledled Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
1 |
37 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £800m i adfywio cymunedau
a chanol trefi rhwng 2014 a 2022.
2. Yn nodi’r cymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth
Cymru i fusnesau lleol mewn trefi ledled Cymru, gan gynnwys pecyn cynhwysfawr o
ryddhad ardrethi annomestig, i roi sylw i eiddo gwag ar y stryd fawr.
3. Yn cydnabod rôl bwysig Ardaloedd Gwella Busnes wrth
helpu busnesau a chymunedau i gydweithio i ddarparu atebion ar lawr gwlad a
helpu i adfywio eu hardaloedd lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
22 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant
1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant
2 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7221 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £800m i adfywio cymunedau
a chanol trefi rhwng 2014 a 2022.
2. Yn nodi’r cymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth
Cymru i fusnesau lleol mewn trefi ledled Cymru, gan gynnwys pecyn cynhwysfawr o
ryddhad ardrethi annomestig, i roi sylw i eiddo gwag ar y stryd fawr.
3. Yn cydnabod rôl bwysig Ardaloedd Gwella Busnes wrth
helpu busnesau a chymunedau i gydweithio i ddarparu atebion ar lawr gwlad a
helpu i adfywio eu hardaloedd lleol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
22 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd.