Cyfarfodydd
NDM7229 Dadl Plaid Cymru - Trais a Chamdriniaeth Rywiol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Trais a Chamdriniaeth Rywiol
NDM7229 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r cynnydd
mewn adroddiadau o drais rhywiol yng Nghymru a
Lloegr.
2. Yn mynegi
cydymdeimlad ac undod â goroeswyr trais a chamdriniaeth rywiol.
3. Yn gresynu at
fethiant parhaus nifer o systemau cyfiawnder troseddol ledled y byd i gynnig
cefnogaeth i oroeswyr, a gresynu’r ffaith nad yw goroeswyr, yn rhy aml, yn cael
eu credu ac yn cael eu gorfodi i ail-fyw profiadau erchyll drwy brosesau llys
dwys, a diwylliannau mewn heddluoedd nad ydynt yn credu dioddefwyr.
4. Yn nodi bod
erlyniadau ar gyfer trais rhywiol ac euogfarnau yng Nghymru a Lloegr ar eu
lefelau isaf ers degawd, a bod gwella cyfraddau euogfarnu’n rhan hanfodol o
strategaeth atal trais.
5. Yn nodi bod
comisiwn Thomas wedi dadlau mai dim ond datganoli deddfwriaethol llawn, ar y
cyd â phwerau gweithredol, fydd yn goresgyn rhwystrau’r setliad datganoli
presennol o ran mynd i’r afael â diffyg cyfiawnder ac atebolrwydd y status quo.
6. Yn galw i
gefnogaeth a gwasanaethau ymosodiad rhywiol fod ar gael a chael eu hariannu’n
ddigonol, ac i lysoedd gael eu haddasu fel y bydd dioddefwyr yn teimlo eu bod
yn cael eu hamddiffyn, nid eu dychryn, wrth roi tystiolaeth.
7. Yn galw i
ddatganoli cyfiawnder fel y gallwn fynd i’r afael â’r cyfraddau euogfarnu isel
hyn drwy fabwysiadu arfer gorau rhyngwladol ar gynyddu cyfraddau euogfarnu ac
atal camdriniaeth a thrais rhywiol.
Adroddiad
Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru - Hydref 2019
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Dileu pwyntiau 5 a 7.
Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Nodi adroddiad
Comisiwn Thomas ac yn diolch i’r Comisiwn am ei waith ar y posibilrwydd o
ddatganoli cyfiawnder gan edrych ymlaen at y ddadl a addawyd yn ystod amser y
llywodraeth ar ganfyddiadau’r Comisiwn ac unrhyw effaith gaiff y rhain ar
gynyddu cyfraddau euogfarnu ac atal camdriniaeth a thrais rhywiol.
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod adroddiad
Arolwg Trais Rhywiol 2019 Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron EM wedi canfod
bod nifer yr achosion a gyfeiriwyd at y Gwasanaeth i gael eu penderfynu gan yr
heddlu a nifer yr achosion a erlynwyd gan y Gwasanaeth wedi disgyn, er gwaethaf
bod adroddiadau o drais a gaiff eu cyflwyno i'r heddlu bron wedi dyblu.
Arolygiaeth
Gwasanaeth Erlyn y Goron EM - Arolwg Trais Rhywiol 2019 - Rhagfyr 2019
Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi datganiad
Llywodraeth y DU bod y canfyddiadau yn peri pryder mawr a'i bod wedi ymrwymo i
adfer hyder yn y system gyfiawnder a darparu gwell cefnogaeth i ddioddefwyr.
Adroddiad
HMCPSI ar gyfraddau euogfarnau trais rhywiol - 17 Rhagfyr 2019
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am
17.37
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7229 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru :
1. Yn nodi’r cynnydd mewn adroddiadau o
drais rhywiol yng Nghymru a Lloegr.
2. Yn mynegi cydymdeimlad ac undod â
goroeswyr trais a chamdriniaeth rywiol.
3. Yn gresynu at fethiant parhaus nifer o
systemau cyfiawnder troseddol ledled y byd i gynnig cefnogaeth i oroeswyr, a
gresynu’r ffaith nad yw goroeswyr, yn rhy aml, yn cael eu credu ac yn cael eu
gorfodi i ail-fyw profiadau erchyll drwy brosesau llys dwys, a diwylliannau
mewn heddluoedd nad ydynt yn credu dioddefwyr.
4. Yn nodi bod erlyniadau ar gyfer trais
rhywiol ac euogfarnau yng Nghymru a Lloegr ar eu lefelau isaf ers degawd, a bod
gwella cyfraddau euogfarnu’n rhan hanfodol o strategaeth atal trais.
5. Yn nodi bod comisiwn Thomas wedi dadlau
mai dim ond datganoli deddfwriaethol llawn, ar y cyd â phwerau gweithredol,
fydd yn goresgyn rhwystrau’r setliad datganoli presennol o ran mynd i’r afael â
diffyg cyfiawnder ac atebolrwydd y status quo.
6. Yn galw i gefnogaeth a gwasanaethau
ymosodiad rhywiol fod ar gael a chael eu hariannu’n ddigonol, ac i lysoedd gael
eu haddasu fel y bydd dioddefwyr yn teimlo eu bod yn cael eu hamddiffyn, nid eu
dychryn, wrth roi tystiolaeth.
7. Yn galw i ddatganoli cyfiawnder fel y
gallwn fynd i’r afael â’r cyfraddau euogfarnu isel hyn drwy fabwysiadu arfer
gorau rhyngwladol ar gynyddu cyfraddau euogfarnu ac atal camdriniaeth a thrais
rhywiol.
Adroddiad Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru - Hydref 2019
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
2 |
12 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.